Kenneth Griffith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kenneth Griffith
Ganwyd Kenneth Reginald Griffiths
(1921-10-12)12 Hydref 1921
Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, Cymru
Bu farw 25 Mehefin 2006(2006-06-25) (84 oed)
Llundain, Lloegr
Man claddu Penalun, Sir Benfro
Galwedigaeth Actor, cynhyrchydd, cyflwynydd
Gweithgar 1937–2003
Priod Joan Stock (?–?) (ysgarwyd) 1 bachgen
Doria Noar(?–?) (ysgarwyd) 1 girl
Carol Hagar (?–?) (ysgarwyd) 2 fachgen, 1 merch

Actor Cymreig a gwneuthurwr ffilmiau dogfen oedd Kenneth Ewen Griffith (12 Hydref 192125 Mehefin, 2006). Cafodd ei eni yn Ninbych-y-Pysgod ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Penalun, Sir Benfro.

Actor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddangosodd mewn dwsinau o ffilmiau. Ef oedd y cymeriad 'Jack Phillips' a oedd yn gweithio'r radio ar y Titanic yn y ffilm "A Night to Remember", ac ef oedd 'Whitey' y meddyg hoyw yn "Wild Geese" (1978). Gwerthfawrogir ei waith ar y rhaglen teledu "The Prisoner" gan feirniaid ffilm. Ef yw'r 'hen ddyn dwl' yn "Four Weddings and a Funeral" (1994), y Parch Jones yn "The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain" (1995) a'r 'gweinidog' yn "Very Annie Mary" (2001).

Gwneuthurwr Ffilmiau Dogfen[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r chwedegau ymlaen daeth yn adnabyddus am greu ffilmiau dogfen, rhai ohonoynt yn ddadleuol iawn. Gwnaeth ffilm ddogfen am fywyd a marwolaeth y gweriniaethwr Gwyddelig Michael Collins o'r enw Hang up your Brightest Colours; mae'r teitl yn tarddu o linell allan o lythyr oddi wrth George Bernard Shaw at un o chwiorydd Collins. Gwaharddwyd y ffilm am 20 mlynedd.[1]

Dogfen arall a gynhyrfodd y dyfroedd oedd dogfen am Zola Budd, y rhedwraig o Dde Affrica.

Galwodd ei dŷ yn Llundain yn "Michael Collins House"

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. ballinagree.freeservers.com; Gweler hefyd cofnodion yr Orsedd. Adalwyd 29 Mawrth 2016.