System Ryngwladol o Unedau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o 1800 yn dangos yr unedau degol a ddaeth yn gyfreithiol yn Ffrainc yn Nhachwedd 1800.

Enw arall ar yr hen ddull metrig o fesur ydy'r System Rhyngwladol o Unedau (Ffrangeg: Le Système international d'unités; Saesneg: International System of Units)[1] sydd wedi eu seilio ar saith prif uned o fesur ac ar hwylustod y rhif deg (10).

Dyma system fesur mwyaf poblogaidd o'i fath yn y byd, boed mewn diwydiant, addysg, neu wyddoniaeth.[2] Ceir, hefyd, unedau ychwanegol at yr Unedau SI‎ a dderbynir ar y cyd â rhestr yr SI.

Cedwir cyflwyniad swyddogol o'r System ar wefan NIST, gan gynnwys diagram o gydberthynas yr unedau â'i gilydd. Nodir isod rhai o'r prif unedau a cheir rhestr lawn mewn adroddiad (CODATA) am eraill gan restru rhai sefydlog, megis cyflymder golau.

Y Saith Prif Uned[golygu]

Mae'r system unedau yma'n dosbarthu'r holl feusiadau i saith prif ddosbarth ac yn rhestru set o ragddodiaid i'w rhoi o flaen yr enwau. Mae pob un o'r prif uned sy'n dilyn yn fathau gwahanol o fesurynnau; allan o'r saith yma y daw pob uned dilynol.

Y Saith Prif Uned SI[3][4]
Enw Symbol yr Uned Yr hyn a fesurir Symbol
metr m hyd l (llythyren fach)
kilogram neu "cilogram" kg màs m
eiliad s amser t
amper A cerrynt trydanol I (i: llythyren fawr)
kelvin K tymheredd T
candela cd cryfder golau Iv (i fawr gyda thanysgrifiad v)
môl mole maint o ddefnydd n

Rhagddodiaid[golygu]

Gweler hefyd yr erthygl lawn ar ragddodiad SI.

Rhagddodiaid a safonwyd i'w rhoi o flaen yr Unedau
Lluoswm Enw deca- hecto- kilo- mega- giga- tera- peta- exa- zetta- yotta-
Symbol da h k M G T P E Z Y
Ffactor 100 101 102 103 106 109 1012 1015 1018 1021 1024
 
Isddosbarthiad Enw deci- centi- milli- micro- nano- pico- femto- atto- zepto- yocto-
Symbol d c m μ n p f a z y
Ffactor 100 10−1 10−2 10−3 10−6 10−9 10−12 10−15 10−18 10−21 10−24

Rhai Unedau SI ar gyfer Ffiseg[golygu]

Y Wyddor Ffiseg
Yr hyn a gaiff ei fesur Y gair Saesneg Symbol Uned Safonol Fformiwla
Gwahaniaeth potensial Potential difference V Folt, V V = I.R
Cerrynt Current I Amper, A I = V/R
Gwrthiant trydanol electric resistance R Ohm, Ώ R = V/I
Anwythiant trydanol electric inductance L Henry, H H = Ώ.s
Cynhwysiant trydanol electric capacitance C Farad, F F = s/Ώ
Gwefr Charge Q Coulomb, C Q = I.t
Ymbelydredd a Dadfeilio ymbelydrol‎ Radioactivity a Radioactive decay Bq Becquerel 1/s neu A= -λN
Pwer Power P Wat, W P = V.I neu P = I2.R
Egni Energy E Joule, J E = Q.V neu V = E/Q
Amser Time t Eiliad, s E = F.l neu P.t
Grym Force F Newton, N F = m.a
Màs Mass m Cilogram, kg F = m.a
Pwysau (grym) Weight neu force W Newton, N W = m.g
Dwysedd Density D kg/m3, kg/m3 D = m/V
Moment Moment of force neu torque M Newton-metr, Nm IM = F.l
Cyflymder a Buanedd Speed neu velocity v metr/eiliad, m/s v = p/t
Cyflymiad Acceleration a metr/eiliad2, m/s2 a = Δv/t neu a = F/m
Gwasgedd Pressure P Pascal, Pa (N/m2) P = F/A
Arwynebedd Area A metr2, m2 A=s2 (s = hyd yr ochr)
Cyfaint Volume V metr3, m3 A=s3 (s = hyd yr ochr)
Amledd Frequency f neu ν (ν = nu Groeg) Hertz, Hz f = 1/t (t = cyfnod o amser)
Tonfedd Wavelength λ metr, m v = ν.λ (fformiwla ton)
Gwaith a wneir Work neu heat Wd Joule, J Wd = F.d
Egni potensial Potential energy EP Joule, J EP = m.g.Δh (h = uchder)
Egni cinetig Kinetic energy EC Joule, J EC= ½ m.v2

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Bureau International des Poids et Mesures
  2. Official BIPM definitions
  3. Barry N. Taylor & Ambler Thompson Ed. The International System of Units (SI) [1] Adalwyd: Mehefin 2008; cyhoeddwr: National Institute of Standards and Technology, Gaithersburg, 2008
  4. Quantities Units and Symbols in Physical Chemistry, IUPAC