Saesneg
| Saesneg | ||
|---|---|---|
| English | ||
| Ynganiad | Nodyn:IPAc-en[1] | |
| Siaredir yn | (gweler isod) | |
| Cyfanswm siaradwyr | Iaith gyntaf: 309–400 miliwn Ail iaith: 199 miliwn–1.4 biliwn[2][3] Cyffredinol: 500 miliwn–1.8 biliwn[3][4] |
|
| Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
| System ysgrifennu | Lladin (Amrywiolyn Lloegr) | |
| Statws swyddogol | ||
| Iaith swyddogol yn | 53 gwlad Y Cenhedloedd Unedig Undeb Ewropeaidd Y Gymanwlad Cyngor Ewrop NATO CMRGA STA SyGI SYyCT CUDAD |
|
| Rheolir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | en | |
| ISO 639-2 | eng | |
| ISO 639-3 | eng | |
| Wylfa Ieithoedd | 52-ABA | |
|
Gwledydd lle mai iaith swyddogol neu de facto yw'r Saesneg, neu iaith genedlaethol Gwledydd lle mai iaith swyddogol yw hi ond nid yn brif iaith |
||
| Nodyn: Efallai bod gan y dudalen hon symbolau ffonetig IPA yn Unicode. | ||
Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (Saesneg: English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.
Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.
Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.
Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.
Cynnwys |
[golygu] Ymadroddion
- Saesneg: English
- Pa hwyl: Hello
- Bore da: good morning
- Hwyl Fawr: goodbye
- Os gwelwch yn dda: please
- Diolch: thank you
- Cymraeg: Welsh
- Sut mae?: Alright?
- Sut ydych chi?: How are you?
- Rydw i'n: I am
- Ble mae'r ysgol?: Where's the school?
- Ble mae'r ysbyty?: Where's the hospital?
[golygu] Gramadeg Saesneg
Mae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i'w chymharu â'r Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo-Ewropeaidd. Serch hyn mae gramadeg yr ieithoedd Romawns a'r Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag ydyw i'r Gymraeg.
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ English Adjective - Oxford Advanced Learner's Dictionary - Gwasg Prifysgol Rhydychen ©2010.
- ↑ gweler: Ethnologue (1984 amcangyfrif); The Triumph of English, The Economist, Rhag. 20, 2001; Ethnologue (1999 amcangyfrif); 20,000 Teaching Jobs. Oxford Seminars.
- ↑ 3.0 3.1 Lecture 7: World-Wide English. EHistLing.
- ↑ Ethnologue (1999 amcangyfrif);