Cynhafal

Oddi ar Wicipedia
Cynhafal
Eglwys Llangynhafal, Sir Ddinbych
GanwydSir Ddinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd7 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Hydref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd Eglwys Llangynhafal, a welir yma gyda'r Foel Dywyll y tu ôl iddi, gan Sant Cynhafal.
Am yr arwr o'r Hen Ogledd gweler Cynhafal fab Argad.

Sant Cymreig oedd Cynhafal (bl. dechrau'r 7g); dethlir ei ddydd gŵyl gan yr eglwys ar 5 Hydref.

Mae 'Cynhafal' yn enw hen sy'n golygu 'fel ci; tebyg i gi' (cwn [=ci] + hafal). Cyfeirir at ryfelwr o'r enw Cynhafal yn Y Gododdin ac mae Trioedd Ynys Prydain yn sôn am Cynhafal fab Argad (neu Aergad), un o ryfelwyr enwog yr Hen Ogledd.[1]

Prin iawn yw ein gwybodaeth am Sant Cynhafal. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Elgud ap Cadfarch ap Caradog Freichfras a'i wraig Tubrawst. Cyfeirir ato mewn hen ffynonellau fel 'Cynhafal Sant yn Nyffryn Clwyd'.[2]

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cynhafal eglwys Llangynhafal, pentref yn Sir Ddinbych i'r gogledd-ddwyrain o Rhuthun heddiw. Saif yr eglwys, yr unig un sydd wedi ei chysegru i Sant Cynhafal, ar ei phen ei hun gryn bellter o'r pentref, y drws nesaf i hen ffermdy. Yn ymyl yr eglwys ceir Ffynnon Gynhafal, gyda muriau 18 wrth 10 troedfedd yn ei hamgau. Arferai pobl ymweld â'r ffynnon sanctaidd hon i wella cryd y cymalau a chael gwared o dafadennau. Mae bwa dros y fynedfa gyda grisiau yn arwain i lawr at ddŵr y ffynnon.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), tud. 323.
  2. Trioedd Ynys Prydein, tud. 323.
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).