Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coffi

Croeso i'r Caffi - y lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg. Mae llefydd defnyddiol yn cynnwys: y Ddesg Gyfeirio, y Ddesg Gymorth, y Tudalen Cymorth iaith a'r negesfwrdd gweinyddiaeth.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.



Cynnwys

Angen diweddaru Cymru[golygu]

Symudwyd y drafodaeth hon i Sgwrs:Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011.

Dathlu Degawd[golygu]

Bydd 10fed ben-blwydd Wicipedia ar 12 Gorffennaf 2013. Rydw i wedi creu Wicipedia:Dathlu Degawd, man i drafod syniadau am sut i ddathlu a nodi'r garreg filltir hon. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:53, 10 Chwefror 2013 (UTC)

Wikidata phase 1 (language links) coming to this Wikipedia[golygu]

Wikidata-logo-en.svg

Sorry for writing in English. I hope someone can translate this locally.

Yr Hafan[golygu]

Mae'r Hafan yn peri pryder i mi ers blynyddoedd; mae ynddo ormod o wybodaeth. Ga i ganiatad y gymuned i newid tri pheth:

  1. . Mae angen lleihau'r dewis Pynciau cryn dipyn. Dileu'r is-bynciau.
  2. . Mae un ddolen yn ddigon! Ceir o leiaf tair i'r dudalen "Cymorth" !!!
  3. . Lleihau'r gwefanau eraill (ein chwiorydd) i un linell daclus.
  4. . Dileu'r rhestr o ieithoedd Wici eraill

Barn ar yr adran "Cymorth"[golygu]

Wnewch chi hefyd gymryd cip ar yr adran "Cymorth" (ar y chwith); dw i wedi chwynu'r adran hon yn ddidrugaredd ac yn siwr o bechu! Rhowch wybod neu newidiwch o! Y prif linyn mesur gen i oedd na ddylid goddef dolennau gwag (coch) ar y tudalennau hyn. Yr ail oedd: less is more. A'r trydydd oedd cyfuno sawl erthygl ar yr un pwnc. Byddaf yn parhau i weithio ar hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ei fod yn adran mor boblogaidd (gweler uchod), ond yn fler ar y naw. Dewch a'ch sylwadau os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:21, 11 Mawrth 2013 (UTC)

Fy marn i ydy fod yna lawer o waith arno!!! Mae'n llawer gwell, ond mae na goblyn o waith, a does gen i ddim amser i'w wneud. Mae potensial Wicipedia, fodd bynnag, yn aruthrol, ond dim digon o olygyddion i gyrraedd critical mass! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:26, 12 Mawrth 2013 (UTC)
Oes mae na goblyn o waith arno! Dw i wedi ychwanegu ychydig o feideos i gynorthwyo'r newydd-ddyfodiad; yn fama. Mi fydda i'n eu haddasu wrth fynd ymlaen, felly does dim byd mewn marmor! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:55, 15 Mawrth 2013 (UTC)
Un fideo arall yn fama. Oherwydd ei ansawdd (da, gobeithio!!!), fydde ne wrthwynebiad pe bawn i'n ei roi yn yr Hafan, o dan y pennawd "Cymorth a Chymuned"? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:30, 6 Mehefin 2013 (UTC)

Wiciddata cam 1 (dolenni rhyngwici) ar waith ar Wicipedia[golygu]

Wikidata-logo-en.svg

Daw Wiciddata cam 1 (dolenni rhyngwici) ar waith yma heddiw (6 Mawrth 2013). Mae dolenni at ieithoedd eraill yn y blwch chwith yn dod o Wiciddata yn ogystal â'r rhai sydd yn y testun wici. I'w golygu, ewch i waelod y dolenni rhyngwici a chliciwch ar "Edit links". Nid oes angen diweddaru'r dolenni rhyngwici mewn testun yr erthygl bellach.

Ymhle allai ganfod rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau? Mae defnyddwyr ar en:wp wedi creu tudalen sydd â'r holl wybodaeth angenrheidiol am olygwyr ac mae yna hefyd Cwestiynau Cyffredin ar Meta. Gallwch ofyn cwesitynau ar dudalen sgwrs y Cwestiynau Cyffredin.

