Gareth F. Williams

Oddi ar Wicipedia
Gareth F. Williams
Gareth F. Williams yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2015.
Llun: Rhys Llwyd / Llenyddiaeth Cymru.
Ganwyd9 Chwefror 1955 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 2016 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Peidiwch â chymysgu yr awdur hwn â Gareth W. Williams.

Awdur oedd Gareth Finlay Williams (9 Chwefror 195514 Medi 2016) oedd yn adnabyddus am ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion yn ogystal â chreu nifer fawr o gyfresi drama ar deledu. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Awst yn Anogia.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mhorthmadog yn fab i Hugh Finley a Menna Williams[1] a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac yna ei hyfforddi fel athro yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam.

Gweithiodd am ddwy flynedd yn siop Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog rhwng 1973 a 1975. Bu'n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon rhwng 1979 ac 1985. Treuliodd gyfnod yn byw yn Silstwn, Bro Morgannwg, cyn ymgartrefu yn Beddau ger Pontypridd.[2]

Roedd yn gyfrifol am gyd-greu cyfresi drama ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd. Roedd yn awdur y cyfresi Pen Tennyn a Lan a Lawr.

Enillodd Wobr Tir na n-Og am ei lyfrau ar gyfer plant ar chwe achlysur. (Gweler y rhestr isod.)

Roedd yn un o'r tri oedd ar y panel ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst 2016. Roedd wedi bod yn brwydro canser a'r diwrnod wedi cyflwyno'r wobr yn Eisteddfod y Fenni daeth i wybod nad oedd gwella. Bu farw yn 61 oed yn ei gartref ym Meddau gan adael ei wraig Rachel.[1][3]

Yn 2018 rhoddwyd Gwobr Mary Vaughan Jones iddo am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth. Cyflwynwyd y tlws i'w deulu mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion ar 18 Hydref 2018.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfrau Plant[golygu | golygu cod]

Llyfrau Oedolion[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  GARETH F : Obituary. bmdsonline.co.uk (21 Medi 2016).
  2. Marw Gareth F, awdur dewr a chynhyrchiol , Golwg360.
  3. Yr awdur Gareth F Williams wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Medi 2016.
  4. Rhoi Tlws Mary Vaughan Jones i’r diweddar Gareth F Williams , Golwg360, 17 Medi 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]