Arlywydd yr Unol Daleithiau
Mae Arlywydd Unol Daleithiau America yn ben gwladwriaeth Unol Daleithiau America. Yn ôl cyfansoddiad yr Unol Daleithiau (UDA) ef hefyd yw prifweithredwr y llywodraeth ffederal a chadbennaeth y lluoedd arfog.
Caiff yr arlywydd ac is-lywydd UDA eu hethol gan Goleg Etholiadol UDA bob yn bedair mlynedd. Mae pob talaith yn anfon yr un nifer o etholwyr i'r coleg etholiadol ag sydd ganddynt o seneddwyr a chynrychiolwyr yng Nghyngres UDA. Mae'r etholwyr yn ymrwymo i bleidleisio yn ôl canlyniadau etholiad cyffredinol a gynhelir ym mhob talaith ar yr un diwrnod.
-
Y Tŷ Gwyn, Washington DC, swyddfa'r Arlywydd UDA
Bu o leiaf 8 Arlywydd o dras Cymreig gan gynnwys: Thomas Jefferson,[1], Abraham Lincoln, John Adams, John Quincy Adams, a James Garfield. Roedd Arlywydd y Gynghrair: Jefferson Davis hefyd o dras Gymreig.[2]
Rhestr Arlywyddion Unol Daleithiau America [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ http://www.americanheritage.com/people/presidents/jefferson_thomas.shtml Thomas Jefferson
- ↑ http://www.lexingtonhistorymuseum.org/exhibits/jeff%20davis/index.php "The Education of a Southern Gentleman: Jefferson Davis"