Pont Harbwr Sydney

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Machlud haul dros y bont
Pont Harbwr Sydney
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Pont yn Sydney, Awstralia yw Pont Harbwr Sydney, sy'n croesi Bae Jackson. Fe'i adeiladwyd rhwng 1923 a 1932.[1] Mae gan y bont 6 miliynau o ribedi a 53,000 tunnell o ddur. Agorwyd y bont yn swyddogol ar 19 Mawrth 1932. Yn wreiddiol, cafodd y bont 2 lein reilffordd, 2 lein dramffordd a 6 lôn ar gyfer ceir. Caewyd tramffyrdd Sydney yn y 50au, fell mae 8 lôn ar gyfer ceir erbyn hyn.[2]

Twristiaid yn dringo'r bont

Mae'r olygfa ddramatig o'r bont, yr harbwr a Thŷ Opera Sydney gerllaw yn ddelwedd eiconig o'r ddinas honno. Ers 1998, cynhelir teithiau i fyny'r bont ar gyfer twristiaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Sydney Harbour Bridge. Structurae. Adalwyd ar 27 Chwefror 2015.
  2. Gwefan australia.gov.au
Australia globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.