Donald Trump
Oddi ar Wicipedia
| Donald Trump | |
|---|---|
Donald Trump yn Chwefror 2011 |
|
| Ganwyd | Donald John Trump Mehefin 14, 1946 Queens, Dinas Efrog Newydd, Talaith Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau |
| Addysg | Prifysgol Fordham Ysgol Fusnes Wharton, Prifysgol Pennsylvania (B.S.) |
| Galwedigaeth | Dyn busnes Prif weithredwr Personoliaeth deledu |
| Cyflog | $50 miliwn (2009) |
| Gwerth net | |
| Taldra | 6'2" (1.88 m) |
| Plaid wleidyddol | Y Blaid Weriniaethol (c. 1987–1999; 2009–presennol), Y Blaid Ddemocrataidd (2001-09), Y Blaid Ddiwygio (1999-2000) |
| Crefydd | Presbyteriad |
| Priod | Ivana Trump (1977–92) Marla Maples (1993–99) Melania Trump (2005–presennol) |
| Plant | Donald Trump, Jr. (ganwyd 1977) Ivanka Trump (ganwyd 1981) Eric Trump (ganwyd 1984) Tiffany Trump (ganwyd 1993) Barron Trump (ganwyd 2006) |
| Rhieni | Fred Christ Trump (1905–1999) Mary Anne MacLeod (1912–2000) |
| Llofnod | |
| Gwefan | (Saesneg) The Trump Organization |
Dyn busnes, awdur, a phersonoliaeth deledu o Americanwr yw Donald John Trump, Sr. (ganwyd 14 Mehefin 1946). Ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr (CEO) y Trump Organization, datblygydd eiddo tiriog a leolir yn yr Unol Daleithiau. Trump hefyd yw sefydlydd Trump Entertainment Resorts, sydd yn gweithredu nifer o gasinos a gwestai ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn ddiweddar bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei sioe realiti The Apprentice ar NBC. Mae Trump wedi dangos diddordeb yn ymgeisio am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2012.
Priododd Trump ei wraig cyntaf, Ivana, yn 1977, ond wedi ysgaru yn 1992.
Llysenw: "The Donald"