Maryland
Oddi ar Wicipedia
|
|||||||||
| Prifddinas | Annapolis | ||||||||
| Dinas fwyaf | Baltimore | ||||||||
| Arwynebedd | Safle 42dd | ||||||||
| - Cyfanswm | 432,133 km² | ||||||||
| - Lled | 145 km | ||||||||
| - Hyd | 400 km | ||||||||
| - % dŵr | 21 | ||||||||
| - Lledred | 37°53'G i 39°43'G | ||||||||
| - Hydred | 75°03'Gor i 79°29'Gor | ||||||||
| Poblogaeth | Safle 19af | ||||||||
| - Cyfanswm (2010) | 5,773,552 | ||||||||
| - Dwysedd | 209.2/km² (5fed) | ||||||||
| Uchder | |||||||||
| - Man uchaf | Hove Crest 3,360 m |
||||||||
| - Cymedr uchder | 105 m | ||||||||
| - Man isaf | 0 m | ||||||||
| Derbyn i'r Undeb | 28 Ebrill 1788 (7fed) | ||||||||
| Llywodraethwr | Martin O'Malley | ||||||||
| Seneddwyr | Barbara Mikulski Ben Cardin |
||||||||
| Cylch amser | UTC -5/-4 | ||||||||
| Byrfoddau | MD | ||||||||
| Gwefan (yn Saesneg) | www.maryland.gov | ||||||||
Mae Maryland yn dalaith yn nwyrain yr Unol Daleithiau, ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'n ymrannu'n ddwy ardal ddaearyddol; gwastadir arfordirol Cefnfor Iwerydd, a ymrennir yn ei thro gan Fae Chesapeake, ac ardal o ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin sy'n rhan o Fryniau'r Alleghenies. Roedd Maryland yn un o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau. Y Saeson oedd yr Ewropeiaid cyntaf i ymsefydlu yno. Fe'i rhoddwyd ganddynt i George Calvert, Baron 1af Baltimore, yn 1632 ac fe'i henwyd yn Maryland ganddo ar ôl ei wraig Henrietta Maria. Yn ddiweddarach roedd yn lloches i Gatholigion yn ffoi erledigaeth yn Lloegr. Annapolis yw'r brifddinas ac mae Baltimore yn borthladd pwysig.
Dinasoedd Maryland[golygu]
| 1 | Baltimore | 620,961 |
| 2 | Frederick | 65,239 |
| 3 | Rockville | 62,476 |
| 4 | Gaithersburg | 59,933 |
| 5 | Bowie | 54,727 |
| 6 | Annapolis | 38,394 |
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) www.maryland.gov
|
|
|||||
|---|---|---|---|---|---|
|
|||||
