Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cymru
Arwyddair"Cymru am byth", "Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn", "Banner Dewi Sant"
MathGwlad
PrifddinasCaerdydd
Poblogaeth3,107,500 (2021)
SefydlwydYmadawiad Macsen Wledig yn 383 CC

Unwyd gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1057 Diffiniwyd fel tiriogaeth eto yn 1967

Datganoli yn 1998
AnthemHen Wlad fy Nhadau
Pennaeth llywodraethMark Drakeford Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
NawddsantDewi Sant
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolcenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Sir22 o siroedd
Arwynebedd21,218 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.35°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW92000004 Edit this on Wikidata
"Gwlad"
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Cymru Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cymru Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMark Drakeford Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Cymru (gwahaniaethu)

Mae Cymru (Saesneg: Wales; Cernyweg: Kembra) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr,[1] mae Cymru wedi'i hawlio gan Loegr ers Oes y Tywysogion, ac yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.

Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, Y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[2] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn y gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn y ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.

Daeth hunaniaeth genedlaethol Gymreig i'r amlwg fel Brythoniaid Celtaidd ar ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus) a'r Rhufeiniaid adael Ynys Brydain yn y 5ed ganrif. Datblygodd ystyrir Cymru fel gwlad Celtaidd modern yn oes tywysogion Cymru. Bu farw twywysog olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd) yn 1282, a olygodd cwblhad gorchfygiad Cymru gan Edward I, brenin Lloegr.

O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru. Ar ôl hynny cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542. Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19eg ganrif, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20fed ganrif gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Roedd Lloyd George yn ymgyrchu yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Chymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny ail hail-henwi yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.

Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref mwyaf y gogledd. Mae gan gweddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnol a thrwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net, gan gyfrannu at hunangynhaliaeth amaethyddol genedlaethol.

Geirdarddiad

Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw "Cymry", ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi.[3] Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[4] sydd o bosib yn dyddio o'r 7c, a daw o'r gair Brythoneg combrogos (lluosog: combrogi) sy'n golygu "cydwladwr". Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[5] Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[6]

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[5]

Hanes

Oes y Celtiaid

Llun o Caradog, arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai'r rheswm pam y gwladychwyd Cymru gan y Rhufeiniaid yw oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a pheth sinc.[7]

Brenhinoedd a thywysogion Cymru

Ni wnaeth yr Eingl-Sacsoniaid orchfygu Cymru, er iddynt dorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Hen Ogledd ar ôl Brwydr Caer yn 615, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r dirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd Offa, brenin Mersia, glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei frenhiniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w gweld o hyd heddiw.[angen ffynhonnell]

Baner Dewi Sant

Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6g, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel Rhodri Mawr a Llywelyn ap Gruffudd yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.[angen ffynhonnell]

Ceflun Owain Glyn Dŵr, Corwen

Ar ddiwedd y 1060au, daeth y Normaniaid i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd Y Mers, rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd Llywelyn Fawr i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger Cilmeri a chipiodd Edward I o Loegr ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech ydyw'r cestyll enwocaf.[angen ffynhonnell]

Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y 13g hyd ddiwedd y 15g; gan Madog ap Llywelyn (1294—96) a Llywelyn Bren (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad Owain Lawgoch yn y 1370au i ryddhau'r wlad. Cododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel yn 1400 a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.[angen ffynhonnell]

Dan rheolaeth Saesnig

Am ran helaeth o weddill y 15g tynnwyd Cymru i mewn i Ryfeloedd y Rhosynnau a welodd y Lancastriaid a'r Iorciaid yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynnydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn 1485 glaniodd yn Sir Benfro gyda byddin o Ffrancod. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd Rhisiart III o Loegr ar 22 Awst 1485 ar Faes Bosworth.[angen ffynhonnell]

Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab Harri VIII cyflwynwyd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestanaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg — ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.[angen ffynhonnell]

Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw'n meddu Senedd ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 19% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.[angen ffynhonnell]

Datganoli

Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[8]

