John Jones (Coch Bach y Bala)
John Jones | |
---|---|
Ffugenw |
Coch Bach y Bala ![]() |
Ganwyd |
1854 ![]() Sir Ddinbych ![]() |
Bu farw |
1913 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Cysylltir gyda |
Carchar Rhuthun ![]() |

Lleidr a photsiwr oedd John Jones (1854 - 1913), mwy adnabyddus fel Coch Bach Y Bala. Gelwid ef hefyd The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn adnabyddus oherwydd ei ddawn i ddianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.
Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwr (sgweiar Euarth) ger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth. Cafwyd ymateb cyhoeddus ffyrnig i hyn gan Gymry lleol. Bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef yn Llanelidan.
Comisiynwyd cân o'r enw Coch Bach y Bala ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Ysgrifenwyd geiriau'r gân gan Mair Tomos Ifans a'r gerddoriaeth gan Sioned Webb a'i perfformiwyd yn y gystadleuaeth i gorau blwyddyn 7, 8 a 9.[1] Ysgol Uwchradd Brynrefail cipiodd y wobr cyntaf.[2]