Defnyddiwr:Tivedshambo/Pigion

Oddi ar Wicipedia


Wythnos 1

"Arlwydd Penmachno" - un o gymeriadau'r diwydiant llechi ym 1885 - yn Chwarel y Penrhyn, o bosib.
"Arlwydd Penmachno" - un o gymeriadau'r diwydiant llechi ym 1885 - yn Chwarel y Penrhyn, o bosib.

Dechreuodd Diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18g, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19g. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. mwy...

Wythnos 2

Anialwch y Sahara
Anialwch y Sahara

Y Sahara yw'r anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau gan ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Ychydig iawn o fywyd sydd yma, ac mae'r rheiny yn yr ardal a elwir Sahel, sef yr ardal sy'n ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy-fwy i'r de tyf llwyni a cheir mwy-a-mwy o fywyd.

Nid tywod yn unig yw'r Sahara: gorchuddir rhannau enfawr gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o losgfynydd. mwy...

Wythnos 3

Castell Caerdydd
Castell Caerdydd

Caerdydd yw Prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Ceir dros 35 o brifddinasoedd llai na hi drwy'r byd. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19g. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 2021 roedd poblogaeth Caerdydd Fwyaf dros 447,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. erbyn y 21g adeiladwyd argae ar draws y bae, gan greu morlyn enfawr. Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sy'n gartref i Urdd Gobaith Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy...

Wythnos 4

Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pum-deg-tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)
Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pum-deg-tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)

Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17g hyd ddechrau'r 20g, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y theatr a acrdaloedd poblogaidd yn rhai o drefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.

Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn nhrefi enfawr Edo (Tokyo heddiw), Osaka, Kyoto ayb. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sydd ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth. mwy...

Wythnos 5

Llyfr y Tri Aderyn yw gwaith enwocaf Morgan Llwyd
Llyfr y Tri Aderyn yw gwaith enwocaf Morgan Llwyd

Bardd, llenor rhyddiaith a chyfrinydd oedd Morgan Llwyd (16193 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw). Fe'i gelwir weithiau'n Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd ond nid oedd ganddo'r culni meddwl a gysylltir â'r mudiad crefyddol hwnnw. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'. mwy...

Wythnos 6

Cromlech Maen y Bardd, ger Bwlch-y-Ddeufaen, Conwy
Cromlech Maen y Bardd, ger Bwlch-y-Ddeufaen, Conwy

Man claddu cynhanesyddol a wnaed o dair maen neu ragor ar eu sefyll ac un maen yn gorwedd ar eu traws yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg); defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno. Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig). Ceir cromlechi (neu gromlechau) yn eithaf cyffredin yng Nghymru, Cernyw a'r Alban hefyd, ond yn llai cyffredin yn ne-ddwyrain Lloegr.

Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu golchi i ffwrdd dim ond y meini noeth sy'n aros. mwy...

Wythnos 7

Abaty Tyndyrn, 1993
Abaty Tyndyrn, 1993

Abaty enwog ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy, yw Abaty Tyndyrn. Sefydlwyd abaty Tyndyrn gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai, 1131. Hon oedd yr ail sefydliad Sistersaidd yng ngwledydd Prydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'n un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yn y wlad, ac ysbrydolodd nifer o gampweithiau gan gynnwys cerdd Tintern Abbey gan William Wordsworth; cerdd Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun); nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner.

Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn drwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a gyflwynodd y drefedigaeth gyntaf o Sistersiaid i Waverley yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc. mwy...

Wythnos 8

Mamal dof yw ceffyl sy'n perthyn i deulu'r equidae. Mae ceffylau wedi cael eu defnyddio gan bobl ers rhai miloedd o flynyddoedd ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau neu gerbydau rhyfel a thynnu'r aradr. Heddiw, mae rasio ceffylau yn parhau yn boblogaidd iawn. Megir ceffylau hefyd am eu cig mewn rhai gwledydd fel Ffrainc ac mae yfed llaeth caseg yn boblogaidd ym Mongolia. Yng Nghymru ceir Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig i warchod a bridio rhywogaeth sy'n unigryw i Gymru ee Merlyn mynydd Cymreig.

mwy...

Wythnos 9

Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)
Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Yn y Llawysgrif "Buchedd Dewi" ysgrifennodd mynach o'r enw Rhigyfarch fod Dewi'n fab i Non. Credir iddo farw tua'r flwyddyn 589. Caiff ei ddisgrifio gan fardd o'r 9g fel "y dyfrwr", gan mai dŵr yn unig a yfai ac mewn llawysgrif Wyddelig o'r un ganrif sonir am bwysigrwydd y 1af o Fawrth a'i enwi'n "Ddydd Gŵyl Dewi".

