Goronwy Owen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfr am Goronwy Owen

Roedd Goronwy Owen (1 Ionawr 1723 - Gorffennaf 1769) yn un o feirdd amlyca'r ddeunawfed ganrif yng Nghymru.

Ei fywyd[golygu]

Cafodd ei eni ar Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yng ngogledd-ddwyrain Môn. Cafodd ei addysg ffurfiol yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen er na arhosodd yn y coleg yn hir. Dysgodd lawer am farddoniaeth gan Lewis Morris. Yn Ionawr 1746 fe'i ordeiniwyd yn weinidog. Yn ddyn ifanc gadawodd Ynys Môn am y tro olaf, a chrwydro i Sir Ddinbych, Croesoswallt, Donnington ac Uppington ger Amwythig, Walton ger Lerpwl, a Northol yn Llundain. Ym mis Tachwedd 1757, hwyliodd gyda'i deulu ifanc i gymryd swydd yn Swydd Brunswick, Virginia, yn Unol Daleithiau America, a bu farw yno ym mis Gorffennaf 1769 heb ddychwelyd ôl i Gymru unwaith.

Enwir Ysgol Goronwy Owen a Chlwb Pel-Droed Bro Goronwy ar ei ôl.

Ei waith[golygu]

Bardd alltud oedd - yn fwyaf enwog am ei farddoni am Ynys Môn, er ei fod wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed.

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.
Goludog, ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffter Duw Nêr a dyn wyd,
Marian wyd ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni weli ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a mesitres môr.
I'th irhau cyfoeth y rhod
A 'mryson â'r môr isod.
Gwyrth y rhos trwodd y traidd,
Ynysig unbenesaidd.

Mae tystiolaeth ei lythyrau niferus at aelodau o gylch y Morrisiaid yn dangos ei fod yn ysgrifenwr rhyddiaith campus yn ogystal. Dyma ei ddisgrifiad o berson Walton, er engraifft:

Climmach o ddyn afrosgo ydyw - garan anfaintunaidd - afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i ddrem arwguch yn tolcio (ymhen pob chwedl) yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygon; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên... Yr oedd yn swil genyf ddoe wrth fynd i'r Eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith y bardd[golygu]

  • Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Tair cerdd.
  • Diddanwch Teuluaidd (1763; arg. newydd, 1817). Bron y cwbl o'i gerddi.
  • Corph y Gainc (1810). Pump cerdd na cheir yn y Diddanwch.
  • John Jones (gol.), Gronoviana (John Jones, Llanrwst, 1860). Y cerddi i gyd a sawl llythyr.
  • Parch. Robert Jones (gol.), Poetical Works of Goronwy Owen (1876). 2 gyfrol.
  • Isaac Foulkes (gol.), Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (Lerpwl, 1878).
  • ——, Gwaith Goronwy Owen (Cyfres y Fil, Bala, 1902).
  • W. J. Gruffydd (gol.), Cywyddau Goronwy Owen (1907).
  • J. H. Davies (gol.), The Letters of Goronwy Owen (Caerdydd, 1924).

Bywgraffiad ac astudiaethau[golygu]

  • Bedwyr Lewis Jones, yn Gwŷr Môn (1979), golygydd Bedwyr Lewis Jones, Cyngor Gwlad Gwynedd. ISBN 0903935074
  • Alan Llwyd, Goronwy Ddiafael, Goronwy Ddu. Cofiant Goronwy Owen 1723-1769 (Cyhoeddiadau Barddas, 1997). Clamp o gofiant.
  • W.D. Williams, Goronwy Owen (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Caerdydd, 1951).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Letters of Goronwy Owen, XX. At William Morris o Walton, 30 Ebrill, 1753. Dyfynwyd gan Alan Llwyd yn Goronwy Ddiafael, Goronwy Ddu.

Dolenni allanol[golygu]