Mynydd Kosciuszko

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynydd Kosciuszko
Snowy Mountains
Mynydd Kosciuszko
Llun Mynydd Kosciuszko
Uchder 2,228m
Lleoliad Awstralia
Gwlad Awstralia


Mynydd uchaf Awstralia yw Mynydd Kosciuszko (Saesneg: Mount Kosciuszko). Saif y mynydd, sy'n 2,228 medr o uchder, yn y Snowy Mountains yn New South Wales.

Dringwyd y mynydd yn 1840 gan y fforiwr a dringwr Pwylaidd Paweł Edmund Strzelecki, a enwodd y mynydd ar ôl Tadeusz Kościuszko, arwr cenedlaethol Gwlad Pwyl. Mae'r ardal o amgylch y mynydd yn ffurfio Parc Cenedlaethol Kosciuszko, sydd ag arwynebedd o 6,900 km².

Cyfeiriadau[golygu]