Yn ôl un traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Gapel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion. Mae bron popeth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant. mwy...

Wythnos 10

Y gofodwr Tracy Caldwell Dyson yn Cupola ISS
Y gofodwr Tracy Caldwell Dyson yn Cupola ISS

Yr Orsaf Ofod Ryngwladol (Saesneg: International Space Station) yw'r unig orsaf ofod sy'n y gofod heddiw. Lloeren artiffisial ydyw a gellir ei gweld yn y cyfnos gyda'r llygad noeth; dyma'r gwrthrych artiffisial mwyaf sy'n cylchu'r Ddaear. Mae llawer o wledydd wedi cyd-weithio er mwyn adeiladu'r orsaf, gan gynnwys Rwsia gyda'i roced Proton a Soyuz, yr Unol Daleithiau gyda'r wennol ofod, Siapan, Canada, a'r gwledydd sy'n aelodau o'r ESA (Sefydliad Gofod Ewropeaidd (European Space Agency).

Lansiwyd y modiwl cyntaf yn 1998. Pwrpas yr ISS yw caniatáu i ofodwyr oddi mewn iddi gynnal arbrofion mewn bioleg, bioleg dynol, ffiseg, seryddiaeth, meteroroleg a meysydd eraill. mwy...

Wythnos 11

Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.
Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.

Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei goroni'n Dywysog Cymru. Ymddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain dros Loegr, ac felly, rhoddwyd iddo'r llysenw Y Mab Darogan.

Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i brif ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Wedi iddo astudio'r gyfraith yn Llundain, a gwasanaethu gyda lluoedd Henry Bolingbroke, ym Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri feddiannu gorsedd Lloegr, daeth ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn i'w anterth, ffrae a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth Cymru. mwy...

Wythnos 12

Cymru yn erbyn yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidel 8.
Cymru yn erbyn yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidel 8.

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol, ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd blynyddoedd llwyddiannus eto yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. mwy...

Wythnos 13

Mae'r cysonyn mathemategol π a sillafir hefyd fel Pi yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol). Cafodd ei enwi gan William Jones, mathemategydd o Gymro.

Dyma fformwla Leibniz:

Mae gan π nifer o ddefnyddiau mewn mathemateg, ffiseg a pheirianeg. Enwau arall am π yw Cysonyn Archimedes a Rhif Ludolph. Ceir Diwrnod Pi hefyd, a ysbrydolwyd gan Gareth Ffowc Roberts mwy...

Wythnos 14

Mynydd Parys
Mynydd Parys

Gellir olrhain diwydiant copr Cymru yn ôl i Oes yr Efydd. Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Sygun, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, chwarel gopr fwya'r byd, lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Allforiwyd y copr o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop yn ystod yr Oes Efydd. mwy...

Wythnos 15

Dyn Tân yn gofyn am gymorth; 14 Medi.
Dyn Tân yn gofyn am gymorth; 14 Medi.

Cyfres o bedair cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd Ymosodiadau 11 Medi, 2001. Ar fore Dydd Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda bedair awyren fasnachol – trawodd dwy ohonynt Ganolfan Masnach y Byd a'r Pentagon a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset, Pennsylvania, er i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren yn dilyn ei meddiannu gan yr herwgipwyr. Bu farw tua 3000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr.

Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Afghanistan i geisio diorseddu y Taliban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaeda... mwy...

Wythnos 16

Glyn Ceiriog
Glyn Ceiriog

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansantffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig. mwy...

Wythnos 17

Trydan
Trydan

Trydan yw'r nodwedd a welir mewn gronynnau is-atomig (electronau a phrotonau) a'r atyniad sydd rhyngddynt. Mae trydan yn fath o ynni; mewn ffiseg, mae disgyrchiant yn tynnu gwrthrychau o fan uchel i fan isel. Llifa dŵr o ardal uchel yn y wlad i'r môr sydd yn is. Dyma'r hyn sy'n digwydd gyda cerrynt trydanol hefyd - mae ynni'n symud o fan uchel i fan isel. Math arall o atyniad ydy trydan, fel disgyrchiant, ond yn anhebyg i ddisgyrchiant, dim ond ar sylweddau neu fater eraill sydd hefyd â gwefr drydanol mae trydan yn cael effaith. Os yw wedi'i wefru, fe symudith tuag at wrthrych arall sydd â pholaredd i'r gwrthwyneb neu i ffwrdd o rywbeth sydd â'r un polaredd. Mae'r polareddau hyn yn rhai positif (+) a negatif (-). mwy...