Rydw i eisiau tanysgrifo i'r diweddaraf am Wiciddata I ddarllen y diweddaraf am Wiciddata gallwch danysgrifo i'r newyddlen wythnosol, a gaiff ei phostio i'ch dudalen sgwrs. (Cyfieithwyd o'r neges Saesneg uchod.)Adam (sgwrscyfraniadau) 20:11, 13 Mawrth 2013 (UTC)

Oh dîar! I can't use them at all on the English wikipedia because there's some kind of issue with Internet Explorer. I hope the rest of you have better luck! Deb (sgwrs) 18:46, 7 Mawrth 2013 (UTC)
Gwych! Sut ydym yn gallu cyfieithu "Edit links"? Ar Wiciddata, neu ryw neges MediaWici? —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:13, 13 Mawrth 2013 (UTC)
Rwyf wedi dechrau cyfieithu rhyngwyneb Wiciddata ar translatewiki.net. Rhyw wythnos o waith arno mae'n debyg, ac ychydig ddiwrnodau cyn iddo ymddangos ar Wicipedia wedi hynny. Mae'r gwaith cyfieithu i'w gael yn yr adran 'Translators' ar Wiciddata. Lloffiwr (sgwrs) 21:20, 18 Mawrth 2013 (UTC)
Rwyf wedi gofyn barn am rai o'r termau newydd sydd eu hangen ar Wiciddata draw ar y dudalen Cymorth Iaith. Lloffiwr (sgwrs) 21:50, 23 Mawrth 2013 (UTC)

Convert complex templates to Lua to make them faster and more powerful[golygu]

Hen Bapurau Newydd Cymru hyd at 1910[golygu]

Ceir ffrwyth blynyddoedd o sganio hen bapurau gan brosiect y LLlyfrgell Genedlaethol ar y we: yn fama. Mae'r stwff i gyd yn rhydd o hawlfraint a gallem ddyfynu fel y mynom! Diolch am weledigaeth y Llyfrgell unwaith eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:53, 22 Mawrth 2013 (UTC)

cyfieithu'r parth 'module'[golygu]

Byddwn yn falch o gael barn llawer o gyfranwyr ar gyfieithu 'module'. Ar y dudalen cymorth iaith mae'r drafodaeth. Lloffiwr (sgwrs) 22:34, 23 Mawrth 2013 (UTC)

Awgrymaf y fersiwn fwyaf naturiol: "modiwl". Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 26 Ebrill 2013 (UTC)

Wikidata phase 2 (infoboxes) coming to this Wikipedia[golygu]

Dewisiad Argraffu[golygu]

Print Export.PNG

Ar wici-en ceir dewisiad Arfraffu / allforio ar y bar llitho chwith - uwchben y rhestr ieithoedd. Oes na rywun yn gwybod sut i ychwanegu'r dewis yma ar wici-cy? -- Llywelyn2000 (sgwrs) 09:29, 10 Ebrill 2013 (UTC)

Bosible http://www.mediawiki.org/wiki/Extension:Collection? Chase me ladies, I'm the Cavalry (sgwrs) 14:25, 23 Ebrill 2013 (UTC)
Diolch Richard. I'll try and squeeze a few minutes tonight, unless someone beets me to it! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:14, 23 Ebrill 2013 (UTC)

Nifer o dudalennau sydd wedi'u hymweld a nhw heddiw[golygu]

Mae'n bosib ychwanegu'r canlynol ar yr Hafan, os dymunwch:

Heddiw, ymwelwyd â 25,460 o dudalennau'r Wici, hyd yma.

Neu debyg. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:40, 22 Ebrill 2013 (UTC)

Nifer y defnyddwyr cofrestredig yw hynny, nid nifer y tudalennau sydd wedi'u hymweld. —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:25, 22 Ebrill 2013 (UTC)
Diolch Adam. Rwyt ti'n llygad dy le unwaith eto. Bydda nifer y tudalennau a agorwyd yn wych, ond dw i'n meddwl mai'n allanol yn unig mae'n cael ei gyfri? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 23 Ebrill 2013 (UTC)
Sut mae dod i hyd i faint o bobl sydd wedi ymweld ag erthygl penodol? Sylwaf ar waelod tudalennau http://www.hedyn.net/ bod y ffigwr i bob tudalen yn weledol. Mae'n debyg mai addasu cod MediaWiki sydd eisiau, ond falle nad yw'r hawliau gennym. --Ben Bore (sgwrs) 08:29, 23 Ebrill 2013 (UTC)
Fama. Cofia newid en i cy. Mae dy ddolen i Hedyn yn ddiddorol iawn - tybed fedrith Carl roi golau ar y mater? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:20, 23 Ebrill 2013 (UTC)

