Ynys y Nadolig
Tiriogaeth fechan yn ne-ddwyrain Cefnfor India sy'n perthyn i Awstralia yw Ynys y Nadolig (Saesneg: Christmas Island). Mae'n gorwedd tua 2600 cilometr (1600 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Perth, Gorllewin Awstralia, 500 cilometr (300 milltir) i'r de o Jakarta, Indonesia, a 975 km i'r gogledd-ddwyrain o'r Ynysoedd Cocos (Ynysoedd Keeling). Er ei bod yng Nghefnfor India mae'n cael ei chyfrif fel rhan o Oceania oherwydd ei lleoliad daearegol.
Mae tua 1,600 o bobl yn byw ar Ynys y Nadolig, yn bennaf ar ben ogleddol yr ynys, mewn sawl "pentref" bychan: Flying Fish Cove (neu Kampong), Silver City, Poon Saan a Drumsite.
Mae gan yr ynys dirwedd unigryw sy'n ei gwneud o ddiddordeb mawr i wyddonwyr a naturiaethwyr oherwydd y nifer fawr o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion brodorol a geir yno. Fel fauna a flora Ynysoedd Galapagos, maent wedi esblygu ar wahân heb fawr ymyrraeth gan bobl.
Er bod mwyngloddio ar yr ynys ers degawdau mae 65% o'i 135 km sgwar (52 milltir sgwar) yn barc cenedlaethol a cheir sawl coedwig law hynafol a heb ei halogi gan weithgareddau dynol.
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan llywodraeth yr ynys (Saesneg)
|
Awstralia · Ynysoedd Cocos · Ynys y Nadolig · Ynys Norfolk |
||
|
Caledonia Newydd · Fanwatw · Fiji · Papua Guinea Newydd · Ynysoedd Solomon |
||
|
Gwâm · Kiribati · Ynysoedd Gogledd Mariana · Ynysoedd Marshall · Taleithiau Ffederal Micronesia · Nawrw · Palaw |
||
|
Ynys Clipperton · Ynysoedd Cook · Niue · Ynysoedd Pitcairn · Polynesia Ffrengig · Samoa · Samoa Americanaidd · Seland Newydd · Tokelau · Tonga · Twfalw · Wallis a Futuna |