Cynddylan
Cynddylan | |
---|---|
Bu farw | 656 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Cyndrwyn Fawr |
Brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7g oedd Cynddylan, neu Cynddylan ap Cyndrwyn (bu farw tua 655). Cysylltir ef a Pengwern, a chred rhai haneswyr ei fod hefyd yn rheolwr Dogfeiling.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Cynddylan yn fwyaf adnabyddus o'r gyfres englynion a elwir wrth yr enw Canu Heledd. Credir fod y farddoniaeth yma yn dyddio o tua'r 10g. Y person sy'n siarad ynddynt yw Heledd, chwaer Cynddylan. Mae'n galaru fod Cynddylan wedi ei ladd a'i neuadd yn wag:
Stauell gyndylan ys tywyll heno,
heb dan, heb wely.
wylaf wers; tawaf wedy.[1]
Ceir hefyd gerdd o'r enw Marwnad Cynddylan, mewn llawysgrif o'r 17g (MS NLW4973). Arferid credu fod y gerdd yma yn dyddio o'r 9g, ond mae gwaith diweddar gan ysgolheigion wedi awgrymu ei bod yn hŷn, ac yn deillio o'r 7g, ac felly efallai yn gerdd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth Cynddylan ei hun. Ceir awfrym yn y gerdd yma ei fod mewn cynhhrair a Penda, brenin Mersia, ac mae pennill yng Nghanu Heledd yn awgrymu iddo ymladd ym mrwydr Maes Cogwy pan laddwyd Oswallt, brenin Northumbria.
Cof
[golygu | golygu cod]Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Jenny Rowland, Early Welsh Saga Poetry: a study and edition of the englynion (Caergrawnt: D.S. Brewer, 1990)
- Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau, gol. Ifor Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Canu Llywarch Hen, gol. Ifor Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)