The Jazz Singer (ffilm 1927)

Oddi ar Wicipedia
Ceir mwy nag un ffilm o'r enw: gweler The Jazz Singer.


The Jazz Singer

Poster
Cyfarwyddwr Alan Crosland
Cynhyrchydd Jack Warner
Ysgrifennwr Samson Raphaelson (drama)
Alfred A. Cohn(adaptation)
Serennu Al Jolson
May McAvoy
Warner Oland
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros.
Dyddiad rhyddhau 6 Hydref, 1927
Amser rhedeg 97 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

The Jazz Singer ("Y Canwr Jazz") oedd y ffilm sain gyntaf i ymddangos (UDA, 1927, 89m). Fe'i cyfarwyddwyd gan Alan Crosland. Seren y ffilm oedd y canwr jazz Al Jolson. Roedd yr aelodau cast eraill yn cynnwys May McAvoy, Warner Oland ac Eugenie Besserer.

Er ei bod yn enwog fel "y ffilm sain gyntaf" a agorodd oes y talkies yn America a gweddill y byd, mewn gwirionedd mae The Jazz Singer yn ffilm fud sy'n cynnwys rhai traciau sain cerddorol. Ffilm hybrid oedd hi felly, yn pontio'r bwlch rhwng y ffilmiau mud a'r talkies newydd. Serch hynny roedd y ffilm yn garreg filltir yn hanes y diwydiant ffilm a diwylliant poblogaidd yr 20g.

Stori eithaf syml am Jolson fel dyn ifanc yn ceisio gwneud ei farc ym myd showbiz yw hi, ac mae'n edrych yn ddigon hen ffasiwn ac anystwyth erbyn heddiw. Ond mae'n cynnwys ambell olygfa eiconig a chaneuon fel My Mammy sy'n gyfarwydd i bawb.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.