Abraham Lincoln

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Arlywydd Abraham Lincoln
Abraham Lincoln

Cyfnod yn y swydd
4 Mawrth, 1861 – 15 Ebrill, 1865
Is-Arlywydd(ion)   Hannibal Hamlin (1861 -1865)
Andrew Johnson (Mawrth - Ebrill 1865)
Rhagflaenydd James Buchanan
Olynydd Andrew Johnson

Geni 12 Chwefror, 1809
Sir Hardin, Kentucky (nawr yn Sir LaRue), UDA
Marw 15 Ebrill, 1865
Washington, D.C., UDA
Plaid wleidyddol Gweriniaethwr
Priod Mary Todd Lincoln
Galwedigaeth Cyfreithiwr
Llofnod Abraham Lincoln signature.JPG

Abraham Lincoln (12 Chwefror 1809 – 15 Ebrill 1865), a elwir weithiau yn Abe Lincoln, oedd 16eg Arlywydd Unol Daleithiau America (1861 hyd 1865). Mae'n nodedig am fod yn arlywydd adeg Rhyfel Cartref America ac am ryddhau'r caethweision.

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Abraham Lincoln yn 1809 mewn caban pren yn Hardin County, Kentucky, yn fab i Thomas Lincoln a Nancy Hanks. Pan oedd yn saith oed symudodd y teulu i Indiana, ac yna yn 1830 i Illinois, y dalaith a gysylltir a Lincoln yn bennaf.

Mae'n debyg na chafodd Lincoln fwy na 18 mis o addysg ffurfiol ond ymdrechodd yn galed i'w addysgu ei hun, gan ddarllen pob llyfr y medrai gael gafael arno. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol yn 23 oed, gan ennill etholiad i Gynulliad Illinois. Yn ddiweddarach ceisiodd nifer o weithiau ddechrau busnes, ond heb lawr o lwyddiant. Yna astudiodd y gyfraith trwy ddarllen llyfrau, a daeth yn fargyfreithiwr yn Illinois yn 1837 gan symud i Springfield, Illinois yn bartner mewn cwmni o gyfreithwyr gyda Stephen T. Logan. Daeth yn gyfreithiwr llwyddiannus iawn ac yn gynrychiolydd yn Senedd Illinois, lle protestiodd yn erbyn caethwasiaeth am y tro cyntaf yn 1837. Yn 1841 priododd Mary Todd. Cawsant bedwar mab: Robert Todd Lincoln, Edward Baker Lincoln, William Wallace Lincoln a Thomas "Tad" Lincoln. Dim ond Robert fu fyw i fod yn ddyn.

Ymgyrch i ddod yn Arlywydd[golygu]

Yn 1846 etholwyd Lincoln i House of Representatives yr Unol Daleithiau. Siaradodd yn erbyn y rhyfel gyda Mexico a chefnogodd ymgyrch Zachary Taylor i ddod yn Arlywydd. Ar ddiwedd ei dymor yno, dychwelodd i Springfield i weithio fel cyfreithiwr.

Ail-gydiodd yn ei yrfa wleidyddol trwy wrthwynebu Deddf Kansas-Nebraska (1854), oedd yn ei gwneud yn bisibl i gaethwasanaeth ledaenu i rannau o'r wlad lle nad oedd yn cael ei ganiatau yn flaenorol. Cynorthwyodd Lincoln i ffurfio'r Blaid Weriniaethol newydd. Yn 1858 cynhaliodd gyfres o ddadleuon cyhoeddus gyda Stephen Douglas o'r Blaid Ddemocrataidd, ac er mai Douglas a etholwyd i'r Senedd daeth Lincoln i amlygrwydd cenedlaethol.

Lincoln yn Arlywydd[golygu]

Dewiswyd Lincoln fel ymgeisydd y Blaid Weriniaethol ar gyfer etholiad 1860, ac ar 6 Tachwedd etholwyd ef yn 16eg Arlywydd yr Unol Daleithiau, gan guro Douglas ac eraill. Oherwydd fod enw i Lincoln fel gelyn i ymestyniad caethwasanaeth, yr oedd nifer o dalithiau'r de eisoes wedi datgan y byddent yn gadael yr Undeb petae Lincoln yn ennill. Dyna wnaethant, gyda De Carolina yn arwain.

Sefydlu Abraham Lincoln yn Arlywydd yn Washington ar 4 Mawrth, 1861

Pan saethwyd ar filwyr y llywodraeth yn Fort Sumter, dechreuodd Rhyfel Cartref America.

