Historia Brittonum

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darn o'r Historia Brittonum yn Llawysgrif Harley 3859. Ffolio 188b, ll'au 1-25.

Testun hanes Lladin o'r Oesoedd Canol cynnar yw'r Historia Brittonum (Cymraeg: 'Hanes y Brythoniaid'). Yn ôl traddodiad fe'i priodolir i Nennius, ond mae amheuaeth ynglŷn â'i wir awduraeth erbyn heddiw. Prif bwnc y testun yw hanes traddodiadol Cymru a'r Cymry (neu'r Brythoniaid). Er gwaethaf ei ddiffygion mae'n ffynhonnell bwysig am hanes cynnar Cymru ac yn cynnwys yn ogystal nifer o draddodiadau llên gwerin diddorol. Tynnodd yr awdur ar ffynonellau ysgrifenedig ynghyd â thraddodiadau llafar cynhenid. Mae'n debyg iddo gael ei gyfansoddi tua chanol y 9fed ganrif.

Ffynonellau llawysgrifol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r testun, neu fersiynau ohono, wedi goroesi mewn sawl llawysgrif, yn rhannol neu'n gyfan; ceir y testun cynharaf gorau yn Llawysgrif Harley 3859 (tua 1100), sy'n cynnwys yr Annales Cambriae a'r Achresau Harley yn ogystal. Cedwir Llawysgrif Harley 3859 yn Llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.

Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r testun wedi'i drefnu a'i ddethol yn ofalus, gyda'r awdur ei hun yn rhoi crynodeb hwylus, arloesol, ar ei ddechrau.

  1. Oesoedd y Byd (hyd 831)
    1. Chwech Oes y Byd
    2. Hanes cynnar Prydain ac Iwerddon
    3. Cyfnod y Rhufeiniaid
  2. Cronicl Caint
  3. Hanes bywyd y sant Garmon (Germanus)
  4. Chwedl Myrddin Emrys a Gwrtheyrn
  5. Hanes bywyd Sant Padrig
  6. Hanes Arthur
  7. Hanes Yr Hen Ogledd
  8. Rhyfeddodau Prydain (Mirabilia Britanniae)
  9. Rhyfeddodau Ynys Môn
  10. Rhyfeddodau Iwerddon

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y testun[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J.O. Jones (cyf.), O Lygad y Ffynnon (Y Bala, 1899)
  • John Morris (gol. a chyf.), Nennius British History and The Welsh Annals (Llundain, 1980)
  • Lewis Thorpe (cyf.), History of the Britons (Penguin Classics)
  • A.W. Wade-Evans (gol. a chyf.), Nennius's History of the Britons (1938)
  • Y testun Lladin gwreiddiol arlein

Ymdriniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). Gweler yn arbennig yr ysgrifau 'Gwlad y Brutiau' a 'Saith Math o Hanes'.
  • J.S.P. Tatlock, The Legendary History of Britain (1950)