Thomas James Powell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas James Powell
Ganwyd (1897-10-12)Hydref 12, 1897
Tredegar, Blaenau Gwent
Bu farw Ionawr 8, 1965(1965-01-08) (67 oed)
Caerdydd
Gwaith Cyfansoddwr
Gwobrau Medal Arian, Cwmni Anrhydeddus Cerddorion, Llundain
Diploma Anrhydedd, NBBCC[1]

Cyfansoddwr ac addysgwr Cymreig oedd Thomas James "TJ" Powell (12 Hydref 1897 - 8 Ionawr 1965).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Nhredegar, Blaenau Gwent a dechreuodd ei yrfa gerddodrol fel chwaraewr offerynau taro a chornet gyda Band Pres Iau Byddin yr Iachawdwriaeth. Powell oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn angladd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, Cadfridog William Booth ar 27 Awst 1912.[2][3]. Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â Band Tref Tredegar cyn ymuno â Band y Morfilwyr Brenhinol a pharhau â'i addysg cerddorol yn Ysgol Gerdd y Morfilwyr Brenhinol.

Ym 1920, dychwelodd i dde Cymru a chael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd ar Fand Corfflu Cadetiad a Gwirfoddolwyr Melingriffith yn Yr Eglwys Newydd. Gyda Powell yn arwain, dechreuodd Band Melingriffith wneud eu marc ar y byd bandiau pres gan godi o Ddosbarth "C" i Ddosbarth "A".

Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - Castell Coch, Castell Caerdydd, Castell Caerffili a Caernarfon Castle, gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r Frenhines gyhoeddi arwisgiad Y Tywysog Siarl. Mae Powell yn cael ei gymharu â John Phillip Sousa, cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau[4], gan ddwyn y teitl answyddgol; y Sousa Cymreig.

Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio Challenging Brass, BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain Band Pres Cory yn Stiwdio Gerddorfaol Caerdydd mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn Llundain, ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymrodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stwidio[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]