Gwyddoniaeth
Oddi ar Wicipedia
System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw Gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a naturioldeb methodolegol; ac at y cyfanrwydd o wybodaeth y mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.
Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'
Dosbarthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: y gwyddorau naturiol, a'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg i Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
Cyfranodd llawer iawn o wyddonwyr o Gymry at wyddoniaeth dros y 400 mlynedd diwethaf, gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell ((18 Mai 1872 – 2 Chwefror 1970) a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934).
[golygu] Gwyddoniaeth Naturiol
Ystyr traddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall.
| Bioleg Bioleg yw'r maes sy'n astudio bywyd. Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth, a'r berthynas sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd. |
Cemeg Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. |
||
| Ecoleg Astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau a'u hamgylchedd yw Ecoleg (Groeg: oikos yw tŷ a logos ydy gwyddoniaeth). Mae esblygiad ac ecosystem yn dermau perthnasol. |
Ffiseg Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) neu anianeg (term hynafol) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser. |
||
| Gwyddorau Daear Mae Gwyddorau daear yn cynnwys pob math o astudiaeth o'r ddaear. Er enghraifft, mae'n cynnwys astudiaeth cerrig a chramen y Ddaear, sef Daeareg, astudiaeth dŵr, sef Hydroleg ac astudiaeth yr hinsawdd a'r tywydd, sef Meteoroleg. |
Seryddiaeth Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol. |
[golygu] Gwyddoniaeth Bur
Cangen o wyddoniaeth sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r grymoedd mwyaf gwaelodol a sylfaenol ynghyd â'r berthynas rhyngddynt a'r deddfau sy'n eu llywodraethu fel y gellir dweud fod pob ffenomen naturiol yn deillio ohonynt yw gwyddoniaeth bur neu wyddoniaeth waelodol (Saesneg: fundamental science).
[golygu] Gweler hefyd
Bioleg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth
| Gwyddorau cymdeithas |
|---|
| Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
| Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |