Merlyn mynydd Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Merlen mynydd Gymreig 16 oed
Merlod mynydd y Carneddau: dwy gaseg feichiog ger Bwlch Sychnant

Mae'r merlyn mynydd Cymreig Adran A (amrywiadau: merlen mynydd Cymreig neu merlen bach y mynydd) yn frîd arbennig o ferlyn sy'n unigryw i fynyddoedd a bryniau Cymru, ac yn un o bedair adran y Merlyn Cymreig. Mae'n frîd ers o leiaf 500 o flynyddoedd ac mae'n digon posibl bod y merlod hynod hyn yn ddisgynyddion o ferlod y Celtiaid ac felly wedi bod yn rhan o fywyd mynyddoedd Cymru am 3000 mlynedd neu ragor. Yn yr Oesoedd Canol, cyn gyflwyno meirch trwm ar gyfer marchogion llawn arfog, arferai rhyfelwyr Cymry farchogaeth merlod bychain fel y rhain (ond dim i'w defnyddio i ymladd), a oedd yn gyflym ar dir anwastad y bryniau.

Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwriaeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

Mae'r merlod yn byw mewn preiddiau o hyd at 30 o gesig dan un stalwyn. Unwaith y flwyddyn caent eu corlannu am gyfnod byr er mwyn cymryd a gofalu am rai o'r ebolion a enir ar ddechrau'r gwanwyn. Ar wahân i hynny, treuliant eu holl amser yn rhydd ar y mynydd heb ymyrraeth gan eu gwneud y peth agosaf at geffylod gwyllt yng ngwledydd Prydain.

Yn ogystal â'r merlod gwyllt sy'n byw ar y bryniau, ceir stoc o ferlod mynydd Cymreig ar ffermydd bridio yng Nghymru a'r tu hwnt, e.e. yn yr Unol Daleithiau. Maent yn ffefrynnau gan farchogwyr ifainc.

Merlod y Carneddau[golygu | golygu cod]

Mae merlod mynydd y Carneddau yn grŵp unigryw. Dyma'r lleiaf eu maint o'r merlod mynydd Cymreig ond y mwyaf gwydn. Ceir tua 200 o'r merlod hyn yn byw ar lethrau'r Carneddau. Maent yn arbennig o niferus ar y llethrau gogleddol rhwng Foel Fras a Bwlch Sychnant. Ceir y grwp mwyaf ar dir comin Abergwyngregin a Llanfairfechan, gyda gyrr o tua 120 o ferlod. Maent yn anifeiliaid gwydn iawn, ond yn y gorffennol mae natur wedi bod yn drech arnynt: collwyd nifer sylweddol yng ngaeafau eithriadol oer 1947 a 1963, er enghraifft.

Yn 2005 cyflwynwyd deddfwriaeth newydd sy'n golygu fod rhaid i bob anifail a gyfrifir yn anifail amaethyddol gael pasbort a sglodyn am ffi.[1] Roedd hyn yn fygythiad mawr i ddyfodol y merlyn mynydd Cymreig gan fod yr elw a wneir ohonynt gan y ffermwyr yn isel, ond cytunodd Cyngor Conwy a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i dalu am hyn yn achos merlod y Carneddau. Roedd llywodraeth Prydain yn gwrthod eithrio'r merlod mynydd Cymreig gwyllt o'r rheol newydd, er ei bod wedi gwneud hynny yn achos merlod mynydd Ardal y Llynnoedd, Dartmoor a'r Fforest Newydd yn Lloegr.

Yn haf 2007 sefydlwyd y ffermwyr lleol sy'n gofalu am y merlod gymdeithas newydd i'w gwarchod. Sefydlwyd 'Cymdeithas Merlod y Carneddau' dan 'Raglen Tir Eryri'.

Yn Nhachwedd 2007 cyhoeddwyd fod grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth am wneud astudiaeth o ferlod mynydd y Carneddau yn y gobaith o'u hachub. Gobeithir y bydd yr astudiaeth yn profi fod y merlod hyn yn frîd unigryw ac felly'n gymwys i gael eu heithrio o'r system pasbort newydd.[2]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Passport threat to wild ponies ar safle BBC Wales
  2. (Saesneg) Andrew Forgrave, 'Our little ponies facing extinction Archifwyd 2012-03-09 yn y Peiriant Wayback.', yn atodiad 'Farm & Country' Daily Post, 22.11.07.