Tŷ Opera Sydney
| Math | tŷ opera, tirnod, atyniad twristaidd, historical cultural heritage site |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 20 Hydref 1973 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Sydney, Dinas Sydney |
| Sir | Dinas Sydney |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3.82965264 ha, 5.8 ha, 438.1 ha |
| Uwch y môr | 15 metr |
| Gerllaw | Port Jackson |
| Cyfesurynnau | 33.85706°S 151.2149°E |
| Rheolir gan | Sydney Opera House Trust |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | expressionist architecture |
| Perchnogaeth | Government of New South Wales |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, listed on the Australian National Heritage List, Heritage Act — State Heritage Register, Local Environmental Plan, National Trust of Australia register, Royal Australian Institute of Architects register, listed on the Register of the National Estate |
| Manylion | |
| Deunydd | concrit |
Lleolir Tŷ Opera Sydney yn Sydney, Awstralia. Gwnaed yr adeilad yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar 28 Mehefi, 2007. Adeiladwyd yr adeilad yn seiliedig ar gynllun buddugol y pensaer Danaidd Jørn Utzon ac mae bellach yn un o adeiladau mwyaf unigryw yr 20g ac yn un o ganolfannau y celfyddau creadigol enwocaf y byd. Roedd yn un o'r ugain adeilad a gyrhaeddodd rownd derfynol prosiect Saith Rhyfeddod Newydd y Byd yn 2007.
Mae Tŷ Opera Sydney wedi ei leoli ar Bennelong Point yn Harbwr Sydney, yn agos at Bont Harbwr Sydney. Mae'r adeilad a'r ardal o'i amgylch yn un o eiconau mwyaf adnabyddus Awstralia.
Yn ogystal â chwmnïau theatr teithiol, ballet a chynhyrchiadau cerddorol, mae'r Tŷ Opera yn gartref i Opera Awstralia, Cwmni Theatr Sydney a Cherddorfa Symffoni Sydney. Caiff y ganolfan ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth Tŷ Opera Sydney.
