Awstralia

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Commonwealth of Australia
Cymanwlad Awstralia
Baner Awstralia Arfbais Awstralia
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim (Advance Australia yn flaenorol)
Anthem: Advance Australia Fair
Anthem frenhinol: God Save the Queen
Lleoliad Awstralia
Prifddinas Canberra
Dinas fwyaf Sydney
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg1
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol ffederal
- Brenhines Elisabeth II
- Llywodraethwr Cyffredinol Quentin Bryce
- Prif Weinidog Kevin Rudd
Annibyniaeth
- Cyfansoddiad
- Statud San Steffan
- Deddf Awstralia
O'r Deyrnas Unedig
1 Ionawr 1901
11 Rhagfyr 1931
3 Mawrth 1986
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
7,741,220 km² (6ed)
1
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
20,555,300 (53)
18,972,350
2.6/km² (224fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$674.9 biliwn (17eg)
$30,897 (14eg)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.955 (3ydd) – uchel
Arian cyfred Doler Awstralaidd (AUD)
Cylchfa amser
 - Haf
nifer2 (UTC+8–+10)
nifer2 (UTC+8–+11)
Côd ISO y wlad .au
Côd ffôn +61
1 Dim yn swyddogol.
2 Gweler Amser yn Awstralia
Lleolir Awstralia yn Oceania.
Uluru: machlud haul.

Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papiwa Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Mae mudo dynol wedi trawsnewid y wlad. Roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18fed ganrif, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Mae dyfodol economaidd y wlad i'w weld mewn masnachu yn fwy efo Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop.

Y Round House o High St, Fremantle

Cynnwys

[golygu] Hanes

Cyfanheddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o wledydd Prydain iddo, yn cynnwys nifer o Gymry. Alltudiwyd rhyw 1800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn "nherfysgoedd" Merthyr.

[golygu] Defnydd Tir

Mae dros 165 miliwn dafad yn Awstralia sy'n cyfrannu at ddiwydiant allforio mawr y wlad. Mae gwartheg yn bwysig hefyd, yn enwedig yn gorllewin y wlad. Mae gwenith a grawnwin yn cael eu tyfu mewn amryw o ardaloedd yn ne'r wlad. Mae Afon Margaret a Barossa Valley yn ardaloedd gwin pwysig iawn. Mae rhan fwyaf o'r wlad yn ddiffeithdir sy'n sych a chras ac yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth.

[golygu] Tirwedd

Mae tirwedd Awstralia yn cynnwys nifer o lwyfandiroedd erydog sy'n gorwedd yng nghanol y plât Indo-Awstralaidd. Dyma'r wlad sychaf ar ôl yr Antarctig a dyma'r cyfandir mwyaf gwastad. Mae'r arfordiroedd yn tueddu i fod yn fwy bryniog a ffrwythlon, yn enwedig yn nwyrain y wlad lle mae'r rhan fwyaf o'r trefi a dinasoedd. Mae mynyddoedd y 'Great Dividing Range' yn ffurfio ffin rhwng yr ardaloedd arfordirol tymherus a'r mewndir sych, cras.

[golygu] Trafnidiaeth a diwydiant

Roedd y cronfeydd mwyn estynedig a oedd yn cynnwys glo, mwyn haearn, bocsit, a copr, yn sicrhau economi cryf i'r wlad. Erbyn hyn mae mwyngloddio yn dal i ddigwydd ar raddfa sylweddol ond mae'r sector gwasanaethau yn gryfach, yn enwedig y diwydiant twristiaeth.

[golygu] Llywodraeth

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Israniadau

[golygu] Taleithiau

[golygu] Tiriogaethau

[golygu] Economi

Mae economi Awstralia yn un gryf yn bennaf oherwydd y diwydiant mwyngloddio.

[golygu] Diwylliant

Mae demograffeg Awstralia yn dangos ei fod yn drefol iawn, efo rhan helaeth o'r boblogaeth yn byw yn y dinasoedd ar yr arfordir. Mae'r dinasoedd hyn yn cynnal amrywiaeth o ddiwylliannau, o'r bobl frodorol (Aborigine) i'r mewnfudwyr o Ewrop.

[golygu] Chwaraeon

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Flag of Australia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Offer personol
Ieithoedd eraill