Sion a Sian (ffilm)
Cyfarwyddwr | Tim Lyn |
---|---|
Cynhyrchydd | Eryl Huw Phillips |
Ysgrifennwr | Gareth F. Williams |
Dylunio | |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffilm Gymraeg yw Siôn a Siân, a ddisgrifwyd fel ffilm gomig am dristwch. Fe'i darlledwyd ar S4C ar ddydd Nadolig 2003 ac fe'i dangoswyd fel rhan o Wyl Sgrîn Caerdydd 2003.
Roedd yn addasiad o ddrama lwyfan a berfformiwyd yn wreiddiol yn 1990 ond fe addasodd yr awdur y cymeriadau i fod ddegawd yn hynach. Mae'r ddau prif gymeriad, Siôn (Jonathan Nefydd) a Siân (Janet Aethwy) yn gymdogion a mae dau gymeriad arall Meinir (Nia Roberts) a Harri (Rhydian Jones).[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Siôn a Siân - adolygiad. BBC Cymru (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 19 Medi 2016.