Virginia
|
|||||||||
| Prifddinas | Richmond | ||||||||
| Dinas fwyaf | Virginia Beach | ||||||||
| Arwynebedd | Safle 35ain | ||||||||
| - Cyfanswm | 110,785 km² | ||||||||
| - Lled | 320 km | ||||||||
| - Hyd | 690 km | ||||||||
| - % dŵr | 7.4 | ||||||||
| - Lledred | 36° 32′ G i 39° 28′ G | ||||||||
| - Hydred | 75° 15′ Gor i 83° 41′ Gor | ||||||||
| Poblogaeth | Safle 12ed | ||||||||
| - Cyfanswm (2010) | 8,001,024 | ||||||||
| - Dwysedd | 78/km² (8fed) | ||||||||
| Uchder | |||||||||
| - Man uchaf | Mynydd Rogers 1,747 m |
||||||||
| - Cymedr uchder | 290 m | ||||||||
| - Man isaf | 0 m | ||||||||
| Derbyn i'r Undeb | 25 Mehefin 1788 (10fed) | ||||||||
| Llywodraethwr | Bob McDonell | ||||||||
| Seneddwyr | Jim Webb (D) Mark Warner (D) |
||||||||
| Cylch amser | UTC -5/-4 | ||||||||
| Byrfoddau | VA | ||||||||
| Gwefan (yn Saesneg) | www.virginia.gov | ||||||||
Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, ar Gefnfor Iwerydd yw Virginia. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r Appalachians coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.
Cafodd Virginia ei henwi ar ôl Elisabeth I o Loegr, "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan Cwmni Virginia yn 1607. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd Goronwy Owen, a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn 1769. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y Chwyldro Americanaidd, a daeth yn dalaith yn 1788. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod Rhyfel Cartref America Richmond oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.
|
|
|||||
|---|---|---|---|---|---|
|
|||||