William David Owen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William David Owen
Ganwyd 21 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Bodedern Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata (51 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Cyfreithiwr, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Nofelydd Cymraeg oedd William David Owen (21 Hydref 18744 Tachwedd 1925), a ysgrifennai wrth yr enw W. D. Owen. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y rhamant hanesyddol Madam Wen.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŷ Franan, Bryngwran; man geni a magu W. D. Owen.

Ganed W. D. Owen yn "Nhŷ Franan", ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Bryngwran, ond ym mhlwyf Bodedern, Ynys Môn yn 1874.[2][3] Astudiodd yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac aeth ymlaen i astudio'r gyfraith a daeth yn fargyfreithiwr. Aeth i weithio i Lundain ond bu'n wael iawn a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref i Fôn lle gweithiodd fel cyfreithiwr yn Rhosneigr am rai blynyddoedd. Dyma'r cyfnod pan aeth ati i lenydda. Bu farw ar 4 Tachwedd 1925, yn 50 oed.[4]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd ddwy nofel fel cyfres yn Y Genedl Gymreig, newyddiadur Cymraeg a gyhoeddid yng Nghaernarfon. Ni roddir llawer o sylw gan feirniaid heddiw i'r gyntaf, sef Elin Cadwaladr (1914), ond mae'r ail, Madam Wen (1914-1917) yn llyfr poblogaidd o hyd ac wedi ysbrydoli ffilm teledu a ddangoswyd ar S4C. Ymddengys fod yr awdur wedi tynnu ar draddodiadau lleol i lunio'r rhamant gyffrous a leolir ar yr ynys ganol y 18g. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger Bodedern.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau W. D. Owen[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Elin Cadwaladr (1914)
  • Madam Wen (1914-17) yn Y Genedl Gymreig; cyhoeddwyd fel llyfr gan Hughes a'i Fab (1925)

Erthyglau amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mairwen Gwynn Jones, "W. D. Owen", Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).
  • R. Maldwyn Thomas, "W. D. Owen", Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Y Bala, 1979)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mairwen Gwynn Jones, 'W. D. Owen', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983.
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; gwybodaeth gan ei chwaer ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Ffotograff o'r tŷ, a lleoliad ar wefan anglesey.info; adalwyd 15 Rhagfyr 2016.
  4. 4.0 4.1 R. Maldwyn Thomas, 'W. D. Owen', Gwŷr Môn (Y Bala, 1979).