Thomas Love Peacock

Oddi ar Wicipedia
Thomas Love Peacock
Ganwyd18 Hydref 1785 Edit this on Wikidata
Weymouth Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1866 Edit this on Wikidata
Shepperton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, nofelydd, ysgrifennwr, rhyddieithwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNightmare Abbey, Headlong Hall, Crotchet Castle, Maid Marian, The Legend of the Manor Hall Edit this on Wikidata
Arddullnofel ddychanol Edit this on Wikidata
PlantEdward Gryffydh Peacock Edit this on Wikidata
Portread o Thomas Love Peacock yn ddyn ieuanc

Llenor o Sais oedd Thomas Love Peacock (18 Hydref 178523 Ionawr 1866), a aned yn Weymouth, Dorset, de Lloegr. Roedd yn gyfaill i'r bardd Shelley ond nid oedd yn un o awduron mwyaf adnabyddus ei oes. Dim ond ar ôl ei farwolaeth y dechreuodd beirniaid a darllenwyr werthfawrogi ei waith. Efallai taw un rheswm am hynny yw'r ffaith mai nofelau bwrlesg byrion oedd ei hoff gyfrwng, a hynny mewn cyfnod yn hanes llenyddiaeth Saesneg pan ddisgwylid i unrhyw nofel werth yr enw lenwi tair cyfrol.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Peacok yn Weymouth. Roedd ei dad yn fasnachwr gwydr. Bu farw'r tad pan oedd Peacok yn dair oed ac aeth ef a'i fam i Chertsey, Swydd Surrey i fyw efo'i daid ar ochr ei fam. O wyth mlwydd oed hyd ei fod yn dri ar ddeg bu Peacock mewn ysgol yn Englefield Green, a oedd yn cael ei gadw gan gwr o'r enw Mr Wicks. Yn ôl Peacock Nid oedd yr athro yn llawer o ysgolhaig; ond roedd ganddo'r grefft o ysbrydoli ei ddisgyblion gyda'i gariad at ddysgu."

Cafwyd rhagolwg o ddawn Peacock fel awdur tra yn yr ysgol pan enillodd wobr am draethawd yn y cylchgrawn ieuenctid "The Juvenile Library"

Yn un ar bymtheg oed symudodd Peacock gyda'i fam i Lundain, lle bu am gyfnod yn dilyn galwedigaeth fasnachol. Yn Llundain bu'n gwneud defnydd helaeth o adnoddau llyfrgelloedd y ddinas i wella ar ei addysg. Yn Llundain cyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf, y llyfrau o gerddi The Monks of St. Mark a Palmyra.[1]

Cymru[golygu | golygu cod]

Yn 1829, cyhoeddodd Thomas Love Peacock ei nofel fer The Misfortunes of Elphin. Mae hi'n nofel fwrlesg sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl Hanes Taliesin ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes Cantre'r Gwaelod a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â fersiwn o Hanes Taliesin. Roedd ei nofel hir cyntaf, ''Headlong Hall'' hefyd wedi ei leoli yng Nghymru. Mae'r llyfr yn hanes criw o ddynion yn teithio ar Goets Bost Caergybi i Gapel Curig i ymweld â Headlong Hall, cartref man bonheddwr, Cymreig. Gan watwar tueddiad y Cymry bonheddig i Saesnigeiddio eu hunnain mae'n egluro'r modd cymhleth y llygrwyd yr enw Neuadd y Pistyll gan ei droi i Headlong (rhywbeth i wneud efo'r ffaith bod pistyll yn mynd dros y dibyn gerfydd ei phen).[2] Ymwelodd â Meirionnydd sawl gwaith a phriododd ferch leol, sef Jane Gryffydh neu Griffith yn 1820.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gwsg yn Lower Halliford, Middlesex, ar 23 Ionawr 1866 a chladdwyd ef chwe diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent newydd Shepperton.[3]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

Cerddi[golygu | golygu cod]

  • The Monks of St. Mark (1804?)
  • Palmyra and other Poems (1805)
  • The Genius of the Thames: a Lyrical Poem (1810)
  • The Genius of the Thames Palmyra and other Poems (1812)
  • The Philosophy of Melancholy (1812)
  • Sir Hornbook, or Childe Launcelot's Expedition (1813)
  • Sir Proteus: a Satirical Ballad (1814)
  • The Round Table, or King Arthur's Feast (1817)
  • Rhododaphne: or the Thessalian Spirit (1818)
  • Paper Money Lyrics (1837)

Traethodau[golygu | golygu cod]

  • The Four Ages of Poetry (1820)
  • Recollections of Childhood: The Abbey House (1837)
  • Memoirs of Shelley (1858-60)
  • The Last Day of Windsor Forest (1887) [ysgrifennwyd 1862]
  • Prospectus: Classical Education

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • The Three Doctors
  • The Dilettanti
  • Gl'Ingannati, or The Deceived (cyfieithiad o'r Eidaleg, 1862)

Straeon a nofelau anorffenedig[golygu | golygu cod]

  • Satyrane (c. 1816)
  • Calidore (c. 1816)
  • The Pilgrim of Provence (c. 1826)
  • The Lord of the Hills (c. 1835)
  • Julia Procula (c. 1850)
  • A Story Opening at Chertsey (c. 1850)
  • A Story of a Mansion among the Chiltern Hills (c. 1859)
  • Boozabowt Abbey (c. 1859)
  • Cotswald Chace (c. 1860)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peacock, Thomas Love (1891). Cyflwyniad i argraffiad 1891 o Headlong Hall. Dent.
  2. Peacock, Thomas Love (1815). "Headlong Hall". Gutenberg. Cyrchwyd 2019-11-18.
  3. "Peacock, Thomas Love (1785–1866), satirical novelist and poet | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-21681. Cyrchwyd 2019-11-19.