Howell Elvet Lewis (Elfed)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Elfed.

Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (1860 - 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Fe'i ganed yn y Gangell, Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn weinidog ac, am gyfnod, yn Archdderwydd (1924-1928). Mae ei waith barddonol yn nodweddiadol o gynnyrch y Bardd Newydd.

Bywfraffiad[golygu]

Ef oedd yr hynaf o ddeg o blant. Bu ei frawd Tom yn Athro Hebraeg ym Manceinion ac yn brifathro Coleg Diwynyddol Aberhonddu am 39 mlyndedd. Roedd brawd arall, Dan, yn newyddiadurwr yn Lerpwl ac wedyn yn olygydd y Glamorgan Free Press ym Mhontypridd. Efallai mai'r enwocaf y tu allan i Gymru oedd y pensaer a pheirianwr sifil oedd Lewis Holme Lewis.Teilwr oedd John Lewis tadcu Lefed Lewys, ac yr unig un o'r brodyr a chwiorydd a fagodd blant yn Gymraeg.[1]

Gwaith llenyddol[golygu]

Ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus Elfed y mae 'Gwyn ap Nudd' (telyneg telyneg am frenin y Tylwyth Teg) a'r 'Ddau Frawd'. Ar y cyfan ni phrisir ei farddoniaeth lawer heddiw oherwydd tuedd y bardd at sentimentaliaeth ramantaidd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891, a'r Gadair yn 1894.

Ysgrifenodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg. Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

Gwaith Elfed[golygu]

  • My Christ and other poems (1891). Cerddi.
  • Planu Coed (1894). Ysgrifau.
  • Caniadau (2 gyfrol: 1895, 1901). Cerddi.
  • Songs of Assisi (1938). Cerddi.
  • Gyda'r Hwyr (1945). Ysgrifau.

Cofiant[golygu]

Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Emlyn G. Jenkins yn 1957.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000