Seland Newydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
New Zealand
Aotearoa

Seland Newydd
Baner Seland Newydd Arfbais Seland Newydd
Baner Arfbais
Arwyddair: dim (Onward yn flaenorol (sef "ymlaen"))
Anthem: God Defend New Zealand
God Save The Queen
Lleoliad Seland Newydd
Prifddinas Wellington
Dinas fwyaf Auckland
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg, Maori,
Arwyddiaith Seland Newydd
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
- Brenhines Elisabeth II
- Llywodraethwr Cyffredinol Jerry Mateparae
- Prif Weinidog John Key
Annibyniaeth
(ar y Deyrnas Unedig)
26 Medi, 1907
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
268,680 km² (75ain)
2.1%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2006
 - Dwysedd
 
4,147,972 (124ain)
4,116,900
15/km² (193ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$97.59 biliwn (58ain)
$24,769 (27ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.933 (19eg) – uchel
Arian cyfred Doler Seland Newydd
(NZD)
Cylchfa amser
 - Haf
NZST (UTC+12)
NZDT (Hyd-Maw) (UTC+13)
Côd ISO y wlad .nz
Côd ffôn +64

Gwlad yn y Môr Tawel sydd yn cynnwys dwy ynys fawr (Ynys y Gogledd ac Ynys y De) a nifer o ynysoedd bychain yw Seland Newydd. Yn iaith y Maori, pobl wreiddiol yr wlad, Aotearoa yw ei henw, a chyfieithir yr enw yn aml fel "gwlad o dan gwmwl gwyn hir". Yn ôl y chwedlau, roedd cwmwl gwyn uwchben uwch pan ddaeth y bobl gyntaf i'r wlad.

Auckland ar Ynys y Gogledd yw'r ddinas fwyaf, ond Wellington (ar yr un ynys) yw'r brifddinas. Y mynydd uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 m (12,316')) ar Ynys y De. Awstralia yw'r wlad agosaf. Mae Caledonia Newydd, Ffiji a Thonga i'r gogledd, ond cryn bellter i ffwrdd. Er gwaethaf yr enw, dydy'r môr o gwmpas yr ynysoedd ddim yn dawel o gwbl yn aml, ac mae'n gallu ei gwneud yn anodd i hwylio ar draws y "Cook Strait" rhwng y ddwy brif ynys.

Y chwaraeon poblogaidd yw Rygbi, criced, socer a phêl-droed rheolau Awstralaidd. Enw tîm rygbi cenedlaethol Seland Newydd yw'r Crysau Duon (mae eu gwisg yn gwbwl ddu). Mae'r ddawns ryfel "Haka" yn cael ei gwneud yn aml cyn eu gêmau.

Mae'r aderyn Kiwi yn symbol o'r wlad, a defnyddir Kiwi yn anffurfiol fel enw neu ansoddair am y wlad neu'r bobl.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Seland Newydd

Y ddwy ynys fwyaf o'r ynysoedd sy'n ffurfio Seland Newydd yw Ynys y Gogledd ac Ynys y De, gyda Culfor Cook yn eu gwahanu. Ynys y De yw'r fwyaf, ac yma y ceir y mynyddoedd uchaf. Mae Alpau Seland Newydd yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr ynys. Y copa uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 medr), ac mae 16 copa arall fros 3,000 medr. Mae Ynys y Gogledd yn llai mynyddig, ond ceir llosgfynyddoedd yma. Copa uchaf Ynys y Gogledd yw Ruapehu, llosgfynydd sy'n 2,797 medr o uchder.

Trydydd ynys Seland Newydd yn ôl arwynebedd yw Ynys Stewart, sydd 30 km o'r de o Ynys y De, ar draws Culfor Foveaux. O tan poblogaeth, Ynys Waiheke, 18 km o arfordir Auckland yng Ngwlff Hauraki yw'r drydedd ynys. Ceit hefyd lawer o ynysoedd bychaibn.

