Neidio i'r cynnwys

Brwydr Maes Cogwy

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Maes Cogwy
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Awst 642 Edit this on Wikidata
LleoliadCroesoswallt Edit this on Wikidata
Map
Ffenestr liw yn Eglwys Gaderiol Durham: Y Brenin Oswallt

Ymladdwyd Brwydr Maes Cogwy (neu Brwydr Cogwy, Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mersia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair gyda Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hynny.

Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2993)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]