Fanwatw

Oddi ar Wicipedia
Vanuatu
ArwyddairIn God we stand Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth archipelagig Edit this on Wikidata
Lb-Vanuatu.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Vanuatu.wav, LL-Q9027 (swe)-Moonhouse-Vanuatu.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasPort Vila Edit this on Wikidata
Poblogaeth300,019 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 30 Gorffennaf 1980 Edit this on Wikidata
AnthemYumi, Yumi Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBob Loughman Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+11:00, Pacific/Efate Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Bislama, Ffrangeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMelanesia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
GwladBaner Lesotho Lesotho
Arwynebedd12,190 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17°S 168°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of Vanuatu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Vanuatu Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethNikenike Vurobaravu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Fanwatw Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBob Loughman Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$971.6 million, $983.6 million Edit this on Wikidata
ArianVanuatu vatus Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.347 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.607 Edit this on Wikidata

Ynysfor yn ne'r Cefnfor Tawel yw Gweriniaeth Fanwatw (neu Vanuatu). Y brifddinas yw Port Vila.

Hanes[golygu | golygu cod]

Arfbais Condominiwm Ynysoedd Heledd Newydd

Cafodd ynysoedd Fanwatw eu coloneiddio gan yr Ymerodraeth Brydeinig a gan Ffrainc. Rhwng 1906 a 1980, enw swyddogol Fanwatw oedd Condominiwm Ynysoedd Heledd Newydd (Ffrangeg: Condominium des Nouvelles-Hébrides, Saesneg: New Hebrides Condominium). Roedd gan y Condominiwm strwythur cymhleth er mwyn rhannu grym rhwng y Ffraincwyr a'r Prydeinwyr, gyda dau gymuned at ddibenion addysg ac ati, a thri llywodraeth. Ym 1980, daeth y wlad yn annibynnol, a mabwysiadwyd yr enw Vanuatu yn swyddogol.

Ieithoedd[golygu | golygu cod]

Mae Fanwatw yn wlad hynod amrywiol o ran ieithoedd, gyda 108 iaith brodorol, allan o boblogaeth o ddim ond 272 000. Mae'r holl ieithoedd hyn yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd, ac yn benodol i is-deulu'r ieithoedd Cefnforol. O'u mewn, mae tair iaith yn y grŵp polyneseg, naw sy'n rhan o grŵp De Fanwatw, a'r gweddill yn perthyn i grŵp Gogledd a Chanol Fanwatw. Nid yw cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt yn bosib. Yn ogystal â'r 108 iaith brodorol hyn, daeth nifer o ieithoedd i Fanwatw gyda gwahanol bobl a gyrhaeddodd yn ystod yr 20g: Ffidjïeg, Tahiteg, Tongeg, Gilberteg, Fietnameg, Wallisieg, a ieithoedd o Tsieina gan gynnwys Hakka.

Mae gan weriniaeth Fanwatw dair iaith swyddogol: Ffrangeg a Saesneg, ieithoedd coloneiddiol, a Bislamar. Pijin yw Bislamar, sef iaith gyffredin (Lingua franca) wedi ei symleiddio, ar sail geirfa a gramadeg iaith arall, Saesneg yn yr achos hwn. Mae nifer o eiriau benthyg Bislamar yn dod o'r Ffrangeg a ieithoedd Gogledd Fanwatw yn ogystal. Prin yw defnydd y boblogaeth wledig (79 % o'r boblogaeth gyfan ym 1996) o'r Ffrangeg a'r Saesneg, ond mae Bislamar yn iaith gyffredin ledled yr ynysfor. le bichelamar est la langue véhiculaire commune à tout l'archipel. Ac eithrio yn y trefi, nid yw Bislamar yn cymryd lle'r ieithoedd brodorol, sydd heb eu heffeithio ganddi, heblaw benthyg geiriau o dro i dro.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fanwatw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.