Agorwyd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi yn 2006. Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraaeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[9]

Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Roedd Deddf Cymru 2017 yn gwneud y Cynulliad Cenedlaetholo yn rhan barhaol o gyfansoddiad y DU. Ar ôl pasio'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[9]

Gwleidyddiaeth

Y prif weinidog Mark Drakeford yn cwrdd a phrif weinidog Yr Alban Humza Yousaf, Caeredin, 2023

Mae Cymru yn wlad sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig (DU).[10] Mae'r DU yn frenhiniaeth seneddol ddemocrataidd.[11]Llywodraethir Cymru gan system Model Cadw Pwerau, lle restrir holl faterion dan reloaeth Senedd y DU, gyda'r gweddill o dan reolaeth Senedd Cymru.[12] Mae Cymru yn ethol 40 aelod i Senedd y DU.[13]

Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol gan gynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru ac yn cynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU.[14]

Rheolir llywodraeth leol yng Nghymru gan 22 o awdurdodau unedol.[15]

Senedd Cymru

Senedd Cymru

Mae Senedd Cymru yn gorff etholedig sy'n cynrychioli Cymru a’i phobl ac yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[16]

Cafodd y Senedd ei sefydlu yn 1997 ar ôl refferendwm datganoli i Gymru. Hyd at 2020, cydnabyddwyd fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn y newid enw i Senedd Cymru. Mae gan y Senedd 60 o aelodau, ond mae cynlluliau i gynyddu hyn i 96. Ar hyn o bryd mae 30 aelod Llafur Cymru, 16 aelod Ceidwadwyr Cymreig, 12 aelod Plaid Cymru, 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac 1 annibynnol. Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru ar Fai 7, 2026.[17]

Heddlu a Lluoedd Arfog

Ceir Heddlu, Caerdydd

Mae gan Gymru bedwar heddlu, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Mae prif heddwas Dyfed-Powys wedi galw am un llu "Heddlu Cymru" erbyn 2030.[18]

Yn y lluoedd arfog yng Nghymru, y Fyddin sydd â’r presenoldeb fwyaf gyda dros 1,400 o bersonél. Yn 2019 roedd 3,230 o bersonél milwrol a sifil wedi’u lleoli yng Nghymru. Roedd hefyd dros 60 o sefydliadau a chanolfannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys canolfannau wrth gefn a chyfleusterau hyfforddi.[19][20]

Daearyddiaeth

Cymru o'r gofod

Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd siroedd gweinyddol oedd wedi ei seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crëwyd wyth sir gadwedig: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau lleol i gymryd lle'r wyth sir gadwedig, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir gadwedig, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.[angen ffynhonnell]

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd i'r cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy, ym 1986, ac i ardal ddiwydiannol Blaenafon yn 2000, statws Treftadaeth Byd UNESCO.[angen ffynhonnell]

Bioamrywiaeth

Barcud Coch, Rhaeadr

Adar

Oherwydd ei harfordir hir, mae Cymru yn gartref i amrywiaeth o adar môr. Mae'r arfordiroedd a'r ynysoedd cyfagos yn gartref i nythfeydd o huganod, adar drycin Manaw, palod, gwylanod coesddu, mulfilod a llursod. Mewn cymhariaeth, gyda 60 y cant o Gymru yn uwch na’r gyfuchlin 150m, mae’r wlad hefyd yn cynnal amrywiaeth o adar cynefin yr ucheldir, gan gynnwys y gigfran a mwyalchen y mynydd.[21][22] Mae adar ysglyfaethus yn cynnwys y cudyll bach, boda tinwyn a'r barcud coch, symbol cenedlaethol o fywyd gwyllt Cymru. At ei gilydd, mae mwy na 200 o wahanol rywogaethau o adar wedi’u gweld yng ngwarchodfa’r RSPB yng Nghonwy, gan gynnwys ymwelwyr tymhorol.[23]

