Frances Môn Jones
Frances Môn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1919 Brychdyn |
Bu farw | 8 Medi 2000 Llanfair Caereinion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athro, telynor |
Telynores o Frychdyn, Wrecsam ac un o enillwyr Medal Syr T.H. Parry-Williams oedd Frances Môn Jones (20 Hydref 1919 - 8 Medi 2000) a adnabyddid hefyd fel Telynores Brython ac yna fel Ffranses Môn.[1] Cynorthwyodd W. S. Gwynn Williams i sefydlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1947 ac roedd yn flaenllaw yn natblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.[2]
Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]
Ganwyd Frances Môn Jones ar 20 Hydref 1919 ym Mrychdyn, Sir y Fflint i David Charles Davies a Mary Jane (neé. Goodwin) ac fe'i maged mewn cartref di-Gymraeg. Wedi gadael Ysgol Gynradd Brychdyn bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Grove Park, Wrecsam. Dysgodd Gymraeg a chafodd wersi ar y delyn gan Alwena Roberts, (Telynores Iâl) (1899-1981). Bu'n llwyddiannus ar yr unawd telyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol (1937, 1938 ac 1939). Yn 1949 daeth yn fuddugol ar yr unawd soprano.[3]
Rhwng 1955 a 1960 fe'i derbyniwyd ar gwrs cerddoriaeth yn Ngholeg Cerdd Manceinion rhwng 1955 a 1960, lle arbenigodd yn y delyn gyda Jean Bell ymysg ei darlithwyr a'r Athro D. E. Parry-Williams ym Mhrifysgol Bangor.
Yn 1947 priododd y Parchedig Robert Môn Jones, a oedd yn enedigol o Aberffraw, gweinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd. Buont yn byw mewn sawl man yng Ngogledd Cymru gan ymsefydlu yn Llanfair Caereinion yn 1965.
Hyfforddi[golygu | golygu cod]
Ymhlith ei disgyblion mae'r gantores werin Siân James ac Ieuan Jones (Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain) a llawer rhagor, yn enwedig o ardal Llanfair Caereinion. Ffurfiodd hefyd gôr telynau.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
- 1953 - fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd dan yr enw 'Telynores Brython' ac yna fel 'Ffranses Môn'
- 1996 - Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera)
- 1983 - MBE
- 1999 - Enillydd Medal Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ eisteddfod.cymru;[dolen marw] adalwyd 10 Rhagfyr 2016.
- ↑ clera.org; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; ar wefan Y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd Rhagfyr 2016.
- Robin Gwyndaf, Portread o gymwynaswraig: Frances Môn Jones, Canu Gwerin cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru 22 (1999), 3-10.