Y Gymanwlad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am Y Gymanwlad yw hon. Am ddefnyddiau eraill o'r gair gweler Cymanwlad (gwahaniaethu).

Cymdeithas o wledydd a gwladwriaethau annibynol yw'r Gymanwlad. Y Deyrnas Unedig a'i chyn wladfeydd sy'n ffurfio mwyafrif llethol aelodau'r Gymanwlad. Ail dydd Iau mis Mawrth yw Dydd y Gymanwlad.

Mae brenhines y DU yn ben gwladwriaeth mewn nifer o aelod-wladwriaethau, sef yn Nheyrnasoedd y Gymanwlad. Mae mwyafrif aelodau y Gymanwlad yn weriniaethau neu yn deyrnasau. Ond mae pob un ohonynt yn cydnabod y Elisabeth II fel pen y Gymanwlad.

Hanes ac aelodaeth[golygu]

Olynydd yr Ymerodraeth Brydeinig yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol yn Statud Westminster ym 1931.

Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yr India o dan ddylanwad Mohandas Gandhi) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'r Ail Ryfel Byd. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Burma (a elwir yn awr yn Myanmar; 1948) a De Yemen (1967). Bu Iwerddon yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym 1949. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.

Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd y Môr Tawel yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau ag Awstralia. Mae Namibia yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli gan De Affrica o 1920 hyd at 1990, sef blwyddyn ei hannibyniaeth. Ymunodd Camerŵn ym 1995 serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafodd Mosambic ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.

Gwaharddwyd aelodaeth Ffiji a Phacistan am amser o achos cwymp eu llwyodraeth democrataidd a sefydliad llywodraeth milwrol. Gwaharddwyd De Affrica yn ystod adeg Apartheid ac ni ailgydiodd yn ei haelodaeth hyd at 1994. Gwaharddwyd Nigeria rhwng 1995 a 1999 a Simbabwe ers 2002 oherwydd problemau polisiau Robert Mugabe.

Strwythr ac amcanion[golygu]

Elisabeth II yw pen y sefydliad. Ers 1965 mae Swyddfa'r Gymanwlad yn Llundain. Ar hyn o bryd Don MacKinnon, a oedd gynt yn Weinidog Tramor Seland Newydd, yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad.

Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemau Rhodesia, yn y 1970au, ac apartheid yn Ne Affrica, yn y 1980au. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.

Heddiw, hybu cydweithrediad rhwng gwledydd, cryfhau iawnderau dynol a democratiaeth yw gwaith pennaf y Gymanwlad.

Aelodau[golygu]

Aelodau'r Gymanwlad

(yn nhrefn y cyfandiroedd a blwyddyn eu hymuno)

Ewrop

Gogledd America

De America

Affrica

Asia

Oceania

Aelodau gwaharddedig ar hyn o bryd:

Cyn aelodau: