Saeson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Saeson
Cyfanswm poblogaeth 90 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
DU: 45 miliwn

Yr Unol Daleithiau: 28 miliwn

Canada: 6 miliwn

Awstralia: 6 miliwn

Ieithoedd Saesneg
Crefyddau Cristnogaeth, arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol Americaniaid, Canadiaid, Awstraliaid, a phobloedd Saesneg eraill. Hefyd Ffrisiaid, Iseldirwyr, Almaenwyr, Llychlynwyr

Y Saeson yw'r grŵp ethnig a chenedl a gysylltir â Lloegr yn bennaf, er bod nifer sylweddol ohonynt yn byw mewn gwledydd eraill hefyd.

Mae'r enw "Saeson" yn Gymraeg yn dod o enw llwyth y Sacsoniaid. Ond dim ond un o sawl llwyth o bobl Almaenaidd a ddaeth i Brydain o ddiwedd y 5ed ganrif ymlaen oedd y Sacsoniaid. Gyda'r llwythau eraill fe'i helwir yn Eingl-sacsonaidd gan haneswyr. Mae'r gair 'Eingl-sacsonaidd' yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr iaith Saesneg fel ansoddair cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg', e.e. the Anglo-Saxon world am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir yr elfen arall yn y gair hwnnw, sef 'Eingl' (enw llwyth arall), i gyfeirio at Loegr a phethau Seisnig hefyd. Mae'n cael ei ymestyn yn aml yn Saesneg i gyfeirio at Brydain ei hun. e.e. mae'n arfer sôn am Anglo-French yn y cyfryngau Saesneg wrth gyfeirio at Brydain a Ffrainc. Daw'r gair English o'r enw Eingl/Angle.

Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' yn yr iaith lafar yn aml i gyfeirio at bobl Saesneg eu hiaith, neu ddi-Gymraeg, yn hytrach na phobl sy'n dod yn benodol o Loegr. Ond mae rhai pobl yn meddwl bod hyn yn sarhaus, fel dweud ei bod hi'n amhosib fod yn Gymro/-aes go iawn heb fedru siarad y Gymraeg. Er hynny, ceir enghraifft gynnar iawn o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "rhywun sy'n medru siarad Saesneg" yn llysenw'r bardd Elidir Sais (fl. cyfnod Llywelyn Fawr).

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Saeson
yn Wiciadur.