Mamaliaid

Bu farw mamaliaid mwy, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chathod gwyllt, allan yn ystod cyfnod y Normaniaid. Heddiw, mae mamaliaid yn cynnwys chwistlod, llygod pengrwn, moch daear, dyfrgwn, carlymod, gwencïod, draenogod a phymtheg rhywogaeth o ystlumod. Mae dwy rywogaeth o gnofilod bach, y llygoden wddf felen a'r pathew, o bwys Cymreig arbennig i'w cael ar y ffin nad oedd yn cael ei tharfu yn hanesyddol. [24] Nid yw'r bele, sy'n cael ei weld yn achlysurol, wedi'i gofnodi'n swyddogol ers y 1950au. Bu bron i'r ffwlbart gael ei yrru i ddifodiant ym Mhrydain, ond fe barhaodd yng Nghymru ac mae bellach yn lledu'n gyflym. Mae geifr gwyllt i'w cael yn Eryri. [25] Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwydded i ryddhau hyd at chwe afanc yn Nyffryn Dyfi, sef y rhyddhad swyddogol cyntaf o afancod yng Nghymru.[26]

Bywyd Morol

Pâl, Ynys Sgomer

Mae dyfroedd de-orllewin Cymru Gŵyr, Sir Benfro a Bae Ceredigion yn denu anifeiliaid morol, gan gynnwys heulforgwn, morloi llwyd yr Iwerydd, crwbanod cefn lledr, dolffiniaid, llamhidyddion, sglefrod môr, crancod a chimychiaid. Mae Sir Benfro a Cheredigion, yn arbennig, yn cael eu cydnabod fel ardal o bwysigrwydd rhyngwladol i ddolffiniaid trwyn potel, ac yng Nghei Newydd mae unig gartref haf dolffiniaid trwyn potel yn y DU gyfan. Mae pysgod afon o bwys yn cynnwys torgoch, llysywen, eog, gwangod, aderyn y waun a thorgoch yr Arctig, tra bod y gwyniad yn unigryw i Gymru, a geir yn Llyn Tegid yn unig. Mae Cymru'n adnabyddus am ei physgod cregyn, gan gynnwys cocos, llygaid meheryn, cregyn gleision a gwichiaid. Penwaig, macrell a cegddu yw'r rhai mwyaf cyffredin o bysgod morol y wlad. Mae tiroedd uchel Eryri sy’n wynebu’r gogledd yn cynnal fflora cyn-rewlifol creiriol gan gynnwys lili eiconig yr Wyddfa.[27] Mae gan Gymru nifer o rywogaethau planhigion nad ydynt i’w cael yn unman arall yn y DU, gan gynnwys y cor-rosyn mannog Tuberaria guttata ar Ynys Môn a Draba aizoides ym Mhenrhyn Gŵyr.[28]

Economi

Tŷ cwmni Admiral Caerdyd; cyflogwr preifat mwyaf Cymru gyda 7,000 o weithwyr[29]

Yr arian a ddefnyddir yng Nghymru yw'r Bunt, a gynrychiolir gan y symbol £. Banc Lloegr yw'r banc canolog, sy'n gyfrifol am gyhoeddi arian cyfred, ac mae'n cadw cyfrifoldeb am bolisi ariannol a dyma fanc canolog y DU. Mae’r Bathdy Brenhinol, sy’n dosbarthu’r darnau arian a ddosberthir ar draws y DU gyfan, wedi’i leoli ar un safle yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf ers 1980, ar ôl trosglwyddo’n raddol weithrediadau o’u safle Tower Hill, Llundain o 1968.[30]

Mae CMC (GDP) Cymru wedi cynyddu o £37.1 biliwn yn 1998 i £79.3 biliwn yn 2019, £75.7 biliwn yn 2020 ac yna £79.7 biliwn yn 2021.

