Mickey Mouse
![]() | |
Ymddangosiad cyntaf | Steamboat Willie[1] 18 Tachwedd, 1928 |
---|---|
Crewyd gan | Walt Disney Ub Iwerks |
Llais | Walt Disney (1928–1966) Carl W. Stalling (1929) Clarence Nash (1934) Jimmy MacDonald (1947–1977) Wayne Allwine (1977–2009)[2] Les Perkins (1986–1987) Bret Iwan (2009–cyfredol) Chris Diamantopoulos (2013–presenol) |
Datblygwyd gan | Floyd Gottfredson Les Clark Fred Moore |
Rhywogaeth | Llygoden |
Rhiw | Gwryw |
Teulu | Teulu Mickey Mouse |
Cymar | Minnie Mouse |
Ci anwes | Pluto |
Mae Mickey Mouse yn gymeriad animeiddiedig a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ym 1928. Mae'n llygoden anthropomorffig sydd wedi'i nodweddu fel optimist anturus, mawr o galon gydag elfennau o gymeriad direidus. Amcanir ei fod yn 2 '3 " (69 centimedr) o daldra ac yn pwyso 23 pwys (10 cilogram), mae Mickey yn hawdd ei adnabod trwy ei glustiau crwn, trowsus byr coch, llais falsetto, menig gwyn ac esgidiau melyn mawr.[3]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Crëwyd Mickey I gymryd lle Oswald, y gwningen lwcus, seren gynharach a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ar gyfer cwmni Charles Mintz, Universal Studios. Ar ôl cael llwyddiant mawr gyda ffilmiau byr Oswald,[4] gofynnodd Disney am gyllideb uwch ar gyfer cynhyrchu cartwnau pellach. Gan ei fod yn berchen ar y cymeriad yn gyfreithiol, gwrthododd Mintz gais Disney. Daeth Disney a'i berthynas â Universal I ben yn fuan wedyn a sefydlodd ei gwni ei hun Walt Disney Productions. O'r pwynt hwnnw ymlaen, gwnaeth Disney yn siŵr ei fod yn berchen ar yr holl hawliau i'r cymeriadau a gynhyrchwyd gan ei gwmni. Heb yr hawl i gynhyrchu rhagor o ffilmiau am Oswald, bu'n rhaid creu cymeriadau newydd ar gyfer creu ffilmiau animeiddiedig i'w gwmni newydd.
Cartŵn cyntaf Mickey Mouse oedd Plane Crazy (1928) ond ni fu'r ffilm yn llwyddiant a methodd cael hyd i gwmni i'w dosbarthu i'r sinemâu. Tebyg bu ffawd ei ail ffilm The Gallopin' Gaucho (1928). Roedd y ddwy ffilm gyntaf yn rhai mud. Yn dilyn eu methiant penderfynodd Disney i roi cais ar ffilm llais am drydydd ymddangosiad Mickey. Cafodd y drydedd ffilm, Steamboat Willie, croeso gwresog gan feirniaid a'r cyhoedd wedi ei ddarllediad cyntaf pan gafodd ei ddangos am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 18 Tachwedd, 1928.[5]
Wedi llwyddiant Steamboat Willie dringodd Mickey Mouse yn gyflym i binacl diwylliant Americanaidd, gan ddod y cymeriad cartŵn mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn y byd i gyd ac yn ddylanwad mawr ar ffilmiau cartŵn olynol. Mae wedi ymddangos mewn dros 130 o ffilmiau ac mae wedi derbyn un ar ddeg Gwobr yr Academi. Ym 1978, daeth Mickey y cymeriad ffuglen gyntaf i gael seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.[6]
Am 90 mlynedd, mae Mickey wedi bod yn gonglfaen ymerodraeth Disney. Roedd ei lwyddiant yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiadau niferus ym maes celf animeiddio, a'r diwydiant adloniant yn ei gyfanrwydd.
Heddiw, Mickey, o bell ffordd, yw cymeriad mwyaf enwog cwmni Walt Disney ac yn gwasanaethu fel masgot y cwmni. Mae ei silwét 3 gylch yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o is-gwmnïau Disney, ac eithrio'r rhai nad ydynt yn cario label 'Disney' neu 'Walt Disney'.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Walt Disney Archives - D23".
- ↑ "Voice of Mickey Mouse dies - ABC News (Australian Broadcasting Corporation)". Abc.net.au. Cyrchwyd April 8, 2012.
- ↑ Wikia - Mickey mouse adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Disney Resorts - Oswald the Lucky Rabbit Is on His Way to Disney California Adventure Park adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Happy Birthday, Mickey Mouse! Fun facts about everyone's favorite mouse adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Minnie Mouse receives star on Hollywood Walk of Fame adalwyd 26 Medi 2018