Request for comment on inactive administrators[golygu]

Wikidata phase 2 (infoboxes) is here[golygu]


Cynllun / Polisi Iaith Wikimedia UK[golygu]

Ga i dynnu eich sylw i'r drafodaeth hon sy'n digwydd ar wefan Wikimedia UK. Mae'n dilyn fy anfodlonrwydd fod swydd Wicipediwr yn y Gweithlu wedi ei hysbysu ar Wici-en yn unig, gan anwybyddu Wici Gaeleg yr Alban a'r Wici Cymraeg ayb. Nodwch eich sylwadau os gwelwch yn dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 27 Ebrill 2013 (UTC)

Dw i wedi cyfieithu hafan WMUK a cheir trafodaeth ar hynny yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:18, 5 Mehefin 2013 (UTC)
Mae'r faner hefyd wedi'i gwbwlhau a Rhys Wynne a finnau wedi'n gwneud yn Weinyddwyr i'w warchod a'i gadw'n gyfoes. Dyma'r hafan Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:26, 12 Mehefin 2013 (UTC)

Cyfeiriadau[golygu]

[en] Change to wiki account system and account renaming[golygu]

Some accounts will soon be renamed due to a technical change that the developer team at Wikimedia are making. More details on Meta.

(Distributed via global message delivery 03:27, 30 Ebrill 2013 (UTC). Wrong page? Correct it here.)

[en] Change to section edit links[golygu]

Yes check.svg Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 08:40, 2 Mai 2013 (UTC)

Hen bryd?[golygu]

Hi, fel y gwelwch dwi'n ôl o'r diwedd. Bydd gennyf lai o amser i gyfrannu am rwan oherwydd amgylchiadau tu allan i fy reolaeth ond dwi'n gobeithio medru gwneud fy siar bob hyn a hyn. Ymddiheuriadau am yr absenoldeb hir! Anatiomaros (sgwrs) 17:50, 13 Mai 2013 (UTC)

Angen cymorth i ddatrys problem gyda nodyn[golygu]

Mae rhywbeth mawr o'i le yn y nodyn:cat-geni-canrif. Am ryw reswm mae'r nodyn yn rhoi categoriau genedigaethau canrifoedd yn y categoriau canrif anghywir, sef canrif o flaen yr un iawn, e.e. Categori:Genedigaethau'r 15fed ganrif sydd yng nghategori'r 14eg ganrif. Dwi'n methu gweld beth sy'n achosi hyn. Mae angen trwsio'r nodyn, beth bynnag, achos mae'r canlyniadau'n chwerthinllid. All rhywun gael golwg arno? Anatiomaros (sgwrs) 00:05, 17 Mai 2013 (UTC)

Wedi trwsio. Roedd y rhif anghywir ar gyfer y paramedr yn y categorïau sydd rhwng y tabiau includeonly. —Adam (sgwrscyfraniadau) 02:08, 17 Mai 2013 (UTC)
Diolch yn fawr, Adam. Bydd rhaid i mi ddysgu mwy am y nodiadau 'ma er mwyn medru eu trwsio nhw fy hun heb wneud smonach o bethau! Anatiomaros (sgwrs) 21:22, 21 Mai 2013 (UTC)

Cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder[golygu]

Fel rhan o fy ailwampiad o'r adran "Cymorth", dw i wedi creu tua phymtheg o fideos hyfforddi - i dywys defnyddwyr newydd drwy'r drysni a'r anialwch o sut i olygu Wicipedia. Yn ychwanegol i'r fideos yma yn yr adran hon, mae nhw wedi'u huwchlwytho i You Tube. Y cwbwl sydd angen ei wneud ydy teipio "Wicipedia Cymraeg", ac fe ddont i'r fei, neu yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 17 Mai 2013 (UTC)

