Band pres
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | type of musical ensemble/group ![]() |
Math | musical ensemble consisting solely of instruments, wind orchestra ![]() |
Yn cynnwys | offeryn pres ![]() |
![]() |
Ensemble cerddorol sy'n cynnwys offerynnau pres ac offerynau taro ydy band pres. Mae bandiau sy'n cynnwys offerynnau chwythbren yn dwyn yr enw band pres mewn sawl gwlad, ond ym Mhrydain, Awstralia, Seland Newydd, Gogledd America a'r rhan helaeth o Ewrop, mae'r term band pres yn disgrifio ensemble sy'n defnyddio offerynnau penodol.
Daeth y safoni offerynnau oherwydd pwysigrwydd cystadlu i fandiau pres, ddechreuodd yng nghanol y 19g. Erbyn dechrau'r 20g roedd gan y rhan fwyaf o fandiau yr un offerynnau oedd yn galluogi cyhoeddwyr i gyhoeddi cerddoriaeth oedd yn addas i holl fandiau pres[1].
Offerynnau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1 Cornet Soprano (E♭)
- 9 Cornet (B♭)
- Rhes flaen: 1 Prif Gornet, 3 Cornet Unigol
- Rhes gefn: 1 Cornet Repiano, 2 2il Gornet, 2 3ydd Cornet
- 1 Flugelhorn (B♭)
- 3 Corn Tenor (E♭)
- 2 Corn Bariton (B♭) – 1af, 2il
- 2 Trombôn tenor (B♭) – 1af, 2il
- 1 Trombôn bas (C)
- 2 Ewffoniwm (B♭)
- 2 Bas E♭
- 2 Bas B♭
- rhwng 2 a 4 Offeryn taro
Mae pob offeryn pres heb law'r trombôn bas â thraw (E♭) neu (B♭) a heb law am yr offerynnau taro a'r trombôn bas, mae pob darn o gerddoriaeth wedi ei ysgrifennu yn y cleff trebl.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Cultures of Brass Project". Open University.