Imperialaeth

Oddi ar Wicipedia
Cecil Rhodes yn stradlu cyfandir yr Affrig mewn poster propaganda ar gyfer rheilffordd o Dref y Penrhyn i Gairo. Llwyddodd Rhodes i arwain yr Ymerodraeth Brydeinig o flaen grymoedd Ewropeaidd eraill yn yr Ymgiprys am Affrica.

Polisi o wledydd grymus yn estyn a chadw rheolaeth, awdurdod neu ddylanwad dros genhedloedd llai yw imperialaeth, yn aml yn hanesyddol trwy godi ymerodraethau. Gall hyn digwydd naill ai trwy goncwestau uniongyrchol neu drwy ddulliau anuniongyrchol megis dylanwadu ar neu reoli gwleidyddiaeth neu economi rhanbarth. Mae imperialaeth yn debyg i wladychiaeth (modd mwy eithafol o gael awdurdod neu ddylanwad, trwy gyfeddiannaeth a cholled sofraniaeth).

Hanes[golygu | golygu cod]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd imperialaeth yn yr henfyd fel cyfres o ymerodraethau mawr, megis ymerodraeth Alecsander Fawr a'r Ymerodraeth Rufeinig. Cododd rhain pan ceisiodd un pobl, yn aml yn cynrychioli gwareiddiad neu grefydd benodol, i dra-arglwyddiaethu ar eraill trwy greu cyfundrefn unedig o reolaeth.

Hen Imperialaeth[golygu | golygu cod]

Galwyd imperialaeth Ewropeaidd gynnar yn Hen Imperialaeth, a dywedir taw cymhellion ehangiad trefedigaethol tramor o'r bymthegfed i'r ddeunawfed ganrif oedd "aur, gogoniant ac efengyl" (sef cyfoeth, pŵer a lledaeniad Christnogaeth). Yn hytrach nag un gwladwriaeth yn ceisio uno'r byd, yn y cyfnod hwn bu nifer o wladwriaethau yn sefydlu rheolaeth wleidyddol dros diriogaethau yn Ne a De-ddwyrain Asia a'r Byd Newydd. Chwaraeodd egwyddorion mercantiliaeth rôl neilltuol, gyda phob ymerodraeth yn ceisio monopoleiddio masnachau'u tiriogaethau i elwa cymaint â gallent o'u tiroedd newydd.

Imperialaeth Newydd[golygu | golygu cod]

Imperialaeth Newyddgw  sg  go )
Codiad Imperialaeth Newydd
Imperialaeth yn Asia
Yr Ymgiprys am Affrica
Diplomyddiaeth y Ddoler
Damcaniaethau ar Imperialaeth Newydd

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymddangosodd Imperialaeth Newydd, a seilir ar fasnach rydd. Ehangodd rym a dylanwad Ewropeaidd, yn enwedig Prydeinig, trwy ddulliau diplomyddol ac economaidd, yn hytrach na drwy reolaeth drefedigaethol ffurfiol. Ond ni pharhaodd imperialaeth fasnach rydd am hir: erbyn diwedd y ganrif roedd pwerau Ewrop unwaith eto yn ymarfer imperialaeth ar ffurf cyfeddiannaeth drefedigaethol dramor, yn ymestyn i Affrica, y Dwyrain Canol, Canolbarth a Dwyrain Asia a'r Cefnfor Tawel.

Imperialaeth Fodern[golygu | golygu cod]

Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, pan diddymodd y mwyafrif o ymerodraethau, cymerodd imperialaeth modern economaidd, sef globaleiddio, lle yr hen gysyniadau o imperialaeth. Defnyddir reolaeth yn anffurfiol ac yn llai amlwg. Er enghraifft, mae gan Unol Daleithiau America dylanwad cryf dros wledydd datblygol fel archbwer economaidd a'i huchafiaeth mewn sefydliadau ariannol rhyngwladol megis Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Hefyd, mae gwladwriaethau Ewropeaidd wedi parhau i gael effaith ar wleidyddiaeth ac economeg eu cyn-drefedigaethau (fel dylanwad y Deyrnas Unedig ar wledydd y Gymanwlad), ac o ganlyniad maent wedi cael eu cyhuddo o neo-wladychiaeth, sef sofraniaeth effeithiol heb reolaeth ffurfiol.

Cymhellion[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, cymellwyd gwladwriaethau i imperialaeth naill ai am resymau economaidd, gwleidyddol, neu ideolegol. Mae damcaniaethau ynglŷn ag imperialaeth yn dilyn yr un drefn, yn ôl pa gymhellion a welir yn flaenaf.

Cymhellion economaidd[golygu | golygu cod]

Un o brif gymhellion gwladwriaethau ar gyfer imperialaeth yw'r gallu i helaethu'u heconomïau, ennill deunyddiau crai a llafur, a darganfod safleoedd masnachu. Dau ddamcaniaethwr o fewn yr is-bwnc hwn oedd Karl Marx a Lenin.

