The Walt Disney Company

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
The Walt Disney Company
TWDC Logo.svg
Math Cyhoeddus
Sefydlwyd Los Angeles, Califfornia, Unol Daleithiau[1]
(16 Hydref 1923)
Sylfaenydd Walt Disney a Roy O. Disney
Rhagflaenydd Laugh-O-Gram Studio
Pencadlys 500 South Buena Vista Street,
Burbank, Califfornia, Unol Daleithiau 34°09′22″N 118°19′31″W / 34.156207°N 118.325189°W / 34.156207; -118.325189Cyfesurynnau: 34°09′22″N 118°19′31″W / 34.156207°N 118.325189°W / 34.156207; -118.325189
Ardal wasanaethu Byd-eang
Pobl blaenllaw Bob Iger (Cadeirydd a Phrif Weithredwr)
Diwydiant Cyfryngau torfol
Adloniant
Cynnyrch Teledu cebl, cyhoeddi, ffilm, cerddoriaeth, gemau fideo, parciau thema, darlledu, radio, pyrth gwe
Gwasanaethau Trwyddedu
Refeniw increase US$ 48.813 biliwn (2014)[2]:25
Incwm gweithredol increase US$ 12.246 biliwn (2014)[2]:26
Incwm net increase US$ 08.004 biliwn (2014)[2]:26
Cyfanswm asedau increase US$ 84.186 biliwn (2014)[2]:66
Soddgyfran Decrease US$ 44.958 biliwn (2014)[2]:66
Gweithwyr 180,000 (2014)[2]
Adrannau
Is-gwmnïau
Gwefan thewaltdisneycompany.com

Cwmni amlwladol Americanaidd yn niwydiannau'r cyfryngau torfol ac adloniant yw The Walt Disney Company, a adwaenir yn aml fel Disney, sydd a'i bencadlys Walt Disney Studios yn Burbank, Califfornia. Disney yw cwmni darlledu a theledu cebl ail fwyaf y byd yn nhermau refeniw; Comcast yw'r mwyaf.[3] Sefydlwyd cwmni Disney ar 16 Hydref 1923 gan Walt Disney a Roy O. Disney dan yr enw Disney Brothers Cartoon Studio. Daeth yn arweinydd yn niwydiant animeiddio'r Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach mewn cynhyrchu ffilmiau, teledu, a pharciau thema. Gweithredodd y cwmni dan yr enwau The Walt Disney Studio a Walt Disney Productions (1929–86).[4] Mabwysiadodd ei enw cyfredol ym 1986, a thyfodd ei weithredoedd ac hefyd sefydlodd adrannau sy'n ymwneud â'r theatr, radio, cerddoriaeth, cyhoeddi, a chyfryngau ar-lein.

Y pencadlys corfforaethol, Walt Disney Studios.

Mae rhai o adrannau Disney yn marchnata cynnyrch o natur fwy aeddfed na'r prif frandiau a anelir at blant a theuluoedd. Cynnyrch enwocaf y cwmni yw ei ffilmiau a wneir gan Walt Disney Studios, sydd yn un o'r stiwdios ffilm mwyaf ei maint yn sinema'r Unol Daleithiau. Mae Disney hefyd yn berchen ar y rhwydwaith teledu ABC a sianeli cebl gan gynnwys y Disney Channel, ESPN, A+E Networks, ac ABC Family; adrannau cyhoeddi, marsiandïaeth, cerddoriaeth, a theatr; ac yn berchen ar 14 o barciau thema o gwmpas y byd. Mae'r cwmni'n rhan o'r Dow Jones Industrial Average ers 6 Mai 1991. Symbol amlycaf Disney yw'r cymeriad cartŵn Mickey Mouse.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]