[31][32][33] Yn dilyn Brexit, cyhoeddodd llywodraeth y DU ym mis Ebrill 2022 y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn disodli cronfeydd strwythurol yr UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu’r cyfanswm o £632 miliwn dros 2020 i 2023 a ddyrannwyd i Gymru, gan nodi bod Cymru’n cael ei thanariannu o £1.1 biliwn gan lywodraeth y DU.[34]

Mae cwmnïau a busnesau Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".[35][36] Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, a'r mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus.[37]

Trafnidiaeth

Map y ffordd A470

Mae gan wibffordd yr A55 rôl debyg ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan gysylltu Caergybi a Bangor â Wrecsam a Sir y Fflint. Mae hefyd yn cysylltu â gogledd-orllewin Lloegr, Caer yn bennaf.[38] Y prif gyswllt rhwng gogledd a de Cymru yw'r A470, sy'n rhedeg o Gaerdydd i Landudno.[39]

Gorsaf Caerdydd Canolog

Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r rhannau hynny o rwydwaith rheilffyrdd Prydain yng Nghymru, drwy gwmni gweithredu trenau Trafnidiaeth Cymru. [40] Mae gan ranbarth Caerdydd ei rwydwaith rheilffyrdd trefol ei hun. Mae toriadau Beeching yn y 1960au yn golygu bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith sy'n weddill wedi'i anelu at deithio o'r dwyrain i'r gorllewin gan gysylltu â phorthladdoedd Môr Iwerddon ar gyfer llongau fferi i Iwerddon.[41] Mae gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru yn gweithredu drwy ddinasoedd Lloegr Caer a Henffordd a threfi Amwythig, Croesoswallt a Threfyclo ar hyd Lein y Gororau. Mae trenau yng Nghymru yn cael eu pweru gan ddisel yn bennaf ond mae cangen Prif Linell De Cymru o Brif Linell Great Western a ddefnyddir gan wasanaethau o Paddington Llundain i Gaerdydd yn cael ei thrydaneiddio, er bod y rhaglen wedi profi oedi sylweddol a gorwario costau.[42][43][44]

Maes Awyr Caerdydd yw maes awyr rhyngwladol Cymru. Yn darparu cysylltiadau â chyrchfannau Ewropeaidd, Affrica a Gogledd America, mae tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Caerdydd, ym Mro Morgannwg. Roedd hediadau o fewn Cymru yn arfer rhedeg rhwng Ynys Môn (y Fali) a Chaerdydd, ac fe’u gweithredwyd ers 2017 gan Eastern Airways.[45] Nid yw’r hediadau hynny ar gael mwyach, o 2022 ymlaen. Mae hediadau mewnol eraill yn gweithredu i ogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Gymru bedwar porthladd fferi masnachol. [46]

Mae gwasanaethau fferi rheolaidd i Iwerddon yn gweithredu o Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Cafodd y gwasanaeth o Abertawe i Gorc ei ganslo yn 2006, ei adfer ym mis Mawrth 2010, a’i dynnu’n ôl eto yn 2012.[47][48]

Addysg

Prifysgol Bangor

Mae prifysgolion Cymru yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth a sefydlwyd yn 1872, sef prifysgol hynaf Cymru; Prifysgol Bangor sydd wedi'i hadnabod fel prifysgol yng Nghymru â'r gradd creadigol orau; Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn ffocysu ar gyrsiau ymarferol ac enillodd wobr ariannol am ragoriaeth dysgu yn 2017: Prifysgol Caerdydd, sef prifysgol gorau Cymru yn ôl un canllaw yn 2020; Prifysgol Abertawe, prifysgol y flwyddyn yn 2019; Prifysgol De Cymru a sefydlwyd yn 2013 a enillodd prifysgol seibr (cyfrifiadurol) y flwyddyn 2019: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y prifysgol orau yng Nghymru am y gymuned ddysgu yn 2018; Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a ddaeth yn ail ar draws y DU gyfan am foddhad myfyrwyr.[49][50]

Iechyd

Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaeth iechyd gwladol i tua 3 miliwn o bobl sy'n byw yng Nghymru. Ariennir y gwasanaeth yn gyhoeddus, a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am strategaeth gofal iechyd Cymru drwy saith Fwrdd Iechyd Lleol Cymru, y tair Ymddiriedolaeth a'r ddau Awdurdod Iechyd Arbennig. Egwyddor y Gwasanaeth Iechyd yw y dylai pawb gael mynediad at wasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim.[51]

Demograffeg

Poblogaeth

Yn ôl Cyfrifiad 2021 yr oedd 3,107,500 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 149.6/km².[52]

Iaith

Yn ôl cyfrifiad 2021, mae 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, sef 538,000 o bobl. Yn 2011 roedd 19% o Gymry yn siarad Cymraeg.[53]

Diwylliant

Cerddoriaeth

Cantores Duffy

Mae gan Gymru'r llys enw ‘Gwlad y Gân’, a throaddodiad canu lle mae'r genedl wedi eu magu wrth ganu yn yr ysgol ysgol, mewn partïon ac yn y capel. Mae'r Cymry yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef yr ŵyl lenyddol gystadleuol a cherddoriaeth fwyaf Ewrop. Mae canu a chanu côr yn rhan o hunaniaeth a thraddodiad Cymru fel y dwedir yn nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley (1941) , 'Mae fy mhobl yn canu fel mae llygaid yn gweld'.[54]

Llenyddiaeth

Mae'r awdl Y Gododdin’ yn enw ar gasgliad o dros gant o awdlau yn Gymraeg o ail hanner y 6g a oedd wedi datblygu o'r iaith Brythoneg.[55]

Chwaraeon

Monolith o fathodyn pêl-droed Cymru a Gareth Bale yng Nghastell Caerdydd

Er bod caeau pêl droed wedi bod yn hanner gwag ar adegau, mae pêl-droed wedi dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru wrth i dîm pêl-droed Cymru brofi llwyddiant. Adnabyddir y cefnogwyr heddiw fel y Wal Goch. Mae'r rhan fwyaf o gemau rhyngwladol y tîm dynion bellach o flaen torfeydd llawn a bu record o 15,000 yn gwylio'r tîm merched fis Hydref 2022 mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd. Mae'r gêm bellach yn gysylltiedig â ffasiwn, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth unigryw ac mae'r Wal Goch yn symbol o hunaniaeth gyda'r gân Yma o Hyd i'w glywed mewn gemau.[56]

Tîm rygbi Cymru o flaen y Senedd ar ôl ennill y Gamp Lawn yn 2012

Dywedir rhai mai rygbi a helpodd i ffurfio cenedligrwydd Cymru a bod Tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn rhan o hunaniaeth Gymreig. Daeth y gêm i'r amlwg tua diwedd y 19g ac yna ffynnu ym mlynyddoedd cynnar y 20g gan roi Cymru ar lwyfan y byd.[57] Cyn rygbi, roedd y gem Cnapan yn bodoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru cyn y 19g, ac yn gêm debyg i rygbi.[58] Hyd at ddiwedd y 19g roedd y gêm tîm boblogaidd Bando yn cael ei chwarae trwy Gymru, yn enwedig ym Morgannwg.[59]

Mae Cymry wedi cael llwyddiant ym mhencampwriaeth dartiau'r byd. Mae enillwyr yn cynnwys Gerwyn Price, Leighton Rees, Richie Burnett, Mark Webster a Wayne Warren.[60] Mae'r Cymro Mark Williams wedi ennill pencampwriaeth snwcer y Byd dair gwaith gan gynnwys 2018.[61] Yn yr un flwyddyn, fe ddaeth Geraint Thomas yn fuddugol Tour de France, y Cymro cyntaf i wneud hynny, ac hefyd y Tour de Suisse yn 2022.[62] Mae Cymry hefyd wedi cael llwyddiant yn y Gemau Olympaidd. Jade Jones oedd y gyntaf o Gymru i ennill medal aur unigol yn 2012 ac eto yn 2016.[63] Ian Woosnam oedd y Cymro cyntaf, a'r unig un hyd yma, i ennill Cystadleuaeth y Meistri (Masters) yn 1991.[64] Mae Cymry hefyd wedi ennill pencampwriaeth y byd mewn bocsio, gan gynnwys Joe Calzaghe, Enzo Maccarinelli a Gavin Rees.[65] Yn ogystal, enillodd Lauren Price y fedal aur bocsio pwysau canol yng Ngemau Olympaidd 2021.[66]