Tech newsletter: Subscribe to receive the next editions[golygu]

New account creation and login redesign[golygu]

Wici BioFlits 14 Mehefin[golygu]

Rydym am ymuno efo BioFlits Cymdeithas Edward Llwyd ar 14 Mehefin, 2013 ym Mharc Dudley, Waunfawr ger Caernarfon. Byddwn yn tynnu lluniau o'r gwyfynod - a rhywogaethau eraill - ac yn eu huwchlwytho i Wici Comin a'u hychwanegu at erthyglau perthnasol. Rhydd hyn gyfle euraidd i glensio'r bartneriaeth sydd eisioes rhwng y ddwy gymdeithas mewn modd ymarferol ac i hyfforddi aelodau CELl ar sgiliau Wici. Mae nhw'n darparu lluniaeth, ond awgrymaf eich bod yn dod a'r hanfodion: coffi poeth a ballu efo chi! Cychwyn am 5.00 y pnawn a gorffen tua 12.00 yr hwyr. Bydd gen i gar yn teithio o Ruthun, os oes rhywun isio lifft. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 1 Mehefin 2013 (UTC)

Trademark discussion[golygu]

rhwystrau / blocks[golygu]

(copiwyd o Sgwrs Defnyddiwr:Deb)

Dw i wedi cymryd golwg ar Arbennig:BlockList a dw i'n gweld llawer o rwystrau hirion yna. Dw i ddim yn eich gweld yn rhybuddio'r defnyddwyr a rwystrwyd cyn i'w rhwystro. Ar wici-en a wici-fr maen nhw'n gosod negeseuon ar y tudalennau sgwrs i rybuddio defnyddwyr am fandaliaeth - ond dim ar wici-cy, dim ond eu rhwystro, amhenodol yn aml (cyfeiriadau IP hefyd!), heb ddweud dim byd ar wahan i 'dyma rwystr i ti, y rheswm oedd hwn'. Pam? Ydych chi'n siwr bod hyn yn syniad da? Os ydych chi'n rhybuddio cyn rhwystro, mae hyn yn rhoi cyfle i'r fandal i wella'i gyfraniadau a dod yn olygydd da. Oes gwahaniaeth gyda ni os mae hyn yn bosibl, neu oes mwy o wahaniaeth gyda ni am fandaliaeth na chyfraniadau?
Dw i'n meddwl bod angen arnon ni bolisi rhwystro fel ar y wiciau eraill. Os nad oes polisi gyda ni am rwystro does dim byd i ddweud beth ni all y gweinyddwyr defnyddio fel rheswm dros rwystro, nac oes?

Beth y mae pawb yn feddwl am hyn? Fe hoffwn i, o leiaf, ysgrifennu rhywbeth sy'n edrych fel polisi rhwystro os allwn ni gytuno beth dylai e gynnwys. Hoffwn i wneud nodiadau i rybuddio defnyddwyr am fandaliaeth neu wybodaeth anghywir hefyd os oes angen.

Gyda llaw, mae llawer o dudalennau yn cysylltu â'n polisi rhwystro nad ydy'n bod.

(copied from Sgwrs Defnyddiwr:Deb)

I took a look at Arbennig:BlockList and I see a lot of long blocks there. I don't see you [all] warning the users that were blocked before blocking them. On wiki-en and wiki-fr they leave messages on the talk pages to warn users about vandalism - but not on wiki-cy, only block them, often indefinitely (IP addresses too!), without saying anything but 'here's a block for you, the reason was this'. Why? Are you sure that's a good idea? If you warn before blocking, this gives the vandal a chance to improve their contributions and become a good editor. Do we care if that's possible, or do we care more about vandalism than contributions?
I think we need a blocking policy like on the other wikis. If we don't have a policy for blocking there's nothing to say what the administrators can't use as a reason for blocking, is there?

What does everyone think about this? I would like to, at least, write something that looks like a blocking policy if we can agree on what it should include. I would like to make templates to warn users about vandalism or incorrect information if there's a need.

By the way, a lot of pages link to our nonexistent blocking policy.

