Parc Cenedlaethol Eryri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.

Mae'r parc o dan rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cael ei redeg gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r llywodraethau lleol (Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy (sir)) a Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio. Rhennir perchnogaeth tir yn y parc fel a ganlyn:

Math perchenogaeth siâr (%)
Preifat 69.9
Y Comisiwn Coedwigaeth 15.8
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 8.9
Cyngor Cefn Gwlad Cymru 1.7
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 1.2
Cwmniau Dŵr 0.9
Eraill 1.6

Mae dros 26,000 o bobl yn byw yn y parc, ac mae miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Hwn ydy'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.