Coginiaeth

Pice ar y maen

Mae bwydydd Cymreig traddodiadol yn cynnwys bara ceirch cawl Cymreigpice ar y maen/teisen gribara lawrbara brithselsig Morgannwg, a Caws pob (Welsh rarebit).[67][68]

Symbolau cenedlaethol

Heddiw, mae Cymru’n cael ei hystyried yn genedl Geltaidd fodern, ac mae hynny'n cyfrannu at hunaniaeth genedlaethol Cymru.[69][70] Gwahoddir artistiaid Cymreig yn gyson i wyliau Celtaidd hefyd.[71]

Baner y Ddraig Goch

Mae’r ddraig goch yn symbol pwysig o hunaniaeth genedlaethol a balchder yng Nghymru a dywedir ei bod yn personoli dewrder y genedl Gymreig.[72] Cyfeirir at y ddraig gyntaf mewn llenyddiaeth fel symbol o'r bobl yn yr Historia Brittonum. Mae Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid Celtaidd yn cael ei rwystro rhag adeiladu caer yn Ninas Emrys. Dywed Ambrosius iddo gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig goch sy'n cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd a draig wen sy'n cynrychioli Eingl-Sacsoniaid. Mae Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr.[73] Fel symbol, cafodd y ddraig goch ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[74]

Ar 1 Mawrth, dethlir Dydd Gŵyl Dewi; mae Dewi’n eicon o hunaniaeth Gymreig.[75] Mae galwadau lluosog a chefnogaeth mwyafrifol yng Nghymru i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru, ond mae llywodraeth y DU yn dal i wrthod.[76][77][78] Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu gan ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru ac mae arferion yn cynnwys gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr, ill dau'n symbolau cenedlaethol i Gymru. Weithiau, bydd plant yn gwisgo gwisgoedd gwerin.[79]

Baner Owain Glyn Dŵr

Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig.[80] Cafodd ei gario i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, yn cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r faner yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndŵr wedi dylanwadu ar y cynllun hefyd, oherwydd roedd gan y ddau ohonynt lewod ar eu harfbeisiau.[81] Mae Diwrnod Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu ar 16 Medi yng Nghymru a bu galwadau i’w wneud yn ŵyl banc cenedlaethol. [82]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Hanes Cymru gan John Davies (1994) tud. 54
  2. Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed , BBC Cymru Fyw, 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2022.
  3.  Cymro. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.
  5. 5.0 5.1 Bedwyr Lewis Jones. Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.
  6. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.
  7. Jones, Barri; Mattingly, David (1990). "The Economy". An Atlas of Roman Britain. Caergrawnt: Blackwell Publishers (cyhoeddwyd 2007). tt. 179–196. ISBN 9781842170670.
  8. Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 197. ISBN 0-7083-2064-3.
  9. 9.0 9.1 "Hanes datganoli yng Nghymru". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  10. "A Beginners Guide to UK Geography (2021) v1.0". geoportal.statistics.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-31.
  11. Stepan, Alfred; Linz, Juan J.; Minoves, Juli F. (2014). "Democratic Parliamentary Monarchies". Journal of Democracy 25 (2): 35–51. doi:10.1353/jod.2014.0032. ISSN 1086-3214. https://muse.jhu.edu/pub/1/article/542440.
  12. "Pwerau". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  13. "Canlyniadau yr Etholiad Cyffredinol 2019 - BBC Cymru Fyw". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-08-31.
  14. "Amdanom ni". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-31.
  15. "Llywodraeth Cymru | Awdurdodau Unedol". web.archive.org. 2014-06-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-01. Cyrchwyd 2023-08-31.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  16. "Senedd Cymru | Welsh Parliament". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  17. "Beth yw rôl y Senedd?". Golwg360. 2023-07-21. Cyrchwyd 2023-08-31.
  18. "One 'Heddlu Cymru' by 2030 the way forward says police chief". Nation.Cymru (yn Saesneg). 29 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  19. Zubova, Xenia. "How Welsh is the British Army?". Forces Network (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Ebrill 2022.
  20. "Wales's contribution to the UK armed forces".
  21. Green, Mick (2007). "Wales Ring Ouzel Survey 2006" (PDF). Ecology Matters Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 11 Mawrth 2012. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  22. "Black ravens return to the roost". BBC. 24 Ionawr 2006. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  23. "Red kite voted Wales' Favourite Bird". Royal Society for the Protection of Birds. 11 Hydref 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2010. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  24. Davies (2008) p. 533
  25. Vidal, John (13 Tachwedd 2006). "Goats have roamed Snowdonia for 10,000 years; now they face secret cull". guardian.co.uk. London. Cyrchwyd 14 Awst 2011.
  26. Grug, Mari (30 Mawrth 2021). "Licensed beavers released in Wales for the first time". BBC News. Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  27. Davies (1994) pp. 286–288
  28. Perring, E.H.; Walters, S.M., gol. (1990). Atlas of the British Flora. Melksham, Great Britain: BSBI. t. 43.
  29. Kelsey, Chris (2017-01-09). "The 10 biggest private sector employers in Wales". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-22.
  30. "Llantrisant". Royal Mint website. Royal Mint. 24 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd 4 Hydref 2008.
  31. "Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2020 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2022-05-31. Cyrchwyd 2023-08-26.
  32. "Regional gross domestic product: all ITL regions - Swyddfa Ystadegau Gwladol". cy.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2023-08-26.
  33. "Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2021 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2023-04-26. Cyrchwyd 2023-08-31.
  34. "Datganiad Ysgrifenedig: Colli cyllid i Gymru o ganlyniad i drefniadau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid i ddisodli cyllid UE (4 Mai 2022) | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2022-05-04. Cyrchwyd 2023-08-26.
  35.  Busnes – Pleidleisiau a Thrafodion. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. ""busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru""
  36.  Grantiau Llywodraeth y Cynulliad yn creu 122 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru (6 Mai, 2002). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. "Cwmnïau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cyfoeth a’n llwyddiant."
  37.  Proffiliau Diwydiannau Allweddol: Trosolwg Cymru. GO Wales. Adalwyd ar 24 Mai, 2008.
  38. "One of the most important roads in Wales". Roads.org.uk. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  39. Owen, Cathy (6 Mehefin 2014). "The A470 is Britain's favourite road". Wales Online.
  40. "Transport for Wales – Design of Wales and Borders Rail Service Including Metro" (PDF). Welsh Government. 28 Chwefror 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2020.
  41. "Ferry connections". Transport for Wales. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  42. Barry, Sion (19 Mawrth 2020). "Final bill for electrifying the Great Western Mainline from South Wales to London £2bn over original budget". Business Live. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  43. "Business leaders back electric railway demand". WalesOnline.co.uk. 25 Ionawr 2011. Cyrchwyd 7 Mehefin 2012.
  44. "Britain's Transport Infrastructure, Rail Electrification" (PDF). Department for Transport. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Ebrill 2010. Cyrchwyd 7 Mehefin 2012.
  45. Harding, Nick (11 Mawrth 2017). "Eastern Airways take over Cardiff to Anglesey route". UK Aviation News. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2020.
  46. "Cardiff Airport-Destinations". Cardiff Airport – maes awyr caerdydd. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  47. "Revived Swansea-Cork ferry service sets sail". BBC News website. BBC. 10 Mawrth 2010. Cyrchwyd 19 Mehefin 2010.
  48. "Swansea-Cork ferry: Fastnet Line to close service with loss of 78 jobs". BBC News website. BBC. 2 Chwefror 2012. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012.
  49. "Prifysgolion Cymru". Wales. 11 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  50. "University League Tables 2023". www.thecompleteuniversityguide.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  51. "Amdanon Ni". GIG Cymru. Cyrchwyd 19 Chwefror 2023.
  52. "Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed". BBC Cymru Fyw. 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2022.
  53. "Gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i 17.8% yn ôl y Cyfrifiad". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  54. Ltd, Supercool (24 Chwefror 2023). "Cymru: Gwlad y Gân". WNO. Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.
  55. "Repository - Hwb". hwb.gov.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.
  56. "Tîm Pêl-droed Cymru - National Library of Wales". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2023-02-24.
  57. "Rygbi Cymru A Hunaniaeth". Wales. 2019-01-31. Cyrchwyd 2023-02-24.
  58. "BBC - Cymru a'r bêl hirgron". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-02-24.
  59. "Bando - Gêm y ffon gam". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
  60. "Gerwyn Price yn Bencampwr Dartiau PDC y Byd". BBC Cymru Fyw. 2021-01-03. Cyrchwyd 2023-02-24.
  61. "Mark Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y byd". BBC Cymru Fyw. 2018-05-08. Cyrchwyd 2023-02-24.
  62. "Geraint Thomas yn sicrhau trydydd yn y Tour de France". BBC Cymru Fyw. 2022-07-24. Cyrchwyd 2023-02-24.
  63. "Jade Jones yn ennill aur eto". Golwg360. 2016-08-19. Cyrchwyd 2023-02-24.
  64. "Ian Woosnam yn cystadlu yn Y Meistri". BBC Cymru Fyw. 2012-04-05. Cyrchwyd 2023-02-24.
  65. "Cynnal angladd y hyfforddwr bocsio Enzo Calzaghe". BBC Cymru Fyw. 2018-09-28. Cyrchwyd 2023-02-24.
  66. "Lauren Price yn ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol". BBC Cymru Fyw. 2021-08-08. Cyrchwyd 2023-02-24.
  67. Buckland, Helen; Keepin, Jacqui (2017-10-02). CBAC TGAU Bwyd a Maeth (WJEC GCSE Food and Nutrition Welsh-language edition) (yn Saesneg). Hodder Education. ISBN 978-1-5104-1843-1.
  68. "Amser Bwyd". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
  69. "Who were the Celts?". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-26.
  70. Koch, John (2005). Celtic Culture : A Historical Encyclopedia. ABL-CIO. tt. xx, 300, 421, 495, 512, 583, 985. ISBN 978-1-85109-440-0. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2011.
  71. "Success for BBC Cymru Wales at Celtic Media Festival 2022". www.bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-26.[dolen marw]
  72. "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
  73. Historia Brittonum gan Nennius (cyfieithiad Saesneg J.A.Giles)
  74. "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
  75. Bergsagel, John; Riis, Thomas; Hiley, David (2015-12-09). Of Chronicles and Kings: National Saints and the Emergence of Nation States in the High Middle Ages (yn Saesneg). Museum Tusculanum Press. t. 307. ISBN 978-87-635-4260-9.
  76. Mosalski, Ruth (2022-02-15). "10,000 want St David's Day to be a bank holiday but UK gov says no". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-22.
  77. "Poll backs St David's Day holiday" (yn Saesneg). 2006-03-01. Cyrchwyd 2022-02-22.
  78. "Should patron saint's days be bank holidays? | YouGov". yougov.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-23.
  79. "St David's Day". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-02.
  80. WalesOnline (2004-09-15). "Flying the flag to remember Glyndwr". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
  81. "BBC Wales - History - Themes - Welsh flag: Banner of Owain Glyndwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-29.
  82. "Calls for 'Glyndwr Day' on anniversary". BBC News. Cyrchwyd 2022-09-20.

Dolenni allanol

Chwiliwch am Cymru
yn Wiciadur.