Demograffeg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Demograffeg Seland Newydd

Mae gan Seland Newydd boblogaeth o tua 4.3 miliwn. O'r rhain, mae tua 78% yn ystyried eu bod o dras Ewropeaidd. Yn aml, defnyddir y term Maori Pākehā am bobl o dras Ewropeaidd. Ffurfia'r Māori 14.6% o'r boblogaeth yn ôl cyfrifiad 2006 census. O'r gweddill, roedd 9.2% o dras Asiaidd (wedi cynyddu o 6.6% yng nghyfrifiad 2001), ac roedd 6.9% o dras Ynysoedd y Cefnfor Tawel.

Mae tua 80% o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoiedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw:

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Seland Newydd

Poblogwyd Seland Newydd yn hwyrach na'r rhan fwyaf o'r byd. Credir i bobl gyrraedd yno gyntaf o ynysoedd Polynesia rhwng 1000 a 1300, we fod peth tystiolaeth yn awgrymu y gallent fod wedi cyrraedd yno ychydig ynghynt. Y bobl yma oedd hynafiaid y Maoriaid.

Mae'n bosibl i fforwyr Sbaenig gyrraedd yr ynysoedd yn 1576, ond nid oes sicrwydd o hyn. Yn mis Rhagfyr 1642, angorodd y fforiwr Abel Janszoon Tasman o'r Iseldiroedd yn ei longau Heemskerck a Zeehaen, ger gogledd Ynys y De. Gwrthwynebwyd ef gan y brodorion, a hwyliodd tua'r gogledd i Tonga. Yn ddiweddarach, archwiliwyd arfordir Seland Newydd gan James Cook yn ei long Endeavour yn 1769 a 1770.

O 1790 ymlaen, dechreuodd helwyr morfilod o wahanol wledydd ymweld a'r ynysoedd yn gyson. Daeth yn drefedigaeth Brydeinig yn 1840, pan arwyddwyd Cytundeb Waitangi rhwng Prydain a phenaethiaid y Maori. Dilynwyd hyn gan fewnfudo o Ewrop, yn enwedig o Loegr, yr Alban ac Iwerddon.

Cafodd y wlad fesur o ymreolaeth yn 1852, ac yn 1867 cafodd y Maoriaid hawl i seddau arbennig yn y Senedd.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Seland Newydd

Diwylliant[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Seland Newydd
Tren ar Fwlch Weka.

Economi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Seland Newydd

Mae gan Seland Newydd economi fodern, datblygiedig a llewyrchus gyda CMC amcangyfrifol o $115.624 biliwn (2008). Mae ganddi safon byw cymharol uchel gyda CMC o $27,017 y pen, sy'n gymharol â De Ewrop. Ers 2000, gwnaeth Seland Newydd gynnydd sylweddol yn incwm canolog y cartref. Ni effeithiwyd Seland Newydd ac Awstralia gan ddirwasgiad dechrau'r 2000au a effeithiodd ar y rhan fwyaf o wledydd Gorllewinol eraill. Fodd bynnag, gostyngodd CMC ymhob un o'r pedwar chwarter yn 2008.

Yn ôl nifer o arolygon rhyngwladol, mae gan drigolion Seland Newydd lefelau uchel o foddhad a hapusrwydd personol; mae hyn er waethaf lefelau CMC y-pen sy'n llai na nifer o wledydd OECD eraill. Rhoddwyd y wlad ar safle 20 ar Fynegai Datblygiad Dynol 2008 ac yn 15fed ar fynegai safon byw rhyngwladol The Economist yn 2005. Rhoddwyd y wlad ar safle rhif 1 o safbwynt boddhad bywyd ac yn 5ed o ran llewyrch cyffredinol ar fynegai llewyrch Legatum Institute yn 2007. Yn ogystal a hyn, rhoddodd Arolwg Safon Byw Mercer yn 2009 Auckland ar safle 4 a Wellington yn 12fed fel y llefydd gorau yn y byd i fyw. Mae trethi yn Seland Newydd yn llai nag mewn nifer o wledydd OECD eraill. Seland Newydd yw un o'r economiau cyfalafol y farchnead rydd fwyaf yn ôl mynegai rhyddid economaidd.

Sector fwyaf yr economi yw'r sector gwasanaethau (68.8% o CMC), ac yna cynhyrchu ac adeiladu (26.9% o CMC) tra bod ffermio a mwyngloddio deunyddiau crai yn cyfri am 4.3% o'r CMC.