Wythnos 18

Paris a'r afon Seine
Paris a'r afon Seine

Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.

Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (1999: 2,147,857 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 1999: 11,174,743 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc. mwy...

Wythnos 19

Tom Pryce, Rhuthun
Tom Pryce, Rhuthun

Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 19495 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975.

Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall. mwy...

Wythnos 20

Sadwrn
Sadwrn

Sadwrn yw planed ail fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.

Enwyd y blaned ar ôl duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (neu Neifion mewn chwedloniaeth Geltaidd). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint. Gwybyddir am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol. Galileo oedd y cyntaf i edrych arni gyda thelesgop ym 1610. Cafodd arsylwadau cynnar eu cymhlethu gan y ffaith bod y Ddaear weithiau'n pasio trwy blaenau modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi yn ei chylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn ei hegluro gan Christian Huygens ym 1659. mwy...

Wythnos 21

Cyfres deledu ffantasi ydy Game of Thrones a grewyd ar gyfer HBO gan David Benioff a D. B. Weiss. Mae'r gyfres deledu'n addasiad o gyfres o nofelau A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin, ac enw'r llyfr cyntaf oedd A Game of Thrones. Cafodd y gyfres deledu ei ffilmio mewn stiwdio deledu yn Belffast a mannau eraill yng Ngogledd Iwerddon, Malta, Croatia, Gwlad yr Iâ a Moroco. Cafodd ei lansio ar sianel HBO yn yr UDA ar 17 Ebrill 2011. Roedd y gyllideb rhwng $5 a 10 miliwn. Mae sawl un o'r prif actorion yn Cymry Cymraeg, gan gynnwys Iwan Rheon sy'n actio rhan y seicopath sadistaidd Ramsay Snow - the Bastard of Bolton a Rhys Ifans... mwy...

Wythnos 22

Cantores ac actores o Awstralia ydy Kylie Ann Minogue, OBE (ganwyd 28 Mai, 1968). Daeth i'r brig yn ystod y 1980au o ganlyniad i'r opera sebon Neighbours cyn iddi symud i fyd canu pop ym 1987.

Cafodd gytundeb recordiau gyda'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Prydeinig Stock, Aitken & Waterman ym 1988 ac roedd nifer o'i chaneuon yn llwyddiannus ledled y byd. Lleihaodd ei phoblogrwydd, fodd bynnag, ar ddechrau'r 1990au gan beri iddi adael Stock, Aitken & Waterman ym 1992. O ganol y 1990au, ymbellhaodd Minogue ei hun o'i gweithiau cynharaf gan geisio sefydlu'i hun fel cyfansoddwraig a pherfformwraig annibynnol. Cafodd ei gweithiau gyhoeddusrwydd mawr ond ni lwyddodd ei recordiau i ddenu cynulleidfa sylweddol. Ail-greodd ei hun gan ad-ennill ei phoblogrwydd yn 2000 drwy ei fideos cerddorol a'i pherfformiadau byw.

Yn Awstralia ac Ewrop, ystyrir Minogue fel un o enwogion a symbolau rhywiol mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth. Wedi iddi gael ei diystyru yn gynnar iawn yn ei gyrfa gerddorol gan nifer o feirniaid yn Awstralia, mae bellach yn cael ei chydnabod am ei llwyddiannau niferus. Derbyniodd OBE yn y flwyddyn 2008 am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Mae wedi gwerthu dros 60 miliwn o recordiau. mwy...

Wythnos 23

Pont Hafren
Pont Hafren

Pont grog yw Pont Hafren sy'n rhychwantu Afon Hafren rhwng Sir Fynwy yn Ne Cymru a De Swydd Gaerloyw yn Lloegr. Mae hi'n cludo'r draffordd M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr, oedd yn cludo'r draffordd M4, cyn agoriad yr Ail Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan y frenhines Elisabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998.

I ddathlu agoriad y bont, ysgrifennodd y bardd Eingl-Gymreig Harri Webb bennill ddychanol:

Two lands at last connected
Across the waters wide,
And all the tolls collected
On the English side.
mwy...

