Eiliad
Oddi ar Wicipedia
Mesuriad byr o amser ydy eiliad; ei symbol rhyngwladol ydy: 's'.[1] Fel arfer, caiff ei fesur gyda chloc neu oriawr ac ers diwedd yr 20ed ganrif gyda chlociau atomig.
Mewn un eiliad o amser mae golau'n trafeilio (mewn faciwm) 299,792,458 metr, h.y. 300,000 km (~186,282 milltir).