The Prisoner
| Enghraifft o: | cyfres deledu |
|---|---|
| Crëwr | Patrick McGoohan, George Markstein |
| Dechrau/Sefydlu | 1967 |
| Dechreuwyd | 6 Medi 1967, 1 Hydref 1967 |
| Daeth i ben | 1 Chwefror 1968 |
| Genre | cyfres deledu ffuglen wyddonol, cyfres deledu ysbïo |
| Cymeriadau | Number Six |
| Yn cynnwys | The Prisoner, season 1 |
| Lleoliad y gwaith | The Village |
| Hyd | 48 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Pat Jackson, Don Chaffey |
| Cynhyrchydd/wyr | David Tomblin |
| Cyfansoddwr | Ron Grainer |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sgriptiwr | Patrick McGoohan, David Tomblin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07pd0 |

Cyfres deledu Brydeinig wedi ei chreu gan ac yn serennu Patrick McGoohan oedd The Prisoner. Ffilmiwyd y gyfres ym Mhortmeirion, ger Penrhyndeudraeth.
Mae'r prif gymeriad, a adnabyddir yn unig fel "Rhif 6", yn gyn-ysbïwr Prydeinig, sydd wedi ymddiswyddo yn sydyn. Yn awr, mae'n cael ei gadw'n garcharor mewn pentref bychan ar lan y môr, lle a adnabyddir yn unig fel "Y Pentref", i geisio darganfod pam ei fod wedi ymddiswyddo. Adnabyddir y person sy'n gyfrifol am y pentref fel "Rhif 2"; nid yw'r pennaeth, "Rhif 1", yn ymddangos. Mae'r gyfres yn dilyn ymdrechon Rhif 6 i ddianc o'r pentref.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf am y tro cyntaf yn Llundain ar 29 Medi 1967 ar ATV Midlands. Ysbrydolwyd i gyfres i raddau gan adwaith McGoohan i bentref Portmeirion pan yn ffilmio rhannau o'r gyfres Danger Man yno.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.fernsehserien.de/nummer-6. dyddiad cyrchiad: 25 Mehefin 2020. dynodwr fernsehserien.de: nummer-6.