Wythnos 24

Arch Noa : paentiad gan Edward Hicks, 1789
Arch Noa : paentiad gan Edward Hicks, 1789

Yn ôl traddodiad beiblaidd, llong bren anferthol a adeiladwyd gan y patriarch Noa i achub ei deulu a holl rywogaethau'r byd rhag Y Dilyw oedd Arch Noa. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah Iddewig a'r Coran.

Yn Genesis 6-9, mae Duw yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i achub ef a'i dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer) a'u gwragedd, a deuryw holl rywogaethau'r ddaear gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad Babilonaidd.

Disgrifir yr arch fel ystordy enfawr a fedrai arnofio, er na ddywedir yn benodol ei bod ar ffurf llong. Yr oedd yn 300 cufydd (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg, yn ôl yr afer gyda llongau afon Ewffrates. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys. mwy...

Wythnos 25

Dywedir y byddai'r Gwylliaid yn llechu ger Bwlch Oerddrws i ymosod ar deithwyr a'u hysbeilio.
Dywedir y byddai'r Gwylliaid yn llechu ger Bwlch Oerddrws i ymosod ar deithwyr a'u hysbeilio.

Roedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn griw o herwyr yn ardal Mawddwy yn ystod y 16g a ddaeth yn enwog mewn llên gwerin.

Ystyrid ardal Mawddwy yn diriogaeth lle roedd llawer o herwyr a Chymry gwrth-Seisnig yn y cyfnod yma, gan ei bod yn ardal ar y ffin, rhwng y Mers a Meirionnydd. Yr unig wybodaeth hanesyddol sicr am y Gwylliaid yw eu bod wedi llofruddio Siryf Meirionnydd, y Barwn Lewys ab Owain, neu Lewis Owen, o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau ar 12 Hydref 1555. Ymosodwyd ar y Barwn gan griw o’r Gwylliad yn Nugoed Mawddwy, ger Dinas Mawddwy. Crogwyd amryw o’r gwylliaid am y llofruddiaeth, ac mae marwnadau i Lewys ab Owen gan nifer o feirdd, yn cynnwys Gruffudd Hiraethog. Yn yr achos llys a ddilynodd y llofruddiaeth dywedwyd mai John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, oedd y gŵr a darawodd yr ergyd farwol. mwy...

Wythnos 26

Penddelw o Cleopatra
Penddelw o Cleopatra

Cleopatra Filopator Nea Thea, Cleopatra VII, mewn Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ, (69 CC - 30 CC) oedd brenhines olaf yr Aifft a'r olaf o dŷ brenhinol y Ptolemiaid, a sefydlwyd gan Ptolemi I Sóter, un o gadfridogion Alecsander Fawr.

Roedd yn ferch i Cleopatra V Trifena a Ptolemi XII Auletes, a daeth yn frenhines yn 51 CC, yn 17 oed ar y cyd a'i brawd (a ddaeth hefyd yn ŵr iddi) sef Ptolemi XIII; roedd yn 12 oed ar y pryd. Teulu Groegaidd oedd y Ptolemiaid, a dywedir mai Cleopatra oedd y gyntaf o'i llinach i fedru Eiffteg.

Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd nes i Iŵl Cesar gyrraedd dinas Alexandria yn 48 CC... mwy...

Wythnos 27

Dylan Thomas 1914 - 1953
Dylan Thomas 1914 - 1953

Roedd Dylan Marlais Thomas (27 Hydref 1914 - 9 Tachwedd 1953) yn fardd poblogaidd a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac a oedd yn tarddu o Abertawe. Cafodd Thomas ei eni a'i fagu yn rhif 5, Cwmdonkin Drive yn ardal yr Yplands. Er ei fod wedi treulio ei holl blentyndod yng Nghymru, oherwydd agwedd gwrth-Gymraeg ei dad ni ddysgodd yr iaith ond fe wyddir ei fod yn hoff iawn o'i wlad. Mae'n enwog am y ffordd unigryw mae'n trin geiriau ac am ei ddarlleniadau hynod o'i waith. Mae hefyd yn enwog am ei alcoholiaeth: honnodd "An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do." Priododd Caitlin a chawsant dri o blant. Ym 1995 agorwyd Canolfan Dylan Thomas yn ardal y Marina yn Abertawe. mwy...

Wythnos 28

Baner Awstralia
Baner Awstralia

Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r chweched wlad fwyaf (yn ddaearyddol) yn y byd a'r unig un sy'n gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papiwa Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin.

