Tanchwa Senghennydd
![]() | |
Math | damwaith gwaith mwyngloddio ![]() |
---|---|
Nifer a laddwyd | 439 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Universal Colliery ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6114°N 3.2813°W ![]() |
![]() | |
Cyfnod | 14 Hydref 1913 ![]() |
- Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu, Senghennydd.
Tanchwa Senghennydd oedd y drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain. Digwyddodd ym Mhwll Lancaster, Glofa'r Universal, ym mhentref glofaol Senghennydd, Sir Forgannwg. Digwyddodd y drychineb ar 14 Hydref 1913. Collodd 439 o ddynion a bechgyn y pwll eu bywydau a hynny ar doriad gwawr. Roedd hyn yn dilyn tanchwa cynharach, ar 24 Mai 1901, pan laddwyd 81 o ddynion.
Y ffrwydrad yw'r ddamwain cloddio gwaethaf yng Nghymru erioed.[1][2] Roedd yn cynhyrchu glo ar gyfer peiriannau stêm neu ager, yn bennaf, ac roedd ynddo lawer o losgnwy (methan ac ocsigen gan fwyaf), nwy frwydrol iawn.
Tanchwa 1af Senghennydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar 24 Mai 1901, lladdwyd 81 o ddynion pan gafwyd 3 ffrwydriad o dan y ddaear. Cafwyd ymchwiliad i'r drychineb ac ôl yr adroddiad roedd llawer gromod o lwch glo yn yr aer, a dim digon o ddŵr i'w gadw dan reolaeth. Dywedwyd hefyd fod llawer o fesurau diogelwch wedi eu torri gan y perchnogion.[3][4]
Ail danchwa Senghennydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Achos y ffrwydriad[golygu | golygu cod y dudalen]
Tua deuddeg mlynedd ynghynt, ym Mai 1901, bu tri ffrwydrad yn y lofa hon pan laddwyd 81 o bobl. Yn y cwêst dywedwyd mai'r achos pam y lladdwyd cymaint gan y ffrwydriad oedd fod cymaint o lo mân ar ffurf llwch yn yr awyrgylch - sydd fel arfer yn cario'r ffrwydriad lawer pellach drwy'r twneli. Ni chanfyddwyd achos ffrwydriad Senghennydd yn 1913 ond y farn gyffredinol yn y cwêst oedd mai offer signalu trydan oedd ar fai, gan danio'r nwyon. Medrwyd symud y dynion yn rhan ddwyreiniol y pwll allan yn saff, ond llosgwyd llawer o weithwyr y rhan orllewinol, a lladdwyd llawer gan y nwy carbon monocsid yn union wedi'r ffrwydriad.
Ataliwyd achub llawer o'r dynion gan y tanau - a gymerodd dros deuddydd i'w rheoli a 6 wythnos i'w diffodd; chymerodd 6 wythnos i'r achubwyr gludo'r cyrff allan i olau dydd.[[Delwedd:ILN – Senghenydd Colliery Disaster 3.jpeg|bawd|180x180px|alt=Llun du a gwyn o Lofa'r Universal, a dynnwyd uwchben y torfeydd sydd yn aros am newyddion|Torfeydd yn aros am newyddion yng Nglofa'r Universal, Senghenydd[5]
Cosb[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn yr ymchwiliad a ddilynodd y tanchwa, dywedwyd i'r rheolwr Edward Shaw a'r perchnogion fod yn esgeulus. Dirwywyd Shaw £24 a'r cwmni £10. Mae hyn yn cyfateb a gwerth bywyd o 5 ceiniog y person.
Cofebion[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1981 dadorchuddwyd gofeb i'r rhai a fu farw yn y drychineb, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol; fe'i lleolwyd y tu allan i Ysgol Gynradd Nant-y-parc ar safle'r hen bwll glo. Mae'r gofeb yn replica 20 feet (6 m) o gêr weindio'r pwll.[6]
Cafodd ail gofeb ei dadorchuddio yn 2006 i'r meirw o ffrwydrad 1af (1901) a'r ail (1913).[7]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- John H. Brown, The Valley of the Shadow (1981)
- Rhydwen Williams, Amser i Wylo (Abertawe, 1986). Nofel rymus yn seiliedig ar y drychineb.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ http://www.amgueddfacymru.ac.uk/erthyglau/2012-07-06/Bywydau-Glowyr-yn-werth-5c-yr-un-Ymgynghoriad-y-Llywodraeth-i-drychineb-Senghennydd-1913/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-22. Cyrchwyd 2016-03-22.
- ↑ Duckham & Duckham 1973, tt. 160–61.
- ↑ Redmayne, Williams & Smillie 1914, t. 31.
- ↑ "The Burning Pit Disaster: Rescue Scenes at the Universal Colliery". The Illustrated London News. 18 Hydref 1913. t. 4.
- ↑ http://your.caerphilly.gov.uk/abervalleyheritage/visit-us/heritage-trail
- ↑ Jeanne Parry, "Dead Remembered", South Wales Echo, 13 Hydref 2006