Gareth W. Williams

Oddi ar Wicipedia
Gareth W. Williams
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Peidiwch â chymysgu yr awdur hwn â Gareth F. Williams.

Awdur o Gymro yw Gareth W. Williams, sy'n wreiddiol o’r Rhyl ond bellach yn byw yn Nelson, Caerffili.[1] Bu’n gweithio ym myd addysg tan iddo ymddeol a throdd at ysgrifennu o ddifrif.

Mae ei drioleg o nofelau trosedd Y Teyrn, Y Llinach ac Yr Eryr (cyhoeddwyd 2013–18) yn sôn am fygythiadau allanol i’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig. Maen nhw wedi eu gosod mewn tref fechan glan y môr, ac yn dilyn hanes Arthur Goss, ditectif sy wedi ymddeol ond sy am dreiddio i hanfod y gymdeithas ac mae’r hanesion yn dilyn ei gilydd dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gareth Williams", Gwefan Crime Cymru; adalwyd 18 Mai 2021