Cymhellion gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Prif gymhelliad arall ar gyfer imperialaeth yw gwleidyddiaeth: grym, diogelwch, neu ddiplomyddiaeth, e.e. ehangiad yr Undeb Sofietaidd yn Nwyrain Ewrop ar ôl 1945 i ddiogelu'r famwlad rhag goresgyniad o'r gorllewin.

Cymhellion ideolegol[golygu | golygu cod]

Cartŵn, gyda'r enw "The White Man's Burden", a gyhoeddwyd yn The Journal, Detroit yn ystod Rhyfel Y Philipinau-Unol Daleithiau America yn dangos Americanwr yn cario brodor an-Orllewinol ystrydebol i ysgoldy.

Canolbwyntir un ddosbarth o resymau dros imperialaeth ar gymhellion ideolegol a moesol. Yn ôl y safbwynt hwn mae credoau gwleidyddol, diwylliannol neu grefyddol yn arwain gwladwriaethau i weld imperialaeth fel "gweithgaredd cenhadol". Un o gymhellion yr Ymerodraeth Brydeinig oedd y syniad taw "Baich y Dyn Gwyn" oedd hi i wareiddio yr "anwariaid" y tu allan i'r Gorllewin. Seilir ehangiad milwrol y Drydedd Reich ar gred y Natsïaid yng ngoruchafiaeth yr Almaenwyr, neu'r Ariaid. Yn ystod y Rhyfel Oer gwelwyd imperialaeth a yrrir gan bryderon moesol ac ideolegol gan y ddau archbwer: awydd Unol Daleithiau America i "amddiffyn rhyddid" ac awydd yr Undeb Sofietaidd i "ryddhau" pobl Dwyrain Ewrop a'r byd datblygol.

Damcaniaethau Comiwnyddol ar Imperialaeth[golygu | golygu cod]

Ni chyhoeddodd Karl Marx gwaith cynhwysfawr ar imperialaeth, er iddo gyfeirio ato yn Das Kapital.

Diffiniodd Lenin imperialaeth yn "gam uchaf cyfalafiaeth", yn benodol, yr oes lle mae cyfalaf monopoli yn tra-arglwyddiaethu. Mae hyn yn gorfodi i wledydd a chorfforaethau gystadlu dros reolaeth adnoddau a marchanadoedd led-led y byd. Gall hyn fod yn rheolaeth gwleidyddol, milwrol, neu ariannol.

Hanfod damcaniaethau Marxaidd ar imperialaeth yw'r ffaith eu bod yn canolbwyntio ar y berthynas economaidd rhwng wledydd, yn hytrach na'u perthynas gwleidyddol swyddogol. Nid yw un wlad o rheidrwydd yn rheoli gwlad arall yn uniongyrchol; yn hytrach, mae un rhanbarth neu grŵp yn goruchafu'n economaidd ar un arall. Mae'r defnydd hwn o'r term, felly, yn wahanol i'r dealltwriaeth arferol ohono fel rhywbeth yn ymwneud â gwladychiaeth yn bennaf.

Yn ôl damcaniaethau Marx, dim ond llafur neu gyfalaf newidiol sy'n creu elw ar ffurf gorwerth. Wrth i'r gymhareb rhwng y gorwerth a'r swm cyfalaf ostwng, gostwng hefyd mae'r cyfradd elw ar fuddsoddiad cyfalaf. Dywedodd Lenin fod imperialaeth yn galluogi i gyfalafwyr o wledydd cyfoethog echdynnu gor-elw o ddosbarth gweithiol gwledydd tlawd, gan alluogi iddynt osgoi gostyngiad yn y cyfradd elw. "Gor-elw" yw'r enw ar elw ar fath am ei fod yn uwch na'r cyfraddau cyfartalog yng ngwledydd yr imperialwyr. Cedwir y rhan fwyaf o'r gor-elw gan y cyfalafwyr eu hunain, ond caiff ychydig ohono ei ranu gyda dosbarth gweithiol y gwlad cyfoethog, er mwyn osgoi chwyldro yno.

Honodd yr Undeb Sofietaidd ei bod yn dilyn egwyddoriol Lenin, a'i bod yn elyn i imperialaeth. Fodd bynnag, ar yr un pryd, roedd yn goruchafu ar wledydd Dwyrain Ewrop. Roedd ei gwrthwynebwyr yn honi fod hyn yn ragrith ar ran y llywodraeth Sofietaidd.

Ymysg comiwnyddion cyfoes ac eraill, mae llawer yn gweld globaleiddio yn ffurf fodern ar imperialaeth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Ffynonellau trydyddol[golygu | golygu cod]

  • Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: gor-elw o'r Saesneg "superprofit". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.