Eglwys Gadeiriol Caerwrangon
| Delwedd:Worcester Cathedral from the Town Bridge.jpg, Cathedral Church of Christ and St Mary Worcester 1389728 20230819 0098.jpg Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, gydag Afon Hafren yn y blaendir | |
| Math | cadeirlan Anglicanaidd |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Caerwrangon |
| Sir | Dinas Caerwrangon |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.1887°N 2.2208°W |
| Cod OS | SO8500254520 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig, pensaernïaeth Gothig Seisnig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Caerwrangon |
Cadeirlan Anglicanaidd a leolir yng Nghaerwrangon, Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Dyma sedd esgob Caerwrangon. Priordy ar gyfer Urdd Sant Bened oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe'i dyrchafwyd i statws cadeirlan yn y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i adeiladwyd rhwng 1084 a 1504 a gellir olrhain yno pob cam yn hanes pensaernïaeth Lloegr yn ystod y canrifoedd hynny: yr addull Normanaidd (Romanésg) yn y gladdgell, y cabidyldy cylchog ac ambell i fan arall, a'r tri math o arddull Gothig Seisnig (Cynnar, Addurnedig a Pherpendicwlar). Ceir nifer fawr o gofadeiladau yno gan gerflunwyr a phenseiri megis Jean-François Roubiliac, Joseph Nollekens, Robert Adam a Francis Chantrey. Fe'i adnewyddwyd yn helaeth rhwng 1857 a 1863 gan A. E. Perkins a George Gilbert Scott. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]
Priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yma ar 13 Hydref 1278.
-
Corff yr eglwys (1317–1377), yn edrych tua'r gorllewin
-
Corff yr eglwys a'r pulpud (1642), yn edrych tua'r dwyrain
-
Capel Mair (1224–1250) a ffenestr y dwyrain
-
Yr organ
-
Y cloestr
-
Y gladdgell Normanaidd
-
Beddrod John de Beauchamp a'i wraig
Detholiad o bobl a gladdwyd yno
[golygu | golygu cod]- John, brenin Lloegr
- John de Beauchamp (Prifustus Gogledd Cymru) a'i wraig Joan Fitzwith
- Arthur Tudur, Tywysog Cymru
- Syr Griffith Ryce
- Stanley Baldwin, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Cathedral Church of St Mary. National Heritage List for England. Historic England. Adalwyd ar 14 Medi 2015.