Cathfolant 15:15, 8 Mehefin 2013 (UTC)

Didn't realise that. I admit I never warn them. I've never seen a vandal on cy that didn't look like he/she knew exactly what they were doing. Deb (sgwrs) 21:14, 8 Mehefin 2013 (UTC)
Through long experience I have to agree with Deb. I'm sure 'cy' isn't the only smaller wiki in the same situation: we just don't have the time and resources to imitate 'en' et al. I have sometimes used the warning and explanation - usually where there was an outside chance the vandalism may have been inadvertent or traceable to a school computer's IP address. I rarely give long blocks to IP addresses unless it has a record of vandalism - with many of us having dynamic IP addresses a block of 24 hours or a few days is enough in most cases (one exception, several years ago, was my series of extensive range blocks to stop a very well-known trans-wiki vandal who'd been causing mayhem here and elsewhere). Anatiomaros (sgwrs) 22:31, 8 Mehefin 2013 (UTC)
Thank you for the explanations. I would still like to write up a blocking policy and perhaps related stuff like warnings (for those few cases where they might be useful) if we agree they should exist. I can also be more resources for you to fight vandalism and/or warn vandals with if that helps any, though not just now since I'm on a two week break from all wikis due to schoolwork and I've requested on my sgwrs defnyddiwr to have my break enforced (like this) if I don't stick to it. This break is also why I haven't replied to this for some time; I've been trying hard to stay off my wikis. Cathfolant 23:05, 10 Mehefin 2013 (UTC)
By all means write a blocking policy for discussion, Cathfolant. We probably should have one (maybe do somewhere - I've lost track of our documents lately!). Just remember our limited resources: our main task is to expand the Wici.
PS Meanwhile ignore Wikipedia and concentrate on your school work. Pob hwyl i ti. Anatiomaros (sgwrs) 23:54, 10 Mehefin 2013 (UTC)

Rheolwr Wicipedia yng Nghymru[golygu]

Mae Cymdeithas Wici Cymru a sefydlwyd yn Hydref 2012 wedi llwyddo i sicrhau £108,000 ar gyfer Prosiect Llwybrau Byw! gan Lywodraeth Cymru, yr Arolwg Ordnans a Wikimedia UK. Bydd cyfran WMUK yn mynd i gyflogi Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru i ddatblygu Wicipedia a'i chwaer-brosiectau. Ewch amdani! Mae'r manylion ar wefan Wici Cymru. Bydd angen nifer o hyfforddwyr yn ogystal a rheolwr. Mae hyn yn cyd-fynd â'n pen-blwydd yn 10 oed a nifer ein herthyglau yn 50,000 - yng Ngorffennaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:29, 13 Mehefin 2013 (UTC)

IRC[golygu]

Helo, Yn gyntaf caf sôn nad yw fy iaith frodorol Gymraeg, felly os gwelwch yn dda yn derbyn camgymeriadau oddi wrthyf, iaith doeth, ac os byddwch yn eu gweld, cywiro.

Yn awr, Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o Freenode. Mae system sgwrsio ras gyfnewid y rhyngrwyd sy'n galluogi defnyddwyr i drafod mewn amser real. Wikimedia wedi defnyddio Freenode am nifer o flynyddoedd ar gyfer wiki cyd-drefnu. Er fy mod yn newydd i'r Wicipedia Cymraeg, rwyf wedi creu sianel ar gyfer golygyddion i drafod materion yn ymwneud â Wicipedia hwn.

Gellir ei weld o dan #wikipedia-cy. I gysylltu ag ef, gallwch ddefnyddio cleient neu ddefnydd IRC sgwrsio ar y we Freenode yn. Fel nodyn bach, yr wyf yn gobeithio i fod yn aelod cynhyrchiol o Wicipedia hwn gan y bydd yn caniatáu i mi i fod yn fwy cynhyrchiol yn fy rôl yn y Wicidata. John F. Lewis (sgwrs) 20:40, 16 Mehefin 2013 (UTC)

Free Research Accounts from Leading Medical Publisher. Come and Sign up![golygu]

Enwau Gwledydd[golygu]

Rhag ofn iddo fynd ar goll, gweler Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Unrhyw sylwadau? Neu i bleidlais... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 18 Mehefin 2013 (UTC)