Yn 1862 cyhoeddodd Lincoln ryddin y caethweision yn y taleithiau oedd yn gwrthryfela gyda'r Emancipation Proclamation. Am gyfnod yn ystod y rhyfel pan orchfygwyd byddinoedd y Gogledd mewn nifer o frwydrau gan y De, yn enwedig gan filwyr Robert E. Lee, yr oedd Lincoln yn amhoblogaidd iawn, ac wrth i'r etholiadau yn 1864 ddynesu yr oedd yn disgwyl colli. Yn ffodus iddo ef, enillodd y Gogledd nifer o fuddugoliaethau pwysig ychydig cyn yr etholiad, er enghraifft gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg. Ychydig fisoedd wedi'r frwydr hon, wrth gysegru mynwent i ail-gladdu'r milwyr a laddwyd, traddododd Lincoln ei araith enwocaf, Anerchiad Gettysburg. Enillodd Lincoln yr etholiad i gael pedair blynedd arall fel Arlywydd.

Ar 9 Ebrill, 1865, ildiodd Robert E. Lee a'i fyddin yn Appomattox Court House yn nhalaith Virginia. Yr oedd y rhyfel bellach bron ar ben, a Lincoln eisoes yn meddwl beth i'w wneud i ail-uno'r wlad ar ôl y brwydro.

Llofruddiaeth[golygu]

Ar 14 Ebrill, 1865 (Dydd Gwener y Groglith), aeth Lincoln a'i wraig i wylio drama o'r enw Our American Cousins yn Ford's Theater. Daeth John Wilkes Booth, actor oedd yn cydymdeimlo â'r De, tu ôl iddo heb gael ei weld a'i saethu yn ei ben. Cariwyd Lincoln i dŷ dros y ffordd, lle bu farw y bore wedyn. Cariwyd ei gorff yn ôl i Illinois mewn trên arbennig gyda miloedd o bobl yn ei gwylio'n pasio.

Cofeb Abraham Lincoln yn Washington

Tras Gymreig[golygu]

Credir fod Lincoln o dras Cymreig, er nad oes prawf pendant o hynny. Roedd ei hen nain, Sarah Evans, mae'n debyg, yn ferch i Cadwaladr Evans o Wynedd. Ym 1860 cyhoeddodd 100,000 o bamffledi Cymraeg i geisio denu pleidleisiau'r mewnfudwyr Cymraeg.[1] Cyhoeddwyd 50,000 yn Utica, Efrog Newydd a'r un nifer yn Pottsville, Pensylfania.

Manion[golygu]

  • Yr oedd Lincoln yn 6 troedfedd, 3 3/4 modfedd o daldra, yr Arlywydd talaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Lyndon Johnson oedd yr agosaf ato, 1/4 modfedd yn fyrrach.
  • Ganed Lincoln ar yr un diwrnod a Charles Darwin, 12 Chwefror, 1809.
  • Yn ôl yr hanes pan alwodd Stephen Douglas ef yn "ddau-wynebog" yn ystod etholiad 1858, atebodd Lincoln "Petae gen i wyneb arall, ydych chi'n meddwl y buaswn i'n gwisgo yr un yma?"

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 14 Ebrill 2013

Dolenni allanol[golygu]

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
James Buchanan
Arlywydd Unol Daleithiau America
4 Mawrth 186115 Ebrill 1865
Olynydd:
Andrew Johnson
Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
John Henry
Aelod Thŷ'r Cynrychiolwyr dros 7fed Ardal Illinois
18471849
Olynydd:
Thomas L. Harris
Swyddi gwleidyddol pleidol
Rhagflaenydd:
John Frémont
Ymgeisydd Arlywyddol y Plaid Gweriniaethol
1860 (ennill); 1864 (ennill)
Olynydd:
Ulysses S. Grant


Arlywyddion Unol Daleithiau America Sêl Arlywyddol UDA
Washington | J Adams | Jefferson | Madison | Monroe | JQ Adams | Jackson | Van Buren | W Harrison | Tyler | Polk | Taylor | Fillmore | Pierce | Buchanan | Lincoln | A Johnson | Grant | Hayes | Garfield | Arthur | Cleveland | B Harrison | Cleveland | McKinley | T Roosevelt | Taft | Wilson | Harding | Coolidge | Hoover | F Roosevelt | Truman | Eisenhower | Kennedy | L Johnson | Nixon | Ford | Carter | Reagan | GHW Bush | Clinton | GW Bush | Obama