Trawsnewidiwyd y wlad gan fudo dynol; roedd Awstralia'n gartref i'r bobl brodorol, neu aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad gan ei meddiannu. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig... mwy...

Wythnos 29

Clwb Pêl Droed Porthmadog
Clwb Pêl Droed Porthmadog

Clwb sy'n chwarae yn y Gynghrair Undebol ydi Clwb Pêl Droed Porthmadog (Saesneg: Porthmadog Football Club); mae wedi'i leoli ym Mhorthmadog, Gwynedd. Ffurfiwyd Clwb Pêl Droed Porthmadog yn 1884, sydd yn ei wneud yn un o glybiau hynaf Cymru. Yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ac fe enillodd y tim y gynghrair hon yn 1902/03.

Roedd y 1950au, 1960au a'r 1970au yn gyfnod llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Ar ôl colli'r statws amatur, ac arwyddo Mel Charles, daeth llwyddiant i'r Traeth unwaith eto. Yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ac yn yr ail-chwarae ar y Vetch, denwyd torf fwya'r tymor - 10,941. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) ar 5 achlysur mewn 9 mlynedd. mwy...

Wythnos 30

Charles Darwin
Charles Darwin

Esblygiad yw'r ddamcaniaeth fod nodweddion etifeddadwy poblogaethau biolegol yn newid ac yn datblygu dros filiynau o flynyddoedd. Ceir amrywiaeth enfawr o rywogaethau heddiw oherwydd y broses hon. Mae esblygiad yn golygu y gallai rhai gwahaniaethau sicrhau bod creaduriaid yn byw, yn goroesi fel yr oedd yr amgylchedd o'u cwmpas yn newid, tra byddai'r rhai nad oedd yn newid (fel y triceratops) yn darfod.

Mae ein dealltwriaeth ni heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn yn 1858 pan gyhoeddodd Charles Darwin bapur ar y cyd gyda'r Cymro Alfred Russel Wallace ac yna trwy ei gyfrol On the Origin of Species; carreg filltir bwysig arall oedd gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau.

Un o'r lladmeryddion mwyaf ei oes yn erbyn syniadau Darwin oedd y Cymro Richard Owen. mwy...

Wythnos 31

Y Brenin Arthur
Y Brenin Arthur

Cymeriad oedd Arthur neu'r Brenin Arthur sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra cred eraill mai cymeriad mytholegol hollol ydyw.

Ceir cyfeiriad ar Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9fed ganrif, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, a ddyddir i tua 1080 - 1100. Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) ym 1136. O'r adeg yma ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol o boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop.

mwy...

Wythnos 32

Y Brenin Arthur
Y Brenin Arthur

Cymeriad oedd Arthur neu'r Brenin Arthur sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra cred eraill mai cymeriad mytholegol hollol ydyw.

Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9fed ganrif, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, a ddyddir i tua 1080 - 1100. Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) ym 1136. O'r adeg yma ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop.

mwy...

Wythnos 33

Arwydd dwyieithog yn y Gelli Gandryll, Cymru.
Arwydd dwyieithog yn y Gelli Gandryll, Cymru.

Defnyddir arwyddion dwyieithog (neu weithiau amlieithog) fel term am arwyddion mewn mwy nag un iaith. Fel rheol, fe'i defnyddir mewn gwledydd neu ardaloedd lle siaredir mwy nag un iaith neu mewn ardaloedd sy'n agos i ffiniau gwleidyddol neu ieithyddol, neu mewn ardaloedd lle ceir llawer o ymwelwyr sy'n siarad ieithoedd gwahanol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd rheilffordd. Gall yr arwyddion yma hefyd gynnwys arwyddion sy'n rhoi fersiynau wedi eu trawslythrennu o enwau lleoedd, yn arbennig mewn ardaloedd lle defnyddir gwyddor sy'n wahanol i'r wyddor Ladin. Weithiau, ceisir osgoi'r angen am arwyddion amlieithog trwy ddefnyddio symbolau a phictogramau. Ystyrir arwyddion dwyieithog fel un o'r prif symbolau o agweddau at ddwyieithrwydd mewn tiriogaethau lle siaredir mwy nag un iaith.

Wythnos 34

Y Byd Bregus!
Y Byd Bregus!

Mae newid hinsawdd yn gynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a'r cynnydd pellach posibl a ddaw dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r mwyafrif helaeth o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3°C y ddegawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Y gydran bwysicaf oll o'r nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2) oherwydd y maint a gynhyrchir, er fod gan nwyau eraill megis methan (CH4) fwy o effaith gan bob moliciwl. Y ffynonellau allyriant CO2 mwyaf yw gorsafoedd pŵer, cerbydau, diwydiant a defnydd ynni'r cartref. Mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu tuag 80% at allyriant CO2 dynol yn fyd-eang.

