Mari'r Fantell Wen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 18g oedd Mary Evans, a adnabyddid fel Mari'r Fantell Wen (1735? – 28 Hydref 1789). Ein prif ffynhonnell am ei hanes yw'r llyfr Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan.[1]

Roedd Mari'n enedigol o Ynys Môn ond ymsefydlodd ym mhlwyf Maentwrog, Gwynedd. Dywedir iddi adael ei gŵr a chanlyn gŵr priod arall a chael merch ganddo.[2]

Roedd hi'n credu ei fod wedi ei dyweddïo â Iesu Grist a bod unrhyw beth a wneid er ei mwyn hi yn gyfystyr â gwenud hynny ar ran yr Iesu ei hun. Ymunodd nifer o bobl o'r hen Sir Gaernarfon yn ei chwlt yn enwedig yn ardaloedd Ffestiniog, Penmachno a chyffiniau Harlech yn Ardudwy. Mae'n bosibl fod gorhendaid T. Gwynn Jones, gŵr o Benmachno, yn un o ddilynwyr Mari.[3]

Fel dilynwyr y broffwydoles Seisnig Joanna Southcott, credai ei dilynwyr na fyddai hi byth yn marw. Trefnwyd priodas a neithior rhyngddi â Iesu Grist yn Ffestiniog a daeth cannoedd o bobl yno. Gwisgodd Mari fantell ysblennydd, yn rhodd gan ei dilynwyr. Disgrifir hyn fel "oferedd" - cynhaliwyd y briodas ar y Sabbath - ac "ynfydrwydd" gan Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd.[4]

Bu farw Mari yn 1789 yn Nhalsarnau. Gwrthododd ei dilynwyr gredu'r ffaith a chadwyd ei chorff am hir cyn ei gladdu o'r diwedd ym mynwent eglwys Llanfihangel-y-Traethau, Meirionnydd.[5]

Hanes Mari'r Fantell Wen o Drych yr Amseroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

“Yn fuan ar ol hyny daeth un arall yn gennad dros y diafol, o Fôn i Sîr Feirionydd. Ei henw oedd Mari Evans, gelwid hi yn gyffredin, Mari y fantell wèn. Gadawodd ei gwr a chanlynodd wr gwraig arall, gan haeru ill dau, nad oedd y bregeth gyntaf ond cnawdol, ac nad oedd yn bechod ei thòri; ond bod eu priodas hwy yn bresennol yn ysbrydol ac yn iawn. Buont ryw dalm o amser yn crwydro o’r naill wlad i’r llall, a bu iddi ferch o hwnw. O’r diwedd darfu iddo ei gadael, a hithau a wladychodd ger llaw y Traeth Bychan hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd gan luaws mawr o ynfudion twyll yr ardal hono a Ffestiniog, hefyd Penmachno, a rhai mànau eraill, goelio ei bod yn un â Christ, ac mai yr un peth oedd dyfod ati a dyfod at Grist; a pha beth bynag a wnaid iddi, neu erddi, mai yr un ydoedd a phe gwnaethid ef i Grist yn bersonol.
Twyllodd ei dilynwyr i gredu ei bod wedi priodi cyfiawnder; danfonwyd iddi lawer o anrhegion at y briodas, a lluniwyd neithior odidog iddi yn Ffestiniog; gwisgwyd hi yn wych odiaeth, fel cangen hâf, ar gost ei chanlynwyr, gan ei harwisgo â mantell gôch gost fawr, gan fyned yn lluoedd, a hithau yn eu canol, i eglwys y plwyf, ac oddiyno i’r dafarn hyd yr hwyr, i halogi y Sabbath. Hi a berswadiodd ei disgyblion na byddai hi farw byth; [fel y rhith brophwydes hono, Johanna Southcott] ond er ei hammod ag angeu, a’i chynghrair ag uffern, cipiwyd hi ymaith oddiyno i’w lle ei hun: cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddysgwyl yr adgyfodai drachefn.
Gellwch wybod ei bod yn dywyllwch a ellid ei deimlo yn yr ardal y cyfodd y fath fudrog a hon y gradd lleiaf o dderbyniad: ond gwir yw y gair, “Pan dybiont ei bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.” Ond er i rai o’r trueniaid tywyll lynu wrth yr ynfydrwydd a soniwyd, dros amser ar ol marwolaeth eu heulun; eto diflanodd yn raddol o flaen efengyl gallu Duw.”[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Robert Jones, Drych yr Amseroedd (Llanrwst, 1820), tud. 153.
  2. Drych yr Amseroedd, tud. 152.
  3. Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983), tud. 154n.
  4. Drych yr Amseroedd, tud. 153.
  5. William Owen Pughe, tud. 154n.
  6. Robert Jones, Rhoslan: Drych yr Ameroedd (Argraffiad newydd, Llanrwst, 1920), 153-155.