Iris de Freitas

Oddi ar Wicipedia
Iris de Freitas
Llun a gymeryd gan H.H. Davies o Heol y Wig, Aberystwyth c. 1922-23.
Ganwyd29 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
British Guiana Edit this on Wikidata
Bu farwMai 1989 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata

Iris de Freitas (29 Hydref 1896 - 1989) oedd y fenyw gyntaf yn y Caribî i fod yn gyfreithwraig.[1] Ganwyd yn Georgetown, Gaiana. Marchnatwr oedd ei thad, M. G. de Freitas, ac roedd ganddi o leiaf un brawd, sef Stanley. Aeth Iris i Brifysgol Toronto yng Nghanada ym Medi 1918, ond byr fu ei chyfnod yno a gadawodd ar 5 Rhagfyr 1918 er mwyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2]

Cofrestrodd ym Mhrifysgol Aberystwyth yng ngwanwyn 1919. Bu'n byw yn Neuadd Alexandra, Aberystwyth, sef y neuadd breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru, a thrwy holl wledydd Prydain.[3] Astudiodd fotaneg, Lladin a ieithoedd modern eraill, a'r gyfraith. Bu hefyd yn Gynrychiolydd y Myfyrwyr ar Gyngor y Coleg a hefyd yn Llywydd Adran y Merched ar y Cyngor. Graddiodd gyda Bagloriaeth yn y Celfyddydau yn 1922 a Bagloriaeth yn y Cyfreithiau yn 1927.

Iris de Freitas oedd y gyfreithwraig gyntaf yn Ynysoedd y Caribî, a'r fenyw gyntaf yno i erlyn mewn llys barn achos o lofruddiaeth.[3]

Yn 2016 galwyd ystafell yn Llyfrgell Syr Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ei hôl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Women and the Law gan Joan Brathwaite pennod: “Some Firsts for Women in the Law”
  2. aberrarebooks.wordpress.com; adalwyd 21 Tachwedd 2016.
  3. 3.0 3.1 "'Wonderful Welsh Women - Iris de Freitas' Fideo Youtube a gynhyrchwyd gan fudiad Chwarae Teg". Youtube. 6 Ebrill 2019. Missing or empty |url= (help)