CO2
CO2
CO2
CO2

Wythnos 35

Michael Jackson ym 1984
Michael Jackson ym 1984

Canwr pop, diddanwr, sgwennwr a dyn busnes oedd Michael Joseph Jackson (29 Awst 195825 Mehefin 2009). Ganwyd yn Gary, Indiana, 25 milltir (40 km) o Chicago ac ef oedd yr 8fed mab yn nheulu'r Jacksons. Dechreuodd ganu'n broffesiynol pan oedd yn 11 oed trwy ganu gyda'r grŵp Jackson 5, ar gyfer cwmni recordiau Motown yn ystod y 1960au. Dechreuodd recordio ar ben ei hun yn 1971 er ei fod yn dal yn aelod o'r grŵp.

Caiff ei alw'n 'Frenin Pop' gan lawer a daeth yn boblogaidd dros y byd am tua 40 o flynyddoedd. Daeth pump o'i albymau stiwdio solo yn rhai o'r albymau mwyaf llwyddiannus y byd pop: Off the Wall (1979), Thriller (1982), Bad (1987), Dangerous (1991) a HIStory (1995). Gwerthwyd dros 65 miliwn o gopiau o Thriller.

Fodd bynnag, roedd ei fywyd personol yn pwnc llosg, dadleuol iawn yn ystod degawd olaf ei fywyd gan gynnwys y newid yn ffurf a lliw ei wyneb, ei ymddygiad, ei berthynas â phobl - a hefyd y cyhuddiad (anffurfiol) a ddygwyd yn ei erbyn yn 1993 o amharu'n rhywiol â phlant; setlwyd y mater y tu allan i'r llys. Cyhuddwyd ef eilwaith yn 2005 a chafwyd ef yn ddieuog.


Wythnos 36

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 a daeth i ben yn 1918. Dyma'r tro cyntaf y defnyddwyd arfau cemegol a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau a chafwyd yr engraifft gyntaf o hil-laddiad yn ystod y ganrif hon. Nid oedd cymaint o filwyr erioed o'r blaen wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdarro neu ryfel, ac anafwyd mwy o filwyr nag erioed o'r blaen. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr Habsburg, y Romanov, a'r Hohenzollern a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y croesgadau. Achosodd y rhyfel hon yr Ail Rhyfel Byd yn ogystal a Chomiwnyddiaeth a'r Rhyfel Oer ac felly roedd yn ddylanwad sylweddol ar fywyd yr ugeinfed ganrif.

Lladdwyd mwy na 9 miliwn o filwyr yn ystod y brwydrau a bron cynnifer o bobl cyffredin o achos newyn, hil-laddiad a bomiau. Lladdwyd 40,000 o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog...

Wythnos 37

Llun Rhan o furiau Castell Aberystwyth
Llun Rhan o furiau Castell Aberystwyth

Lleolir Castell Aberystwyth ar graig rhwng traeth y de a thraeth y gogledd yn nhref Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i adeiladwyd ar y safle yn 1277, ond roedd sawl castell cynharach ar y safle cyn i'r un presennol gael ei godi. Mae'r amddiffynfa cyntaf yn dyddio i Oes yr Haearn: adfeilion yn unig sydd yno bellach.

Adeiladwyd y castell presennol fel castell consentrig, o siap diamwnt, gyda phorthdy ar y ddau ben. Mae ganddo amddiffynwaith o furiau o fewn muriau a alluogai'r amddiffynwyr i saethu i lawr o uchderau amrywiol, gan helpu osgoi felly saethu cyfeillgar.

Mae'r castell ar agor i'r cyhoedd ac yn cynnwys parc hamdden a adeiladwyd yn ddiweddar gan gyngor y dref ar safle hen fynwent, mae'r hen gerrig beddau'n dal iw gweld yn sefyll ogwmpas ochrau'r parc. mwy...

Wythnos 38

Urdd Gobaith Cymru]]
Urdd Gobaith Cymru]]

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru, a sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Mae'r aelodau'n addo bod yn ffyddlon i Gymru, i'w cyd-ddyn ac i Grist.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn. Mae enillwyr eisteddfodau cylch yn mynd ymlaen i'r eisteddfodau sir ac enillwyr yr eisteddfodau sir sydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei hun.

Mae'r Urdd hefyd yn cynnal gwersylloedd yng Nglanllyn ger Y Bala a Llangrannog, Ceredigion, lle mae Cymry Cymraeg a dysgwyr yn mwynhau gweithgareddau awyr agored. Mae'r Urdd yn rhannu'r cyfleusterau sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ers 2004.

Wythnos 39

Edrych i'r gogledd o gopa Corn Du
Edrych i'r gogledd o gopa Corn Du

Parc Cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym 1957.

Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.

Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.

Wythnos 40

Hunan-bortread ym 1887
Hunan-bortread ym 1887

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent van Gogh. Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr, ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.

Fe'i ganwyd yn Zundert ar y degfed ar hugain o Fawrth, 1853, a bu farw ar y nawfed ar hugain o Orffennaf, 1890 yn Auvers-sur-Oise. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr - ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn. Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd... mwy...

Wythnos 41

Gorymdaith gyntaf Yes cymru: Caerdydd, Mai 2019
Gorymdaith gyntaf Yes cymru: Caerdydd, Mai 2019

Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a'i brif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru'n gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1] Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau. Cadeirydd cyntaf ac un o brif sefydlwyr Yes Cymru yw'r awdur a'r academydd Siôn Jobbins.

Cynhaliodd y mudiad ei gorymdaith gyntaf ym Mai 2019 yng Nghaerdydd pan ddaeth dros 3,000 o bobl at ei gilydd, ond yn Hydref 2022 cynhaliwyd yr ail orymdaith yng Nghaerdydd a gorymdeithiodd dros 10,000 o bobl.

mwy...

Wythnos 42

Llif pyroclastig yn Pilipinas- 1984
Llif pyroclastig yn Pilipinas- 1984

Mae trychineb naturiol yn digwydd o ganlyniad i broses amgylcheddol ee tirlithriad, llifogydd, echdoriadau folcanig neu tsunami. Gall trychinebau fel hyn olygu marwolaeth neu ddifrod mawr i eiddo, a hyd yn oed i economi gwlad.

I ddigwyddiad naturiol gael ei alw'n 'drychineb' naturiol mae'n rhaid iddo gael effaith ar bobl, eiddo neu economi ar raddfa fawr. Mae'r trychinebau naturiol mwyaf, felly'n, digwydd mewn ardal o boblogaeth dwys, gydag effaith pellgyrhaeddol, parhaol ac enbyd e.e. Daeargryn San Francisco yn 1906.

mwy...

Wythnos 43

Cerflun o arweinydd Celtaidd yn Glauberg yn Yr Almaen
Cerflun o arweinydd Celtaidd yn Glauberg yn Yr Almaen

Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archaeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg). mwy...

Wythnos 44

Defyddir yr ysgerbwd yn aml gan fyfyrwyr meddygol wrth astudio'r corff dynol.
Defyddir yr ysgerbwd yn aml gan fyfyrwyr meddygol wrth astudio'r corff dynol.

Yr astudiaeth wyddonol o forffoleg y corff (ffurf, siap, golwg a gwaith organau a ffurfiannau eraill) y corff dynol ydy anatomeg ddynol. Mae dwy ran iddi:

  • anatomeg topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth
  • anatomeg meicroscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth meicrosgop ac offer tebyg.

Mae anatomeg dynol hefyd yn un o'r dair astudiaeth sy'n ffurfio meddygaeth; y ddwy ran arall ydy: anatomeg ffisiolegol (sut mae'r corff yn gweithio) ac yn symud a biocemeg, sef yr astudiaeth gemegol o'r corff.

mwy...

Wythnos 45

Tom Pryce, Rhuthun
Tom Pryce, Rhuthun

Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 19495 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975.

Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall. mwy...

Wythnos 46

Sadwrn
Sadwrn

Sadwrn yw planed ail fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.

Enwyd y blaned ar ôl duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (neu Neifion mewn chwedloniaeth Geltaidd). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint. Gwybyddir am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol. Galileo oedd y cyntaf i edrych arni gyda thelesgop ym 1610. Cafodd arsylwadau cynnar eu cymhlethu gan y ffaith bod y Ddaear weithiau'n pasio trwy blaenau modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi yn ei chylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn ei hegluro gan Christian Huygens ym 1659. mwy...

Wythnos 47

Yr Wyddfa
Yr Wyddfa

Mynydd uchaf Cymru, a leolir yng Ngwynedd yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd).

Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt mynyddoedd Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded: adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa mae Hafod Eryri, sef canolfan ymwelwyr a thŷ bwyta a agorwyd yn 2009.

Cerdda tua 350,000 o bobl i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall ar y trên bach. Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yr olyfga bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne'r Alban, pellter o 144 milltir (232 km). mwy...

Wythnos 48

"Diagram rhuban" ar gyfer yr ensym Triosffosffadisomeras (TIM).
"Diagram rhuban" ar gyfer yr ensym Triosffosffadisomeras (TIM).

Sylweddau sy'n cataleiddio (h.y. cyflymu) adweithiau cemegol mewn organebau byw yw ensymau. Yn yr adweithiau hyn, gelwir y moleciwlau ar ddechrau'r adwaith yn swbstrad, ac mae'r ensym yn eu trawsnewid yn foleciwlau gwahanol, sef y cynnyrch, heb newid y strwythur ei hun yn ystod y broses. Mae angen ensymau ar gyfer bron pob proses mewn cell er mwyn iddynt weithio ar raddfa sylweddol. Gan fod ensymau'n hynod o ddetholiadol ac yn cyflymu ond ychydig o adweithiau ymysg nifer o bosibiliadau, mae'r set o ensymau mewn cell yn penderfynu llwybr metabolaidd cynnwys y gell. mwy...

Wythnos 49

Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas
Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas

Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.

Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. mwy...

Wythnos 50

William Shakespeare
William Shakespeare

Bardd a dramodydd Saesneg oedd William Shakespeare (c. 23 Ebrill 1564 - 23 Ebrill 1616), a anwyd yn Stratford-upon-Avon, Lloegr.

Credir iddo fynychu King Edward VI Grammar School lle y byddai wedi dysgu'r rhan fwyaf o'r technegau sydd eu hangen i ysgrifennu. Priododd Anne Hathway, o Stratford a chawsant dri o blant: Hamnet, Judith a Susannah. pan oedd oedd yn 18 mlwydd oed. Does dim llawer o hanes i gael am William Shakespeare yn ystod y 1580au, felly cyfeirir at y cyfnod hwnnw fel "y blynyddoedd coll".

Ymhlith ei ddramâu enwocaf y mae: Romeo a Juliet, Macbeth, King Lear, Hamlet ac Othello mwy...

Wythnos 51

Y traeth yn Puerto Madryn, Chubut
Y traeth yn Puerto Madryn, Chubut

Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill yr UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa.

Y brif ardal Gymreig yn y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r de o Borth Madryn. Afon Camwy (Río Chubut) yw prif ffynhonnell dŵr yr ardal. Ystyr yr enw gwreiddiol Chupat yn iaith y Tehuelches brodorol yw 'Tryloyw'.

Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 20,000 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu'r iaith. Mwy...

Wythnos 52

Uchelwydd yn tyfu ar Fedwen Arian
Uchelwydd yn tyfu ar Fedwen Arian

Uchelwydd yw'r enw cyffredin am grŵp o blanhigion lled-barasitig sy'n tyfu ar goeden neu brysgwydd. Esblygodd barasitiaeth naw gwaith yn unig ym myd planhigion; o'r naw hynny, mae'r uchelwydd parasitig wedi esblygu'n annibynnol bump gwaith: Misodendraceae, Loranthaceae, Santalaceae (a ystyriwyd yn flaenorol o deulu gwahanol yr Eremolepidaceae), a Santalaceae (a arferai gael ei ystyried fel rhan o deulu'r Viscaceae).

Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y stumog a dolur rhydd ynghyd a phwls isel. mwy...

Wythnos 53

Uchelwydd yn tyfu ar Fedwen Arian
Uchelwydd yn tyfu ar Fedwen Arian

Uchelwydd yw'r enw cyffredin am grŵp o blanhigion lled-barasitig sy'n tyfu ar goeden neu brysgwydd. Esblygodd barasitiaeth naw gwaith yn unig ym myd planhigion; o'r naw hynny, mae'r uchelwydd parasitig wedi esblygu'n annibynnol bump gwaith: Misodendraceae, Loranthaceae, Santalaceae (a ystyriwyd yn flaenorol o deulu gwahanol yr Eremolepidaceae), a Santalaceae (a arferai gael ei ystyried fel rhan o deulu'r Viscaceae).

Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y stumog a dolur rhydd ynghyd a phwls isel. mwy...

  1. "Gwefan swyddogol y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 2015-08-29.