I. D. Hooson
I. D. Hooson | |
---|---|
Ganwyd | 2 Medi 1880 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 18 Hydref 1948 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfreithiwr |
Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 1880 – 18 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.
O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel "Cyfaill i Blant Cymru".
Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i "Mri Morris & Jones" yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.[1]
Cofeb
[golygu | golygu cod]Yn unol â'i ddymuniad gwasgarwyd llwch I. D. Hooson uwchben pen dwyreiniol Panorama Walk yn nyffryn Llangollen lle saif cofeb garreg [2] er cof amdano. Mae'n hawdd cyrraedd yr heneb ar hyd llwybr sy'n arwain i'r gogledd-orllewin o faes parcio bach ar ochr y ffordd [Cyfeirnod Grid: SJ 2471 2480] ychydig i'r gorllewin o'r grid gwartheg.
Mae darlun o'r gofeb ar glawr llyfr I. D. Hooson - Y Casgliad Cyflawn a gyhoeddwyd yn 2012.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol
- ↑ cyfeiriad grid SJ 24589 42874
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Y Bywgraffiadur Ar-lein
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: