Annie Jane Hughes Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Annie Jane Hughes Griffiths
Portread o Annie Jane Hughes-Griffiths tua 1920
Ganwyd1873 Edit this on Wikidata
Cwrt Mawr Edit this on Wikidata
Bu farw1942 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmyfyriwr, canwr, ymgyrchydd heddwch Edit this on Wikidata
TadRobert Joseph Davies Edit this on Wikidata
MamFrances Davies Edit this on Wikidata
PriodThomas Edward Ellis, Peter Hughes Griffiths Edit this on Wikidata
PlantThomas Iorwerth Ellis Edit this on Wikidata

Roedd Annie Jane Hughes Griffiths (5 Ebrill 18737 Hydref 1942), hefyd Annie Jane Ellis, Annie Jane Hughes-Griffiths hefyd Mrs Peter Hughes-Griffiths ac Annie Cwrt Mawr yn ymgyrchydd heddwch blaenllaw yng Nghymru wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae mwyaf adnabyddus am arwaith Apêl Heddwch Menywod Cymru lle cyflwynwyd deiseb o 390,000 enw i Arlywydd Unol Daleithiau America Calvin Coolidge i'r UDA arwain ymgyrch dros heddwch fyd-eang. Casglwyd yr enwau a theithio i'r Unol Daleithiau o fewn 7 mis.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Annie Jane Davies yng Nghwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion, y chweched o ddeg o blant Robert Joseph Davies (1839-1892) a'i wraig Frances (g. Humphreys, 1836-1918) oedd yn dirfeddianwyr.

Derbyniodd beth o'i haddysg fel plentyn yn ysgol Llangeitho, ac yna mewn gwahanol ysgolion am gyfnodau yn Aberystwyth, Llundain a Chaer. Ymaelododd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1892, gan dreulio tair blynedd yno, ond heb fwriad i weithio ar gyfer gradd.[2]

Priodi Thomas Edward Ellis[golygu | golygu cod]

Ym 1895, aeth i Lundain i gadw tŷ i'w brodyr John a Walter, oedd yn fyfyrwyr yno; mae'n amlwg iddi gael blas ar fywyd Cymraeg y brifddinas, er y byddai'n rhannu ei hamser rhwng Llundain ac Aberystwyth, fel y gwnâi weddill ei hoes. Trwy ei brawd, John, y cyfarfu â Thomas Edward Ellis, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Feirionnydd, a bu'r ddau'n gohebu o 1897 hyd nes iddynt briodi ar 1 Mehefin 1898 yng Capel Tabernacl, Aberystwyth i dorf fawr a chwifio baneri o dŵr Castell Aberystwyth a'r Hen Goleg ger llaw. Mynychwyd eu priodas gan aelodau seneddol a canai côr o gantorion dethol dan arweiniad y cerddor David Jenkins gadwyn o alawon Cymreig, gan gynnwys ‘Y Deryn Pur’ a ‘Clychau Aberdyfi’[3] Mae ei lythyrau ef ati hi wedi goroesi, ond yn dilyn marwolaeth ei gŵr, dinistriodd Annie ei llythyrau hi ato ef.

Y bwriad gwreiddiol oedd priodi ym Mai 1898, ond bu'n rhaid gohirio'r dyddiad oherwydd marwolaeth Gladstone, a Tom Ellis yn Brif Chwip y Llywodraeth, a chynhaliwyd y briodas ym Mehefin 1898. Prin ddeng mis o fywyd priodasol a gafodd y ddau. Ni fu Tom Ellis yn dda ei iechyd ddiwedd 1898, ac nid oedd wedi gwella'n iawn y flwyddyn ganlynol, er na laciodd ddim ar ei waith seneddol na llenyddol, felly yr oedd gwahoddiad i dreulio gwyliau'r Pasg yn hinsawdd gynnes Cannes yn ne Ffrainc yn ymddangos fel cyfle i ymlacio ac ymgryfhau. Ond nid felly y bu, gan iddo gael ei daro'n wael, a bu farw yno ddechrau Ebrill 1899.

Ganwyd eu mab, Thomas Iorwerth Ellis, ar 19 Rhagfyr 1899.[2]

Ymgyrchu gwleidyddol a phriodi Peter Hughes Griffiths[golygu | golygu cod]

Annie Jane Hughes Griffiths, Cadeirydd Cynghrair Cenhedloedd Cymru, yn dal Cofeb Heddwch Menywod Cymru y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington D.C., 1924, gyda Mrs Ruth Morgan, Miss Eluned Prys a Mrs Mary Ellis. Casgliadau T.I. Ellis, 1924

Roedd yn adnabyddus fel gwraig gyhoeddus yng Nghymru ac yn Llundain fel ei gilydd: yng Nghymru oherwydd ei hymwneud â Choleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac â'r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn Llundain, nid yn unig am gysylltiadau Seneddol Tom Ellis, ond hefyd am ei hymlyniad at ei henwad, yng Nghapel Cymraeg Charing Cross, lle'r oedd yn aelod, ac yn gwneud llawer â merched ifainc o Gymry oedd yn gweithio yn y brifddinas. Ym 1916, daeth y Parchedig Peter Hughes Griffiths, gweinidog Capel Charing Cross, yn ail ŵr iddi.

Bu'n weithgar gyda Chynghrair y Cenhedloedd (rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig), ac erbyn 1923, hi oedd Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Pan gafwyd y syniad o gael deiseb heddwch gan fenywod Cymru, dewiswyd Annie Hughes Griffiths yn un o'r trysoryddion mygedol.[2]

Apêl Heddwch Menywod Cymru[golygu | golygu cod]

Yn dilyn galanastra'r Rhyfel Byd Cyntaf cynhalwyd cynadleddau yn Llandrindod ac yna yn Aberystwyth ym Mai 1923, gan fenywod ledled Cymru gydweithio i anfon apêl at fenywod America i ofyn iddynt ddwyn perswâd ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. I ddwyn perwâd ar yr Americanwyr penderfynwyd creu Apêl Heddwch Menywod Cymru sef deiseb anferth o enwau menywod ar draws Cymru.

Llwyddwyd i gasglu'r nifer ryfeddol o 390,296 o lofnodion, trwy ymdrechion dygn y pwyllgorau lleol, y cyfarfodydd a gynhaliwyd i esbonio pwrpas y ddeiseb a'r gwirfoddolwyr a aeth o dŷ i dŷ i gasglu'r enwau. Pan benderfynwyd bod angen dirprwyaeth i fynd â'r ddeiseb i America, roedd Annie Hughes Griffiths yn ddewis amlwg i arwain y ddirprwyaeth.

Pedair gwraig a hwyliodd am America ar y llong Cedric gyda'r gist a ddaliai'r ddeiseb; gydag Annie roedd Mary Elizabeth Ellis, un o Arolygwyr Ysgolion Ei Fawrhydi, Elined Prys, gweithwraig gymdeithasol, a Gladys Thomas a aethai yn gwmni i Annie ar y fordaith. Glaniwyd yn harbwr Efrog Newydd ar 11 Chwefror 1924.

Bu gwragedd yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth. Prawf o ddoethineb dewis Annie i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Calvin Coolidge. Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfyddiad â'r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd, yn enwedig o gofio'r teimlad cryf dros ymynysiaeth yn yr Unol Daleithiau ar y pryd.

Cadwodd Annie ddyddiadur o'r cyfnod yn America, ynghyd â nodiadau ar gyfer ei hareithiau yno. Ar waetha'r siom o weld na wnaeth yr Unol Daleithiau yn y pen draw ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, ni phylodd ei brwdfrydedd dros heddwch ac achosion dyngarol, a wreiddiwyd yn ei magwraeth Fethodistaidd.[2]

Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â'i gwaith tyngedfennol gyda'r Apêl Heddwch bu Annie Hughes yn weithgar gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru o ddyddiau cynnar y mudiad gan ymuno yn 1908. Fel y nodwyd yn ei phriodas, roedd ganddi hoffter o ganeuon gwerin Cymru a bu'n canu'r delyn a'r piano gyda'i chyfeillion pan bu'n byw yn Llundain.[3] Ceisiodd fod yn ymarferol wrth fynd ati i gasglu alaw traddodiadol Cymraeg. Yn eisteddfod y Gymdeithas Geltaidd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth 1911, dyfarnwyd gwobr o hanner gini i John Hughes (o Bencader), myfyriwr yn yr Adran Gymraeg, am gasglu tair cân werin Gymreig anghyhoeddedig - cystadleuaeth a noddwyd gan Annie.[4]

Marwolaeth a Choffhad[golygu | golygu cod]

Bu farw Annie Hughes Griffiths yn Neuadd Wen, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, a'r Ail Ryfel Byd erbyn hynny yn ei anterth. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gwynfil, Llangeitho, gyda'i brawd, J. H. Davies. Mae'r bedd yn un amlwg iawn, gyda chroes Geltaidd fawr, sy'n adlais o'r un ar fedd ei gŵr cyntaf yng Nghefnddwysarn. Y geiriad ar y garreg yw 'hefyd ei chwaer', ei henw a'i dyddiadau. Dim mwy.[2]

Mae ei harchif yn y Llyfrgell Genedlaethol - corff y bu mor ddygn yn ymgyrchu drosto ac yn weithgar ynddo.[5]

Plac Porffor[golygu | golygu cod]

Ar 3 Tachwedd 2023 codwyd Plac Porffor ar dŷ ei ŵyr, Rolant Elis, ym Maes Lowri, Aberystwyth i gydnabod cyfraniad Annie Jane am ei hymgyrchu gwleidyddol fel menyw a fel heddychwr. Annie Jane Hughes Griffiths yw'r 14eg fenyw i gael ei hanrhydeddu gan weithgor Placiau Porffor menywod Cymru, mudiad sy'n ceisio gwella cydnabyddiaeth o gyfraniad arbennig menywod o Gymru. Roedd yr awdur a'r ymgyrchydd, Meg Elis (chwaer Rolant) hefyd yn bresennol.[6]

Drama un person[golygu | golygu cod]

Yn 2023 a 2024 teithiodd Cwmni Drama 'Mewn Cymeriad' gyda'i sioe, Annie Cwrt Mawr. Awdur y sioe oedd, Siwan Jones, y Cyfarwyddwr oedd Janet Aethwy ac yn chwarae rhan Annie, oedd Annie arall, yr actores, Anni Dafydd. Bu i'r ddrama berfformio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Castell Aberteifi, Casnewydd, Aberteifi a Llundain. Galwyd y sioe yn "Drama am ddelfrydiaeth, angerdd a gobaith."[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Deiseb heddwch ar ei ffordd adref wedi canrif yn America". BBC Cymru Fyw. 29 Mawrth 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Hughes Griffiths, Annie Jane". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 22 Ionawr 2023.
  3. 3.0 3.1 Thomas, Wyn (2007). "Annie Ellis 'Cwrt Mawr', Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru". Gwerddon. line feed character in |title= at position 54 (help)
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw WT
  5. "Archif Annie J. Hughes-Griffiths". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 22 Ionawr 2024.
  6. "Plac porffor i ymgyrchydd heddwch o Geredigion". BBC Cymru Fyw. 3 Tachwedd 2023.
  7. "Annie Cwrt Mawr". Gwefan cwmni drama Mewn Cymeriad. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]